Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Adeiladu ar ein sylfeini Clyfar a Chysylltiedig

Datblygwyd ein Strategaeth Ddigidol flaenorol, Clyfar a Chysylltiedig 2018-2022, er mwyn sicrhau bod y cyngor yn manteisio'n llawn ar fanteision  technolegau presennol a newydd. 

Er gwaethaf yr ymyriadau anochel Covid19, mae'r strategaeth wedi cyflawni'r mwyafrif helaeth o'i chamau gweithredu arfaethedig. Mae'r rhain wedi cynnwys meysydd allweddol fel prosiect 'Tracio Fy Nghais’ Gofal  Cymdeithasol a llenwi ffurflenni treth gyngor ar-lein.

Beth mae Clyfar a Chysylltiedig 2018-2022 wedi'i Gyflawni?

  • Datblygu Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y rhaglen gyfan.
  • Datblygu a chyflwyno system ‘OUCH’ ymhellach gan alluogi rheolwyr i hunanwasanaethu atgyfeirio staff i’r Gwasanaeth Iechyd  Galwedigaethol a rheoli’r broses wedi hynny.
  • Datblygu a chyflwyno rhaglen gymorth i uwch reolwyr mewn  partneriaeth â SOCITM.
  • Cynnwys y cymwyseddau angenrheidiol yn swydd-ddisgrifiadau a
    manylebau person staff a chefnogi’r staff presennol i ennill y sgiliau hyn.
  • Cefnogi’r sector gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu eu gallu, o ran y gwasanaethau a’r cymorth y maent yn eu cynnig i’r gymuned ac o ran cynnal eu sefydliadau eu hunain.
  • Sefydlu Cyfrif Dinasyddion CBSCNPT – Cyfnod Alffa.
  • Gweithio gyda sefydliadau partner i sefydlu Profi, Olrhain a Diogelu (TTP).
  • Gweithio gyda phartner adolygu/diwygio Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) yn ôl gofynion canllawiau.
  • Partneriaid Digidol wedi'u sefydlu i gefnogi staff.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynorthwyo/helpu a chefnogi trigolion yn ystod stormydd y gaeaf a llifogydd Sgiwen.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynorthwyo/helpu a chefnogi trigolion i
    wneud cais am grantiau yn ystod stormydd y gaeaf a llifogydd Sgiwen.
  • Prosiect Gofal Cymdeithasol Oedolion (CDPS).
  • Hyfforddiant 365 i staff.
  • Hygyrchedd Gwefan CBSCNPT.
  • Ymarferiad Hyfforddiant Seiber a Gwe-rwydo.
  • Cyfarfodydd Hybrid ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd (dwyieithog).
  • Ysgolion Edtech a 21CN.
  • Datblygu galluoedd arweinyddiaeth ddigidol o fewn y cyngor, yn unol â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a  Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan flaenoriaethu’r tîm arwain corfforaethol (haenau uchaf swyddogion y cyngor) ac aelodau’r cyngor.
  • Datblygu prosiect peilot gyda'r nod o ddeall defnydd a budd
    dull gwyddorau data er mwyn deall y galw am wasanaethau.
  • Cyfrif Busnes CBSCNPT.
  • Prynu’n Lleol CBSCNPT.
  • Ap Diogel ac Iach.
  • Ap Prydau Ysgol am Ddim.
  • Proses Gwneud Cais am Grant Ynysigrwydd.
  • Gweithredu gydag Arvatoar nifer o ymyriadau robotig i ategu ac
    awtomeiddio prosesau AD penodol sy’n drwm yn weinyddol.
  • Cyflwyno’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) i'r adran Pridiannau Tir.
  • Creu system er mwyn caniatáu archebu a thalu am Fagiau Gwyrdd ar
    gyfer gwastraff gardd ar-lein.
  • Creu system ar-lein er mwyn i Staff Mynwentydd gael mynediad at
    Gynlluniau Claddu.
  • Creu cymhwyster sy'n defnyddio cyfleuster anfon negeseon testun
    Gwasanaeth. LLYW i ddiweddaru gweithredwyr bysiau a thacsis ysgol
    pan fydd ysgolion unigol ar gau oherwydd tywydd garw.
  • Ap Newyddion CBSCNPT Alexa Amazon.
  • Ymgorffori dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Ymgorffori Microsoft Teams i gynorthwyo arferion gweithio Ystwyth.
  • System Broceriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol – i gyflymu'r
    broses ymgeisio.
  • Gweithredu model recriwtio ac Ailfrandio system AD/Cyflogres
    newydd iTrent.
  • Gweithredu system AD/Cyflogres newydd iTrent.
  • Gweithredu system AD/Cyflogres newydd iTrent – Modiwl Teithio.
  • Archebu tystysgrifau ar-lein i Gofrestryddion – y tu allan i oriau.
  • Hyrwyddo Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.
  • Hyrwyddo llenwi ffurflenni asesu taliadau Treth y Cyngor ar-lein.
  • Iechyd a Diogelwch – Ffurflenni ar-lein ar gyfer archebu offer arddangos.
  • Cyflwyno offer ar raddfa eang i staff i gynorthwyo gweithio Ystwyth.
  • Asesiad parhaus o becynnau staff er mwyn adnewyddu ar gyfer
    gweithio Ystwyth.
  • Cyflwyno Chabot ar Wefan CBSCNPT.
  • Proses RPA i hwyluso'r broses Pridiannau Tir.
  • Datblygu proses gwneud cais ar-lein am Balmentydd wedi’u Gostwng.
  • Datblygu proses symleiddio ar-lein Bathodyn Glas.
  • Cyflwyno system ffôn Fusion.
  • Adolygu a diwygio copi wrth gefn a datrysiad trychineb Corfforaethol.
  • Rhaglen Hwb.
  • Cynllun Peilot Estynedig Rhwydwaith Cymdeithasol Gweithwyr ar
    Yammer a gweithredu argymhellion Adroddiad Redcortex ar strategaeth M365.
  • Cefnogaeth prosiect CACI i Dîm Gwasanaeth Anghenion Dysgu
    Ychwanegol yr adran Addysg.

Mae'r strategaeth DDaTh newydd hon yn adeiladu ar y sylfeini cryf y mae Clyfar a Chysylltiedig wedi'i roi ar waith, gan nodi'n glir ein dull o ddarparu'r gwasanaethau gwerth gorau, tra'n parhau i gefnogi ein preswylwyr, busnesau, aelodau etholedig, staff ac ymwelwyr, trwy fuddsoddi yn y technolegau presennol a newydd i'n paratoi'n well ar gyfer y dyfodol.