Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Defnyddio'r Dechnoleg Gywir

Rhaid i ni sicrhau bod y dechnoleg rydym yn ei defnyddio yn gadarn, yn ddiogel yn effeithlon a bod posibl iddi dyfu er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr.

  • Datblygu seilwaith craidd a Map Ffordd Technoleg, gan sicrhau bod llwyfannau a fframweithiau systemau yn cael eu dwyn ynghyd i osgoi dyblygu.
  • Cynnal a datblygu Strategaeth Seiberddiogelwch a chynllun gweithredu CnPT, gan sicrhau gwytnwch a dull rheoli diogelwch cadarn.
  • Bod yn rhagweithiol ynghylch preifatrwydd a lleihau'r risgiau o ddwyn data – gwella ymwybyddiaeth o faterion preifatrwydd ar draws y sefydliad.
  • Mapio ein systemau a'n technolegau’n llawn, gan ein galluogi i flaenoriaethu gwelliannau a diwallu anghenion cyffredin yn haws, gan gynyddu rhyngweithrededd ein systemau lle bo hynny'n bosibl.
  • Datblygu dull 'un cyngor' o ymdrin â llwyfannau a systemau – adolygu, atgyfnerthu, rhesymoli ac adnewyddu systemau swyddfa gefn, gan helpu meysydd gwasanaeth i drosglwyddo’n
    llwyfannau rheoli achosion modern yn y cwmwl a fydd yn sail i ddarpariaeth weithredol.
  • Sicrhau bod gan yr holl staff fynediad hawdd at y dechnoleg a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith.
  • Sicrhau gweithrediad llwyddiannus a gwelliant parhaus yr ystod gymhleth o gynhyrchion a gwasanaethau digidol CnPT.
  • Nodi a lliniaru risgiau i gyflwyno newid technoleg er mwyn diogelu'r cyngor a'n defnyddwyr.
  • Newid diwylliannol i hyrwyddo gweithio traws-sefydliadol a chael gwared ar feddylfryd seilo, cydgysylltu’n fewnol i gytuno ar yr hyn yr ydym am i'r dechnoleg ei gyflawni er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r buddion a'r cyfleoedd i'n defnyddwyr.
  • Sicrhau technoleg ddibynadwy, cost effeithiol sy'n lleihau ein hôl troed carbon ac yn cynyddu cynaliadwyedd.
  • Alinio anghenion masnachol a gweithredol i sicrhau gwerth am arian ac arbedion maint, gan ailddefnyddio lle bo modd.
  • Lleihau risg ac effaith bygythiadau seiber.
  • Meithrin ymddiriedaeth bod diogelwch a phreifatrwydd yn greiddiol i systemau a datrysiadau a bod gwybodaeth a thrafodion preifat yn ddiogel.
  • Cefnogi ein defnyddwyr sy'n wynebu heriau allgáu digidol.
  • Cynyddu cyflymder trawsnewid.
  • Deall ein defnyddwyr a'u hanghenion.
  • Diwallu anghenion defnyddwyr gyda thechnolegau newydd gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol cyfrifiadura cwantwm, awtomeiddio prosesau robotig a Rhyngrwyd Pethau.
  • Gwneud gwasanaethau'n hygyrch ac yn gynhwysol.
  • Defnyddio safonau agored.
  • Cydgrynhoi technolegau a chreu cynhyrchion technoleg cynaliadwy ac agored ar seilwaith a llwyfan cyflenwi cyffredin.
  • Mabwysiadu egwyddor 'Cwmwl yn Gyntaf’, gan reoli cyfyngiadau’r dechnoleg a etifeddwyd.
  • Cofleidio'r 6 elfen o strategaeth mudo i’r cwmwl – ail-lwyfannu, ail-gynnal, ail-brynu, cadw, ymddeol, ac ail-ffactora – i bennu llwybrau clir ar gyfer cydgrynhoi, mabwysiadu a mudo i’r cwmwl.
  • Cyflawni'r Egwyddorion Strategol EdTech a nodir yng Nghytundeb Cymorth EdTech Ysgolion CnPT.
  • Harneisio galluoedd o fewn SIEM (Security Information and Event Monitoring) a datrysiadau sy'n seiliedig ar warchod, er mwyn sicrhau bod y cyngor yn mabwysiadu dull rhagweithiol o ymdrin â'r bygythiad seiber parhaus a soffistigedig.
  • Defnyddio technoleg flaengar i sicrhau bod data hanfodol, sensitif a gweithredol y cyngor yn cael cadw wrth gefn, ei storio'n ddigyfnewid ac ar gael ar unwaith i’w adfer, yn achos senario colli data neu adfer ar ôl trychineb.
  • Mabwysiadu dull 'Diogel trwy Ddylunio', gan weithio gyda phartneriaid fel y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
  • Sicrhau bod hawliau ein defnyddwyr yn cael eu diogelu trwy integreiddio preifatrwydd fel rhan hanfodol o'n systemau.
  • Gwneud defnydd gwell o ddata i lywio darparu gwasanaeth.
  • Meithrin rheoli newid a gwelliant parhaus.

Trwy ein Cod Ymarfer Technoleg, rydym wedi nodi'r safon ar y ffordd orau i'r Cyngor ddylunio, adeiladu neu brynu technoleg. Rhaid i'r dechnoleg rydym yn ei defnyddio addasu i ofynion y
dyfodol a gweithio gyda’r technolegau, y prosesau a’r seilwaith presennol. Trwy integreiddio da, byddwn yn sicrhau bod ein technoleg newydd yn gweithio gyda datrysiadau a etifeddwyd,
heb gyfyngu ar ein gallu i addasu i ofynion y dyfodol.

Trwy fanteisio ar gyfleoedd cydweithredol fel Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, byddwn yn archwilio ymhellach gyfleoedd yn ymwneud â chysylltedd band eang craidd a thechnoleg arloesol i ddarparu budd ar draws yr awdurdod cyfan. Bydd hyn yn darparu modd o archwilio sut y gellir mabwysiadu technolegau newydd yn gynaliadwy yn ein modelau darparu gwasanaeth, gan wella ein hôl troed cysylltedd band eang ar draws y fwrdeistref sirol gyfan.

Trwy ddefnyddio'r dechnoleg ddigidol gywir, byddwn hefyd yn cefnogi ymgysylltu ag aelodau etholedig, yn cynyddu ymgysylltu a chydweithio cymunedol,yn gwella tryloywder ac yn gwneud y
penderfyniadau democrataidd gorau posibl.

Using the Right Technology