Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Strategaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg

Ein Gweledigaeth

Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn mabwysiadu'r Digidol, Data a Thechnoleg gorau er mwyn trawsnewid y gwasanaethau rydym yn eu  darparu i breswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.

Ein Nodau Strategol

  • Byddwn yn parhau i roi ein holl drigolion, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn.
  • Byddwn yn manteisio'n llawn ar y buddion trawsnewidiol y mae Digidol, Data a Thechnoleg (DDaTh) yn ei gynnig, drwy sicrhau ei fod yn dod yn rhan annatod o'r ffordd y mae'r cyngor yn gweithredu – ar draws pobl, prosesau a thechnoleg - wedi’i alinio â'r Cynllun Corfforaethol.
  • Byddwn yn sicrhau bod yr holl wasanaethau DDaTh yn gadarn, ymatebol, cynhwysol, moesegol, yn gallu tyfu ac yn ddiogel. Bydd hyn yn galluogi'r cyngor i ymgymryd â'i fusnes o ddydd i ddydd, cyflawni ei rwymedigaethau statudol a chefnogi trawsnewid busnes trwy gymhwyso DDaTh yn arloesol ar draws meysydd gwasanaeth.
  • Byddwn yn dod yn glyfar a chysylltiedig fel cyngor ac fel lle, gan gysylltu a defnyddio'r data sydd gennym i wella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i'n trigolion.

Ein Themâu Darparu Strategol

Dylunio Digidol

Byddwn yn dylunio ac yn datblygu gwasanaethau digidol yn seiliedig ar a nghenion ein preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.

Defnyddio'r Dechnoleg Gywir

Rhaid i ni sicrhau bod y dechnoleg rydym yn ei defnyddio yn gadarn, yn ddiogel yn effeithlon a bod posibl iddi dyfu er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr.

Gwneud Penderfyniadau ar Sail Data ac Ymchwil

Byddwn yn moderneiddio sut rydym yn rheoli ac yn rhannu ein data, gan ymgorffori ymchwil a dadansoddi data yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, tra’n creu'r gallu, y seilwaith, y gwytnwch a’r cydweithrediadau cywir

Ein pobl

Ein pobl yw rhan bwysicaf y strategaeth hon. Hebddynt, ni fyddem yn gallu darparu gwasanaethau i'n preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr.