Dogfen
Rhan D - Gwneud Penderfyniadau, Amodau a Chodau Ymarfer
Gweinyddu, Arfer a Dirprwyo Swyddogaethau
Gall y Pwyllgor Trwyddedu, Is-bwyllgor neu un swyddog neu fwy sy'n gweithredu dan awdurdod wedi’i ddirprwyo gyflawni pwerau a dyletswyddau'r Awdurdod Trwyddedu o dan y Ddeddf.
Ystyrir y bydd llawer o'r swyddogaethau'n weinyddol eu natur gan mwyaf, heb rannau dadleuol canfyddedig. Er effeithlonrwydd a chost-effeithlonrwydd, cyflawnir y rhain gan swyddogion gan amlaf.
Atodir atodlen dirprwyo swyddogaethau trwyddedu yn Atodiad 4
Gweithdrefn Apêl
Pennir darpariaethau apelio ar gyfer partïon sy'n anghytuno â phenderfyniadau'r Awdurdod Trwyddedu yn Adrannau 206 i 209 Deddf 2005. Mae'n rhaid cyflwyno apeliadau i'r Llys Ynadon ar gyfer ardal yr Awdurdod Trwyddedu a ystyriodd y cais.
Mae'n rhaid i'r apelydd gychwyn apêl trwy roi hysbysiad o'r apêl i'r; Clerc i'r Ynadon, Llys Ynadon Abertawe, Grove Place, Abertawe SA1 5DB , o fewn 21 o ddiwrnodau, gan ddechrau gyda'r diwrnod pan roddodd yr Awdurdod Trwyddedu wybod i'r apelydd am y penderfyniad sy'n destun yr apêl.
Wrth benderfynu ar apêl, gall y Llys:
- Wrthod yr apêl;
- Disodli'r penderfyniad yr apelir yn ei erbyn gydag unrhyw benderfyniad arall y gallai'r Awdurdod Trwyddedu fod wedi'i wneud;
- Anfon yr achos i'r Awdurdod Trwyddedu i gael gwared ar yr apêl yn unol â chyfarwyddyd y Llys
- Gwneud gorchymyn am gostau
Gan ragweld apeliadau o'r fath, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n darparu rhesymau cynhwysfawr dros ei benderfyniadau. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ymdrin ag i ba raddau y gwnaed penderfyniadau o ran unrhyw godau ymarfer ac arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo, yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu ac yn unol â'r datganiad polisi hwn.
Cyn gynted ag y rhoddir gwybod i'r holl bartïon am benderfyniad y Llys Ynadon, bydd Awdurdod Trwyddedu yn ei roi ar waith yn ddi-oed, a chymerir unrhyw gamau angenrheidiol ar unwaith oni bai i lys uwch orchymyn atal camau o'r fath (er enghraifft, o ganlyniad i adolygiad barnwrol parhaus). Nid yw'r Ddeddf yn darparu ar gyfer unrhyw apêl arall yn erbyn penderfyniad y Llys Ynadon.
Cwynion yn erbyn mangreoedd trwyddedig
Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ymchwilio i gwynion yn erbyn mangreoedd trwyddedig am faterion sy'n gysylltiedig â'r amcanion trwyddedu y mae'n gyfrifol amdanynt. Yn y lle cyntaf, anogir achwynwyr i godi'r gŵyn yn uniongyrchol â daliwr y drwydded neu'r busnes dan sylw i geisio datrysiad lleol.
Lle bo buddiwr wedi cyflwyno sylwadau dilys am fangre drwyddedig neu gais dilys i drwydded gael ei hadolygu, gall yr Awdurdod Trwyddedu, i ddechrau, drefnu cyfarfod i fynd i'r afael â materion sy'n peri pryder, a'u hegluro.
Ni fydd y broses hon yn sarnu hawl unrhyw fuddiwr i ofyn i'r Is- bwyllgor Trwyddedu a Gamblo ystyried ei wrthwynebiadau dilys, neu i unrhyw ddaliwr trwydded wrthod cymryd rhan mewn cyfarfodcymodi.
Peiriannau hapchwarae mewn lleoliadau anghyfreithlon
Gellir gwneud peiriannau hapchwarae ar gael i'w defnyddio os caniateir hynny gan drwydded mangre, hawlen neu esemptiad, e.ffeiriau teithiol, yn unig. Nid yw'n bosib gosod peiriannau hapchwarae mewn mangreoedd megis siopau diodydd drwyddedig, siopau papurau newydd, siopau cludfwyd neu siopau manwerthu eraill.
Os canfyddir peiriannau hapchwarae sydd wedi'u gosod yn anghyfreithlon, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gwneud pob ymdrech i atafaelu'r peiriant hapchwarae ar y cam cyntaf posib er mwyn sicrhau na chaiff y peiriant hapchwarae ei ddefnyddio mwyach.
Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gweithio gyda'r Comisiwn Gamblo i ymchwilio i droseddau a gyflawnwyd o dan Ddeddf Gamblo 2005 gan gyflenwr y peiriant a pherchennog y busnes y lleolwyd y peiriant yn anghyfreithiol ynddo.
Bydd yr Awdurdod Trwyddedu fel arfer yn cymryd camau gweithredu ffurfiol yn erbyn perchennog y busnes lle mae peiriannau hapchwarae anghyfreithlon wedi bod ar gael i'w defnyddio yn y fangre. Fel rhan o'r gweithrediadau, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ceisio sicrhau gorchymyn fforffedu o dan Adran 345 y Ddeddf er mwyn gallu dinistrio'r peiriant.
Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n rhagweld y caiff camau gweithredu tebyg eu cymryd gan y Comisiwn Gamblo i sicrhau y caiff camau gweithredu ffurfiol eu cymryd yn erbyn cyflenwr y peiriant hapchwarae hefyd.