Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ein Pobl

Ein pobl yw rhan bwysicaf y strategaeth hon. Hebddynt, ni fyddem yn gallu darparu gwasanaethau i'n preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.

  • Parhau i ddatblygu galluoedd DDaTh y cyngor.
  • Datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein gweithlu ar gyfer byd digidol a mynd i'r afael â bylchau sgiliau o fewn ein cyngor, gan gydnabod na fydd cymwyseddau a hyder yr un fath ar draws y gweithlu.
  • Parhau i adolygu rolau a llwybrau gyrfa i gefnogi'r proffesiwn DDaT.
  • Alinio gyda'r Strategaeth Dyfodol Gwaith.
  • Trawsnewid gweithrediad Desg Gwasanaeth y Gwasanaethau Digidol ymhellach er mwyn gwella rheoli digwyddiadau, newid, problemau ac asedau.
  • Sicrhau ymgysylltiad llawn â rhaglenni perthnasol gan gynnwys Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Optimeiddio ymgysylltiad a llesiant gweithwyr drwy fonitro lefelau
    salwch, adolygu iechyd a diogelwch, iechyd meddwl.
  • Sicrhau hyfforddiant DDaTh priodol ar gyfer y sefydliad – creu canolfannau rhagoriaeth i gefnogi arloesedd a hyrwyddo a rhannu
    arfer da – gan adeiladu ar y fenter Partneriaid Digidol
  • Cyflwyno enghreifftiau o ddylunio gwasanaethau ar draws y cyngor i arddangos trawsnewid digidol, awtomeiddio ac effeithlonrwydd ar draws y cyngor.
  • Cynnal ymchwil defnyddwyr a derbyn adborth parhaus gan staff i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt.
  • Datblygu a chyhoeddi map ffordd cyflenwi clir, gan gynnwys blaenoriaeth, adnoddau a cherrig milltir, i gyflawni prosiectau mawr.
  • Gwaelodlin a datblygu gweithrediadau digidol Cytundebau Lefel Gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth – rheoli disgwyliadau defnyddwyr terfynol.
  • Grymuso rheolwyr i sicrhau bod eu timau'n cymryd perchnogaeth o brosiectau a ffrydiau gwaith, fel ein bod yn rhedeg gwasanaeth tynnach, symlach.
  • Datblygu'r llwyfan profiad gweithwyr ymhellach.
  • Gweithredu ystorfa Polisi, Proses, Gweithdrefn a Chanllawiau Gwasanaethau Digidol (PPPG) sy'n cael ei reoli'n ganolog.
  • Hyrwyddo Llawlyfr Gwasanaethau Digidol CnPT, a chyfrannu at
    ddatblygu'r safonau cenedlaethol drwy'r Ganolfan Gwasanaethau
    Cyhoeddus Digidol.
  • Adnabod ac ymateb yn gyflym i anghenion gwasanaeth sy'n newid.
  • Galluogi gweithwyr i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
  • Adlewyrchu cyfansoddiad ein poblogaeth, gan gryfhau ein cysylltiad â'n cymunedau.
  • Cynyddu ein gallu i arloesi drwy fod yn sefydliad gwirioneddol amrywiol a chynhwysol.
  • Defnyddio mewnwelediad gweithwyr i yrru strategaethau effeithiol iawn sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial.
  • Darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon sy’n rhoi gwerth da am arian.
  • Creu brand cyflogwr deniadol ar gyfer DDaTh sy'n ein galluogi i  recriwtio a chadw gweithlu galluog iawn.
  • Darparu gwasanaethau digidol sy'n hygyrch i bawb.
  • Bod â gweithlu sydd â sgiliau digidol sy'n helpu i gyflawni nodau strategol y cyngor.
  • Gwella ymwybyddiaeth o sut y gall digidol wella holl wasanaethau'r cyngor – cynhyrchiant, llunio polisi, ac ati.
  • Creu llwybrau gyrfa ddigidol er mwyn sicrhau bod gennym y sgiliau
    cywir i ddarparu datrysiadau wedi’u dylunio sy’n canolbwyntio ar yr
    unigolyn ac sy’n darparu gwasanaethau dibynadwy effeithlon.
  • Meithrin amgylchedd hyblyg lle mae gan yr holl staff yr offer, y technegau a'r awdurdod i addasu i anghenion newidiol ein trigolion, ein busnesau, ein haelodau etholedig a’n hymwelwyr.
  • Ymddiried a chredu yn ein cydweithwyr a thrwy ein Cynllun Gweithlu Strategol byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu hyfforddi, eu cefnogi a'u hawdurdodi i wneud y pethau sy'n bwysig.
  • Gweithredu arweinyddiaeth wasgaredig a rolau/cyfrifoldebau datganoledig.
  • Annog arbrofi a dysgu o fethiant (lle diogel i fethu), rhannu gwersi,
    annog "llawenydd mewn gwaith a dysgu" a chyfraniad cyffredinol i
    ansawdd bywyd.
  • Adeiladu timau amlddisgyblaethol a grymuso staff i gyfrannu at
    yrru gwelliannau ym mhob maes.
  • Uwchsgilio lefelau cymhwysedd digidol y gweithlu e.e. cofleidio
    arloesedd a thrawsnewid.
  • Gweithio’n agored i rannu llwyddiant a methiant gyda sefydliadau
    sector cyhoeddus ehangach.

Mae ein Cynllun Gweithlu Strategol yn nodi pam fod gweithlu talentog, sydd â ffocws, yn hanfodol ar gyfer dod â'r blaenoriaethau strategol yn fyw, ac yn sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei amcanion llesiant. Mae'n amlinellu'n glir sut rydym yn ceisio helpu ein holl weithwyr i fod y gorau y gallant fod.

Er mwyn cyflawni’r newid sydd ei angen, yn ddiweddar rydym wedi cynnal yr ailstrwythuro mwyaf o’r Is-adran TG ers ffurfio’r awdurdod ym 1996. Nid mater o newid brand yn unig oedd hyn, o Is-adran TG i’r Is-adran Gwasanaethau Digidol – ond mae angen newid diwylliannol enfawr ar draws y sefydliad cyfan.

Er mwyn sicrhau bod gennym y bobl gywir gyda’r sgiliau cywir, mae angen i ni fod yn glir ynghylch y blaenoriaethau cyflawni ar gyfer y sefydliad a sicrhau bod gennym strwythur sefydliadol a all gyflawni. Gyda'r proffesiwn DDaTh newydd wedi'i nodi'n glir, rydym bellach yn datblygu sgiliau a galluoedd y staff presennol trwy arfarniadau a hyfforddiant, tra’n adnabod bylchau a mynd ati i recriwtio aelodau newydd i'r tîm.

Fodd bynnag, mae ein pobl yn mynd llawer ymhellach na gweithwyr proffesiynol DDaT. Rydym yn cydnabod yr angen i yrru symudiad diwylliannol o amgylch DDaTh ar draws y sefydliad cyfan, a fydd yn gofyn am arweiniad cryf ar draws pob haen reoli. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth a chreu ymrwymiad trwy ddangos yn barhaus werth DDaTh i ddylunio gwasanaethau er mwyn cefnogi meysydd sy’n cynnwys dylunio polisi a defnyddio data i wneud penderfyniadau gwybodus.

Our People