Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dylunio Digidol

Byddwn yn dylunio ac yn datblygu gwasanaethau digidol yn seiliedig ar anghenion ein preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr

  • Parhau i ddod â dylunio gwasanaethau a meddwl am gynnyrch i'r cyngor, gan ddarparu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr o ran dylunio a darparu ein gwasanaethau digidol.
  • Dylunio ac adeiladu gwefan flaengar, hygyrch sydd wedi’i siapio gan anghenion ein defnyddwyr.
  • Moderneiddio profiad mynediad cwsmeriaid, gan gofleidio hunanwasanaeth a chyfleoedd digidol, megis creu platfform digidol omni-sianel (sy’n darparu profiad unedig di-dor i ddefnyddwyr) i'n trigolion a'n busnesau.
  • Integreiddio ein platfformau digidol, lle bo hynny'n briodol, gyda'r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar-lein eraill y mae ein cymunedau'n eu defnyddio er mwyn darparu profiad mwy ydlynol a phersonol.
  • Moderneiddio ac adnewyddu ein gwasanaethau craidd (e.e. y system dalu ar-lein).
  • Gwella ein gwasanaethau ar-lein fel bod ceisiadau'n cael eu cwblhau ar yr ymgais gyntaf.
  • Dim ond unwaith y bydd angen i'n trigolion a'n busnesau rannu eu gwybodaeth gyda ni, gyda phrofiad cyffredinol gwell i'r defnyddiwr.
  • Bydd ein trigolion a'n busnesau yn gweld bod ein
    gwasanaethau digidol yn hawdd eu defnyddio, eu darganfod
    a'u deall. Byddant yn hygyrch heb fod angen i'r cwsmer wybod pa wasanaeth neu adran sydd ei angen arnynt, tra'n darparu dull teg i'r rhai na allant ymgysylltu'n ddigidol – gan arwain at well boddhad â gwasanaethau'r cyngor.
  • Bydd ein trigolion a'n busnesau’n gallu rhoi adborth uniongyrchol ar ein gwasanaethau digidol a byddant yn hyderus y byddwn yn eu gwella o ganlyniad i'w hadborth.
  • Gwell cefnogaeth i gwsmeriaid hirdymor meysydd busnes mawr fel gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.
  • Bydd staff yn treulio llai o amser yn delio ag ymholiadau arferol.
  • Gwell boddhad staff trwy well profiad a defnydd o DDaT.
  • Aelodau etholedig hapusach gyda llai o gwynion preswylwyr.
  • Darparu gwasanaethau y gellir eu cwblhau'n gyfan gwbl ar-lein gyda chymorth digidol os oes angen.
  • Defnyddio dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar draws ein holl wasanaethau ar-lein presennol a newydd, gan eu gwneud yn ddiogel, yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch, gan ddysgu gan y gorau o sefydliadau'r llywodraeth a'r sector preifat
  • Parhau i weithio i gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant digidol, gan ysgogi cydweithio agored a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr – gan hyrwyddo ein cydweithrediad â sefydliadau fel Cwmpas, Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, Llywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac unrhyw gyrff eraill a fydd yn cefnogi cynhwysiant digidol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar draws y gymuned ehangach yng Nghymru
  • Dysgu gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a'r sector
    preifat er mwyn datblygu ymhellach ein hegwyddorion dylunio digidol ein hunain a'u gwreiddio ar draws y cyngor.
  • Adolygu a mapio teithiau presennol cwsmeriaid ar draws y cyngor fel man cychwyn ar gyfer mapio dyluniad gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y person.
  • Adolygu a dylunio gwasanaethau digidol newydd, gan ganolbwyntio ar feysydd profiad gwael preswylwyr a busnesau ar hyn o bryd, gwasanaethau defnydd uchel, a phrosesau sy’n gofyn am lawer iawn o waith llaw, gan sicrhau dull 'Un Cyngor'.
  • Datblygu un platfform digidol cydlynol sy'n rhoi drws ffrynt digidol personol i drigolion a busnesau i wasanaethau'r cyngor.
  • Rhoi diweddariadau cynnydd awtomataidd i breswylwyr a busnesau ar ôl iddynt wneud cais, gwella’u profiad cwsmer a lleihau methiant.
  • Byddwn yn croesawu technolegau newydd lle bo hynny'n briodol, gan ddatblygu diwylliant o arloesi er mwyn gwella gwasanaethau i'n cwsmeriaid.
  • Darparu cymorth digidol os oes angen cymorth ar drigolion a busnesau i gwblhau cais.

Mae newid digidol cyflym wedi cynyddu disgwyliadau defnyddwyr o'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Rydym yn cydnabod yr angen i'n gwasanaethau digidol fodloni
a rhagori ar y disgwyliadau hyn lle bo hynny'n bosibl.

Er bod llawer o wasanaethau'r cyngor eisoes ar-lein, mae lle sylweddol i wella neu symleiddio'r gwasanaethau hyn. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o anghenion newidiol ein defnyddwyr,
ac yn gwella dyluniad, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau er mwyn darparu gwell profiad.

Ein gweledigaeth yw darparu profiad defnyddiwr di-dor ac integredig ar draws nifer o sianeli, gan gynnwys ar-lein, symudol, cymdeithasol, sgwrsio, dros y ffôn neu'n bersonol. Byddwn yn creu profiad cyson a chyfleus i'n defnyddwyr, waeth pa sianel y maent yn dewis rhyngweithio â'r cyngor, gan sicrhau ei fod ar gael pan fydd angen iddynt ei ddefnyddio. Mae ein Safonau Gwasanaeth Digidol CnPT yn nodi'n glir sut y bydd timau'r cyngor yn datblygu ac yn darparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau.

Er ein bod yn credu bod trawsnewid digidol yn allweddol i gyflawni'r her o sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau'r cyngor gyda llai o adnoddau, rhaid i'r trawsnewidiad gael ei arwain gan bobl ac nid gan dechnoleg, sy'n cysylltu â'r hwylusydd Datblygu Sefydliadol Digidol a nodir yn y Cynllun Corfforaethol.

Digital by Design

Nid yw dylunio gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu dim ond gosod technoleg ar ben ein gwasanaethau cyngor presennol, mae'n golygu ail-feddwl ein gwasanaethau
fel eu bod wedi'u cynllunio ar sail canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach nag anghenion y cyngor.

Wrth i'n defnyddwyr barhau i gynyddu eu rhyngweithiadau â'r cyngor drwy ein sianeli digidol, rydym yn rhagweld y bydd trawsnewid digidol yn sicrhau y bydd llawer o wasanaethau'r cyngor yn dod yn fwyfwy awtomataidd ac yn bwysicach fyth wedi'u cynllunio er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr.