Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhan C – Hawlenni, Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro a Hysbysiadau o Ddefnydd Achlysurol

Hawlen Canolfan Adloniant Teulu

Lle nad oes gan fangre drwydded mangre ond mae'n dymuno darparu peiriannau hapchwarae, gellir gwneud cais i'r Awdurdod Trwyddedu am hawlen.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i ymgeiswyr ddangos bod polisïau a gweithdrefnau ar waith i amddiffyn plant rhag Nid yw niwed yn y cyd-destun hwn yn gyfyngedig i niwed drwy gamblo, ond mae'n cynnwys ystyriaethau amddiffyn plant ehangach. Caiff effeithlonrwydd y fath bolisïau a gweithdrefnau ei ystyried ar ei deilyngdod. Gall hyn gynnwys hyfforddi staff ynglŷn ag amheuon bod plant ysgol yn triwanta, sut i ymdrin â phlant ifanc iawn heb eu goruchwylio neu blant sy'n achosi problemau yn y fangre neu'r cyffiniau.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i ymgeiswyr ddangos:

  • dealltwriaeth lawn o'r uchafswm y gellir ei fetio a'r gwobrau mwyaf a ganiateir mewn CAT heb drwydded;
  • nad oes gan yr ymgeisydd unrhyw euogfarnau perthnasol (y rhai a amlinellir yn Atodlen 7 y Ddeddf); a
  • bod y staff wedi'u hyfforddi i ddeall yn llawn yr uchafswm y gellir ei fetio a'r gwobrau mwyaf a ganiateir

Disgwylir i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth y gwnaed gwiriad cofnod troseddol addas gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod o staff yn ei gyflogaeth.

Dylid nodi bod yn rhaid i'r ymgeisydd ddangos y caiff y fangre ei defnyddio'n llwyr neu'n bennaf at ddiben darparu peiriannau hapchwarae i'w defnyddio, a byddent felly'n eithrio unrhyw fangre a gaiff ei defnyddio'n bennaf at unrhyw ddibenion eraill, e.e. ffreuturau, siopau cludfwyd, canolfannau hamdden, garejys a gorsafoedd petrol, a swyddfeydd tacsi.

Dylid nodi na all yr Awdurdod Trwyddedu'n atodi amodau i'r math hwn o hawlen.

Mangreoedd Trwyddedig i Gyflenwi Alcohol

Mae darpariaeth yn y Ddeddf sy'n caniatáu i fangre a drwyddedir i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre feddu'n awtomatig ar 2 beiriant hapchwarae, categori C a/neu D. Mae angen i'r fangre hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu a thalu'r ffi a bennwyd.

Gall yr Awdurdod Trwyddedu ddileu'r awdurdodiad awtomatig ar gyfer unrhyw fangre os:

  • nad yw'r peiriannau'n cael eu darparu'n rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu;
  • cynhaliwyd hapchwarae yn y fangre sy'n torri amod adran 282 y Ddeddf, e.e. darparwyd peiriannau hapchwarae mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion o ran lleoliad a gweithredu'r peiriannau hapchwarae;
  • defnyddir y fangre at ddiben gamblo'n bennaf; neu
  • cyflawnwyd trosedd o dan y Ddeddf Gamblo yn y fangre.

Os yw mangre'n dymuno cael mwy na 2 beiriant, bydd angen gwneud cais am hawlen a bydd rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu ystyried y cais hwnnw yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu, unrhyw arweiniad a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo o dan Adran 25 Deddf Gamblo 2005 ac unrhyw faterion sy'n berthnasol ym marn yr Awdurdod”. Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ystyried "y penderfynir ar y fath faterion fesul achos", ond yn gyffredinol, rhoddir sylw i'r angen am amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag niwed neu gael eu hecsbloetio drwy gamblo.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd fodloni'r Awdurdod y bydd mesurau digonol i sicrhau nad yw pobl ifanc dan 18 oed yn cael mynediad i beiriannau hapchwarae i oedolion.

Gall mesurau a fydd yn bodloni'r Awdurdod na fydd mynediad i blant gynnwys gosod y peiriannau i oedolion lle gellir eu gweld o'r bar neu gan staff a fydd yn monitro nad yw'r peiriannau'n cael eu defnyddio gan bobl dan 18 oed. Efallai bydd angen hysbysiadau ac arwyddion hefyd. O ran diogelu pobl ddiamddiffyn, gall ymgeiswyr ystyried darparu taflenni gwybodaeth/rhifau llinellau cymorth ar gyfer sefydliadau megis GamCare.

Cydnabyddir y gall rhai mangreoedd â thrwydded alcohol wneud cais am drwydded mangre ar gyfer eu mannau heb drwydded i gyflenwi Mae'n debygol y byddai'n ofynnol i unrhyw gais  o'r fath wneud cais am drwydded mangre Canolfan Hapchwarae Oedolion a byddai angen ymdrin ag ef fel hyn.

Sylwer y gall yr Awdurdod Trwyddedu benderfynu cymeradwyo'r cais gan bennu nifer llai o beiriannau a/neu gategori gwahanol o beiriannau na'r hyn a nodwyd yn y cais. Ni ellir atodi amodau (heblaw am y rhain).

Sylwer hefyd fod angen i ddaliwr hawlen gydymffurfio ag unrhyw gôd ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo ynghylch lleoliad a gweithrediad y peiriant.

Hawlenni Hapchwarae a Pheiriannau Clwb

Gall Clybiau Aelodau a Sefydliadau Lles Glowyr (ond nid clybiau masnachol) wneud cais am Hawlen Hapchwarae Clwb neu Hawlen Peiriannau Hapchwarae Clwb.

Bydd yr Hawlen Hapchwarae Clwb yn galluogi'r fangre i ddarparu peiriannau hapchwarae (3 pheiriant categori B, C neu D), hapchwarae cyfle cyfartal a gemau siawns fel a nodir mewn rheoliadau.

Bydd Hawlen Peiriant Hapchwarae Clwb yn galluogi'r fangre i ddarparu peiriannau hapchwarae (3 pheiriant categori B, C neu D) yn unig. DS Ni all clybiau masnachol osod peiriannau hapchwarae categori B3A sy'n cynnig gemau lotri yn eu clybiau

Mae Arweiniad y Comisiwn Gamblo'n datgan: "Rhaid bod gan Glybiau Aelodau o leiaf 25 o aelodau, a bod wedi'u sefydlu a'u cynnal "yn llwyr neu'n bennaf" at ddibenion heblaw am hapchwarae, oni bai y caniateir hapchwarae gan reoliadau ar wahân. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud rheoliadau ac mae'r rhain yn cynnwys clybiau bridge a chwist, sy'n ailadrodd y sefyllfa o dan Ddeddf Gamblo 1968. Mae'n rhaid i glwb aelodau fod yn barhaol ei natur, heb ei sefydlu i wneud elw masnachol, ac wedi'i reoli gan ei aelodau'n gyfartal. Mae enghreifftiau'n cynnwys clybiau gweithwyr, canghennau o'r Lleng Brydeinig Frenhinol a chlybiau â chysylltiadau gwleidyddol".

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gwrthod cais ar y seiliau canlynol yn unig:

  1. nid yw'r ymgeisydd yn bodloni gofynion clwb aelodau neu fasnachol neu sefydliad lles glowyr ac felly nid oes ganddo hawl i dderbyn y math o hawlen y gwnaed cais amdani;
  2. defnyddir mangre'r ymgeisydd yn bennaf neu'n llwyr gan blant a/neu bobl ifanc;
  3. cyflawnwyd trosedd o dan y Ddeddf neu torrwyd un o amodau hawlen gan yr ymgeisydd wrth ddarparu cyfleusterau hapchwarae;
  4. (ch) mae hawlen yr oedd yr ymgeisydd yn ei dal wedi cael ei diddymu yn y 10 mlynedd blaenorol; neu
  5. cyflwynwyd gwrthwynebiad gan y Comisiwn neu'r

