Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefndir

Mae Digidol, Data a Thechnoleg (DDaTh) yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau'r cyngor yn llwyddiannus. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i fabwysiadu'r DDaTh gorau i drawsnewid y  gwasanaethau rydym yn eu darparu i'n trigolion, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.

Mae'r Strategaeth DDaTh hon yn nodi ein dull o adeiladu ar y sylfeini a nodwyd eisoes drwy ein strategaeth ddigidol flaenorol (Clyfar a Chysylltiedig 2018-2022) ac yn amlinellu sut y byddwn yn croesawu dulliau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg er mwyn darparu'r cynhyrchion a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gwerth gorau i'n defnyddwyr.

Rydym yn cydnabod bod DDaTh bellach wedi'i integreiddio i fywyd pob preswylydd - ni waeth a ydynt yn ymgysylltu yn uniongyrchol ac yn  defnyddio gwasanaethau digidol eu hunain ai peidio. O ymgysylltu â'ch meddyg teulu, i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, cael eich siopa wedi'i ddanfon neu drefnu i gael casglu gwastraff swmpus, mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau o'r ystod o wasanaethau digidol y mae llawer bellach yn eu cymryd yn ganiataol.

NPT Panoramic

Fel cyngor, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i helpu ein pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i fanteisio ar fanteision bod ar-lein. Rydym yn deall bod ystod eang o resymau pam y gallai pobl ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau (gan gynnwys sgiliau, fforddiadwyedd, argaeledd cysylltedd band eang, dewis personol ac ati), gan gydnabod bod hyn hefyd yn eu hatal rhag gallu manteisio ar  wasanaethau allweddol o sianelau'r llywodraeth i siopa ar-lein.

Er mwyn cefnogi ein trigolion sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
ymhellach, drwy Amcan Llesiant 2 yn y Cynllun Corfforaethol - 'Mae
pob cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy’, rydym wedi nodi nod clir
i sicrhau bod gan ‘bobl gysylltiadau yn eu cymuned; bydd cysylltiad
rhwn cymunedau a'i gilydd a'r byd ehangach trwy wasanaethau
digidol a rhwydweithiau trafnidiaeth o safon uchel'. Mae'r Cyngor
hefyd wedi ymrwymo i'r the Siarter Cynhwysiant Digidol, sy'n anelu at
hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein.

Yn ystod y pandemig, gwnaethom brofi cynnydd digynsail yn y ddibyniaeth ar Wasanaethau Digidol i gefnogi'r sefydliad i gynnal darpariaeth gwasanaethau. O fod yn sail i bontio i weithio hybrid i bob gweithiwr swyddfa, i ddatblygu ffurflenni talu grant ar-lein cymhleth i fusnesau a thrigolion, trwy ddefnyddio DDaTh yn effeithiol, rydym wedi darparu ffyrdd dyfeisgar o gefnogi'r sefydliad yn gyson er mwyn cyflawni ei nodau a'i amcanion, drwy'r cyfnod mwyaf heriol.

Mae'r pwysau eithafol y mae cyllidebau'r sector cyhoeddus yn ei wynebu wedi'i gofnodi'n glir, fodd bynnag, rydym yn cydnabod y cyfleoedd a llweddol y mae DDaTh yn ei gyflwyno i gefnogi'r her sefydliadol hon. Trwy ddefnyddio DDaTh, byddwn yn parhau i yrru gwerth a gwella gwasanaethau ar draws meysydd gwasanaeth, tra'n darparu arbedion effeithlonrwydd ac arbedion. Byddwn hefyd yn sicrhau bod aliniad â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

Mae pwysigrwydd gwasanaethau digidol yn parhau i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau, trawsnewid ac effeithlonrwydd yn glir. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i fuddsoddi'n barhaus yng ngalluoedd DDaTh y cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein heriau presennol ac yn y dyfodol yn llwyddiannus.

Neath panoramic