Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ein Themâu Darparu Strategol

Dylunio Digidol

Byddwn yn dylunio ac yn datblygu gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion ein preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.

Defnyddio'r Dechnoleg Gywir

Rhaid i ni sicrhau bod y dechnoleg rydym yn ei defnyddio yn gadarn, yn ddiogel yn effeithlon a bod posibl iddi dyfu er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr.

Gwneud Penderfyniadau ar Sail Data ac Ymchwil

Byddwn yn moderneiddio sut rydym yn rheoli ac yn rhannu ein data, gan ymgorffori ymchwil a dadansoddi data yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, tra’n creu'r gallu, y seilwaith, y gwytnwch a’r cydweithrediadau cywir

Ein pobl

Ein pobl yw rhan bwysicaf y strategaeth hon. Hebddynt, ni fyddem yn gallu darparu gwasanaethau i'n preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.