Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhan E – Codau Ymarfer ac Asesiadau Risg

Trosolwg

Yn ôl Deddf Gamblo 2005 mae’n ofynnol i’r Comisiwn Gamblo gyflwyno un côd ymarfer neu fwy sy’n trafod y ffordd y caiff cyfleusterau gamblo eu darparu. Efallai bydd y codau wedi’u llunio ar gyfer deiliaid trwyddedau gweithredu neu bersonol, neu unrhyw berson arall sy’n ymwneud â darparu cyfleusterau ar gyfer gamblo.

Mae hefyd yn ofynnol yn ôl y Ddeddf i awdurdodau trwyddedu ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, unrhyw gôd ymarfer perthnasol a gyflwynwyd gan y Comisiwn o dan adran 24, sef (yn yr achos hwn):-

  • Amodau a Chodau Ymarfer Trwyddedu’r Comisiwn (LCCP), a fydd yn gymwys i ddeiliaid trwyddedau gweithredu neu bersonol y Comisiwn Gamblo;
  • Codau eraill – dyma godau ymarfer y Comisiwn ar gyfer hapchwarae cyfle cyfartal a’i gôd ymarfer ar gyfer peiriannau hapchwarae mewn clybiau a mangreoedd â thrwydded alcohol

Mathau o Ddarpariaeth Codau

Mae’r LCCP yn cynnwys dau fath o ddarpariaeth codau, sef Darpariaethau Codau Cyfrifoldeb Cymdeithasol a Darpariaethau Codau Cyffredinol:

Darpariaethau Codau Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Mae’r darpariaethau hyn yn disgrifio trefniadau y dylid eu cyflwyno gan y sawl sy’n darparu cyfleusterau gamblo at ddibenion y canlynol:

  • sicrhau y caiff gamblo ei wneud mewn ffordd deg ac agored;
  • diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag niwed neu gael eu hecsbloetio drwy gamblo; a
  • sicrhau bod cymorth ar gael i bobl y gall problemau sy’n ymwneud â gamblo effeithio arnynt neu sydd eisoes yn dioddef o’r problemau hyn.

Mae cydymffurfio â’r uchod yn un o amodau trwyddedau gweithredu; felly, os yw gweithredwr trwyddedig yn torri unrhyw un ohonynt, efallai bydd angen i’r Comisiwn adolygu trwydded y gweithredwr gyda'r nod o atal neu ddiddymu’r drwydded neu gyflwyno cosb ariannol, gyda’r bosibilrwydd o erlyn y gweithredwr hefyd.

Darpariaethau Codau Cyffredinol

Nid oes gan y rhain yr un statws ag amodau trwydded yn achos gweithredwyr trwyddedig, ond maent yn dangos arfer da. Mae Codau Ymarfer yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion troseddol neu sifil, ac mae’n rhaid eu hystyried mewn unrhyw achos lle mae’r llys neu’r tribiwnlys yn nodi eu bod yn berthnasol, ac wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn. Gall y Comisiwn ystyried unrhyw achos o beidio â dilyn darpariaethau codau, er enghraifft wrth adolygu trwydded (ond ni allai hyn arwain at gyflwyno cosb ariannol).

Asesiadau Risg

Yn ôl yr LCCP mae'n ofynnol i bob deiliad trwydded sy'n cynnig gamblo yn ei fangre asesu'r risgiau lleol yn erbyn yr amcanion trwyddedu, a darparu polisïau, gweithdrefnau a mesurau rheoli i leihau'r risgiau hyn. Mae'n rhaid i ddeiliaid trwyddedau ystyried unrhyw broblemau perthnasol a nodwyd yn Natganiad o Bolisi (gamblo) yr awdurdod trwyddedu wrth gynnal eu hasesiadau risg.

Dylai deiliaid trwyddedu gynnal neu ddiweddaru asesiad risg wrth gyflwyno cais dan yr amgylchiadau canlynol:-

  • Cyflwyno cais am drwydded mangre newydd;
  • Wrth gyflwyno cais am amrywio trwydded mangre bresennol;
  • Wrth ystyried unrhyw newidiadau lleol sylweddol yn yr ardal leol;
  • Os oes newidiadau sylweddol yn y fangre a all effeithio ar yr asesiad risg lleol presennol.

Mae'n ofynnol i weithredwyr sicrhau bod yr asesiad risg ar gael i awdurdodau trwyddedu wrth gyflwyno cais a dylid cadw copi yn y fangre neu, fel arall, dylai copi fod ar gael ar gais. Bydd hyn yn rhan o gyfundrefn archwilio neu ymchwilio i gwynion yr Awdurdod Trwyddedu.

