Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun Cyflawni

Ochr yn ochr â'r strategaeth hon byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi cynllun cyflawni blynyddol (sy'n gysylltiedig â'n blaengynllun ariannol), gan nodi'r camau gweithredu, prosiectau a rhaglenni allweddol sydd i'w cyflawni ar gyfer y flwyddyn. Mae'r dull hwn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran gweithgareddau tymor hwy a bydd yn helpu ein holl staff DDaTh i ddeall sut maent yn cyfrannu at nodau ac amcanion corfforaethol cyffredinol.

Bydd y cynllun cyflawni yn cyd-fynd â'n themâu cyflawni strategol newydd fel a ganlyn:

  • Dylunio digidol.
  • Defnyddio'r dechnoleg gywir.
  • Gwneud penderfyniadau a arweinir gan ddata ac ymchwil.
  • Ein pobl.