Aliniad i'r Cynllun Corfforaethol 2022-2027
Mae'r strategaeth hon yn cyd-fynd â'r pedwar amcan llesiant yng Nghynllun Corfforaethol 2022-2027 a gofynion ein cymunedau lleol a nodwyd drwy'ry ymgyrch ymgysylltu 'Gadewch i ni Siarad'. Gydag ymrwymiad parhaus i ymgysylltu drwy'r ymgyrch Gadewch i Ni Parhau i Siarad gyda'n ymunedau,
busnesau lleol a'n partneriaid, byddwn yn sicrhau bod y strategaeth ddigidol yn cael ei llywio a'i datblygu i barhau i ddiwallu anghenion ein rhanddeiliaid.
Mae ein pwrpas, gweledigaeth, ein hamcanion a’n nodau llesiant diwygiedig yn dangos sut mae'r cyngor yn cyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Castellnedd Port Talbot ac at y saith nod llesiant cenedlaethol a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gwneir y cyfraniad i'r saith nod llesiant drwy'r ffordd yr ydym yn gweithio yn unol â'r egwyddor datblygu gynaliadwy a gynhwysir yn y Ddeddf gan gynnwys:
- Edrych ymlaen at y tymor canolig.
- Atal problemau rhag digwydd neu waethygu.
- Sicrhau nad yw amcanion llesiant yn gwrth-ddweud ei gilydd a’u bod yn ategu amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
- Gweithio mewn partneriaeth ag eraill.
- Cynnwys pobl leol.
Mae'r strategaeth hon wedi’i halinio’n llawn â'r Rhaglen Newid Strategol
a gychwynnwyd i gefnogi'r cyngor i gyflawni ei bwrpas a'i weledigaeth.
Mae'r Rhaglen Newid Strategol yn cynnwys y pedwar amcan llesiant canlynol:
- Bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
- Bod pob cymuned yn llewyrchus ac yn gynaliadwy.
- Bod modd i genedlaethau'r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a’n treftadaeth leol.
- Swyddi a sgiliau – bod pobl leol yn fedrus ac yn gallu cael mynediad i swyddi gwyrdd o safib uchel.