Mae gweithdrefn gyflym ar gael hefyd o dan y Ddeddf ar gyfer mangreoedd sy'n meddu ar Dystysgrif Mangre Clwb o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 (Atodlen 12, paragraff 10). Ni all clybiau masnachol feddu ar dystysgrif mangre clwb o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ac felly ni allant ddefnyddio'r weithdrefn gyflym. Fel y mae Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Trwyddedu'n ei ddatgan "O dan y weithdrefn gyflym, nid oes dim cyfle i'r comisiwn na'r heddlu gyflwyno gwrthwynebiadau, ac mae llai o resymau gan yr awdurdod dros wrthod hawlen." a "Gellir gwrthod cais dan y broses hon am y rhesymau canlynol:

  • mae'r clwb wedi'i sefydlu'n bennaf ar gyfer hapchwarae, heblaw am hapchwarae a bennir dan atodlen 12;
  • yn ogystal â'r hapchwarae a bennwyd, mae'r ymgeisydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer hapchwarae arall; neu
  • mae hawlen hapchwarae clwb neu hawlen peiriannau clwb a roddwyd i'r ymgeisydd yn y deng mlynedd diwethaf wedi'i chanslo

Ceir amodau statudol ar hawlenni hapchwarae clwb nad yw unrhyw blentyn yn defnyddio peiriant categori B ac C yn y fangre a bod y daliwr yn cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth côd ymarfer berthnasol am leoliad a gweithrediad peiriannau hapchwarae.

Hawlenni Hapchwarae am Wobr

Mae Deddf Gamblo 2005 yn datgan y gall Awdurdod Trwyddedu "baratoi datganiad o egwyddorion y mae'n bwriadu ei ddefnyddio wrth arfer ei swyddogaethau dan yr Atodlen hon" a "all, yn benodol, nodi materion y mae'r Awdurdod Trwyddedu'n bwriadu eu hystyried wrth benderfynu ar addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer hawlen".

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi paratoi Datganiad o Egwyddorion sef y dylai'r ymgeisydd nodi'r mathau o hapchwarae y mae'n bwriadu eu cynnig, ac y dylai'r ymgeisydd fod yn gallu dangos:-

  • ei fod yn deall y cyfyngiadau i arian betio a gwobrau a amlinellir yn y Rheoliadau;
  • bod yr hapchwarae a gynigir o fewn y gyfraith;
  • polisïau clir sy'n amlinellu'r camau i'w cymryd i ddiogelu plant rhag niwed

Wrth wneud penderfyniad am gais ar gyfer yr hawlen hon, nid oes angen i'r Awdurdod Trwyddedu (ond gall) roi sylw i'r amcanion trwyddedu ond mae'n rhaid iddo roi sylw i unrhyw arweiniad gan y Comisiwn Gamblo.

Dylid nodi bod Deddf Gamblo 2005 yn gosod amodau y mae'n rhaid i ddaliwr yr hawlen gydymffurfio â hwy. Dyma'r amodau:

  • mae'n rhaid cydymffurfio â'r cyfyngiadau ar ffioedd cyfranogiad, fel y'u hamlinellir yn y rheoliadau;
  • mae'n rhaid dyrannu pob cyfle i gymryd rhan yn yr hapchwarae yn y fangre lle cynhelir yr hapchwarae ac ar un diwrnod; mae'n rhaid i'r gêm gael ei chwarae a'i chwblhau ar y diwrnod y dyrennir y cyfleoedd; ac mae'n rhaid cyhoeddi canlyniad y gêm yn y fangre ar y diwrnod y caiff ei chwarae;
  • ni ddylai'r wobr y chwaraeir y gêm ar ei chyfer fod yn fwy na'r swm a nodir mewn rheoliadau (os yw'n wobr ariannol), neu'r gwerth a bennwyd (os yw'n wobr nad yw'n ariannol) ac
  • ni ddylai cyfranogi yn yr hapchwarae roi hawl i chwaraewr gymryd rhan mewn unrhyw hapchwarae arall.

Fodd bynnag, ni all yr Awdurdod Trwyddedu atodi amodau ychwanegol i hawlenni hapchwarae am wobr.

Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro

Mae Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro'n caniatáu defnyddio mangre at ddibenion gamblo lle nad oes trwydded gan y fangre ond mae gweithredwr gamblo'n dymuno defnyddio'r fangre dros dro i ddarparu cyfleusterau gamblo. Byddai mangreoedd a allai fod yn addas ar gyfer Hysbysiad o ddefnydd Dros Dro, yn ôl y Comisiwn Gamblo, yn cynnwys gwestai, canolfannau cynadledda a lleoliadau chwaraeon.

Gall yr Awdurdod Trwyddedu roi Hysbysiad o Ddefnydd Dros Dro i berson neu gwmni a chanddynt drwydded weithredu berthnasol yn unig, y. trwydded weithredu casino o bell.

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer i bennu pa ffurf ar gamblo y gellir ei hawdurdodi gan Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro, ac ar adeg ysgrifennu'r Datganiad hwn, mae'r rheoliadau perthnasol (Sl rhif 3157: Rheoliadau 2007 Deddf Gamblo 2005 (Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro) yn datgan y gellir defnyddio Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro i ganiatáu darparu cyfleusterau ar gyfer hapchware cyfle cyfartal yn unig, lle y bwriedir i'r hapchwarae gynhyrchu un enillydd sydd yn ymarferol yn golygu twrnameintiau

Ceir nifer o gyfyngiadau statudol o ran hysbysiadau o ddefnydd dros dro. Nodir yn Arweiniad y Comisiwn Gamblo bod ystyr "mangre" yn rhan 8 y Ddeddf yn cael ei drafod yn Rhan 7 yr Fel gyda "mangre", bydd y diffiniad o "gyfres o fangreoedd" yn gwestiwn ffeithiol yn amgylchiadau penodol pob hysbysiad a roddir. Yn y Ddeddf, diffinnir "mangre" fel man sy'n cynnwys "unrhyw le". Wrth ystyried a yw lle yn cael ei gynnwys yn y diffiniad o "gyfres o fangreoedd", bydd angen i awdurdodau trwyddedu edrych ar, berchnogaeth/ddeiliadaeth a rheoli'r fangre, ymysg pethau eraill.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n debygol o wrthwynebu hysbysiadau lle bo'n ymddangos y byddai eu heffaith yn caniatáu gamblo rheolaidd mewn lle y gellir ei ddisgrifio fel un fangre.

Hysbysiadau o Ddefnydd Achlysurol

Ychydig iawn o ddisgresiwn sydd gan yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch yr hysbysiadau hyn ar wahân i sicrhau nad yw'r terfyn statudol o 8 niwrnod mewn blwyddyn galendr yn cael ei dorri. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried diffiniad 'trac' ac a ganiateir i'r ymgeisydd wneud cais am yr hysbysiad.

Loterïau Cymdeithasau Bach

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg at ei gyfrifoldebau gorfodi ar gyfer loterïau cymdeithasau bach. Mae'r awdurdod hwn yn ystyried y gallai'r rhestr ganlynol, er nad yw'n gyfyngedig, effeithio ar statws y gweithredwr:

  • Cyflwyno ffurflenni'n hwyr (mae'n rhaid cyflwyno ffurflenni heb fod yn hwyrach na thri mis wedi'r dyddiad y cynhaliwyd y lotri)
  • Cyflwyno ffurflenni anghyflawn neu anghywir
  • Torri'r cyfyngiadau ar gyfer loterïau cymdeithasau bach

Caniateir hapchwarae anfasnachol os caiff ei gynnal mewn digwyddiad anfasnachol, naill ai fel prif weithgaredd neu weithgaredd achlysurol yn y digwyddiad. Mae digwyddiadau'n anfasnachol os nad yw unrhyw ran o'r enillion ar gyfer elw neu fudd preifat. Gall un unigolyn neu fwy elwa o enillion digwyddiadau o'r fath os yw'r gweithgaredd wedi'i drefnu:

  • Gan neu ar ran elusen neu at ddibenion
  • I alluogi cyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon, athletaidd neu ddiwylliannol neu eu cefnogi