Mae’r Awdurdod Trwyddedu’n disgwyl i’r materion canlynol gael eu hystyried gan weithredwyr wrth gynnal eu hasesiadau risg:

Materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys:

  • Sefydliadau, lleoedd neu ardaloedd lle mae presenoldeb plant a phobl ifanc yn ddisgwyliedig, megis ysgolion, clybiau ieuenctid, parciau, lleoedd chwarae a lleoliadau adloniant megis alïau bowlio, sinemâu ;
  • Unrhyw fangre lle mae plant yn cwrdd gan gynnwys safleoedd bws, caffis, siopau, ac unrhyw le arall sy’n denu plant;
  • Ardaloedd sy’n dueddol o gael problemau o ran pobl ifanc yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan gynnwys gweithgareddau megis graffiti/tagio, yfed dan oed ;
  • Achosion o geisio gamblo dan oed sy’n cael eu cofnodi.

Materion sy’n ymwneud ag oedolion diamddiffyn, gan gynnwys:

  • Gwybodaeth a ddelir gan ddeiliad y drwydded mewn perthynas â gwahardd o wirfodd neu gamblo dan oed;
  • Tueddiadau hapchwarae sydd o bosib yn cyd-fynd â diwrnodau taliadau ariannol, megis diwrnodau tâl neu ddiwrnodau taliadau budd-daliadau;
  • Trefnu i gyfnewid gwybodaeth leol o ran tueddiadau gwahardd o wirfodd a hapchwarae;
  • Agosrwydd eiddo lle ceir pobl ddiamddiffyn yn aml megis ysbytai, cartrefi gofal preswyl, cyfleusterau meddygol, meddygfeydd, swyddfeydd tai’r cyngor, clinigau dibyniaeth neu ganolfannau cymorth, neu leoedd lle bydd pobl sy’n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau’n cwrdd, etc.

Gallai materion eraill i’w hystyried gynnwys:

  • Agosrwydd at eglwysi, mosgiau, temlau neu unrhyw le addoli arall gan y bydd pobl ddiamddiffyn yn eu defnyddio’n aml, er enghraifft fel lleoedd sy’n darparu banciau bwyd, cyngor ar ddyledion neu gefnogaeth iechyd meddwl;
  • sefyllfa economaidd ardal;
  • economi nos yr ardal gyfagos;
  • cartrefi plant a chyfleusterau gofal;
  • nifer yr ymwelwyr â'r ardal, e. ardaloedd preswyl neu fasachol;
  • banciau a pheiriannau ATM gerllaw;
  • problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol hysbys;
  • cyfleusterau tai;
  • canolfannau gwaith;
  • hosteli a gwasanaethau cefnogi i'r digartref;
  • cyfleusterau cefnogi alcohol a chyffuriau;
  • gwystlwyr a busnesau benthyciadau diwrnod talu;
  • mangreoedd gamblo eraill;
  • cyfleusterau iechyd meddwl;
  • adeiladau cymunedol;
  • sefydliadau gofal preswyl;
  • cyfleusterau trafnidiaeth a pharcio e. safleoedd bysus, safleoedd tacsis, gorsafoedd trên;
  • presenoldeb pobl sy'n cysgu ar y stryd;
  • graddau diweithdra'r ardal;
  • mathau a chyfraddau troseddau yn yr ardal a allai effeithio ar y fangre;
  • ardaloedd â nifer sylweddol o blant, e. parciau a lleoedd chwarae.

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn ac mae’n rhaid ystyried ffactorau eraill nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr hon os cânt eu nodi.

Mangreoedd â Thrac Betio

Nid yw'n ofynnol i Fangreoedd â Thrac Betio geisio Trwydded Gweithredwr gan y Comisiwn Gamblo ac felly nid oes angen iddynt gynnal asesiad risg. Fodd bynnag, at ddibenion amcanion Deddf Gamblo 2005, sef i) atal gamblo rhag achosi troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu; ii) sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn modd teg ac agored; iii) amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag niwed neu gael eu hecsbloetio drwy gamblo, byddai'r Awdurdod Trwyddedu hwn yn disgwyl i Fangreoedd â Thrac Betio gynnal asesiad risg ar gyfer eu mangre.

Newidiadau Sylweddol

O bryd i'w gilydd bydd gweithredwyr yn diweddaru cynllun a decor y fangre, ac mae'n annhebygol y bydd angen adolygu asesiad risg y fangre honno o ganlyniad i hyn. Fodd bynnag, os gwneir newidiadau sylweddol i'r fangre a allai effeithio ar liniaru risgiau lleol, mae'n rhaid i weithredwr adolygu'r asesiad risg presennol a'i ddiweddaru os oes angen, gan ystyried y newidiadau a sut mae’n effeithio ar un neu fwy o'r amcanion trwyddedu.

Disgwylir i weithredwyr gamblo gwblhau'r broses asesu risg hon fel mater o arfer ar gyfer unrhyw waith adnewyddu, unrhyw newidiadau i gynllun y fangre neu fesurau rheoli mewnol. Os oes angen adolygu asesiadau risg y fangre o ganlyniad i unrhyw newidiadau, dylai gweithredwyr gamblo sicrhau bod system ar waith i gofnodi unrhyw fesurau a nodwyd yn yr adolygiad hwnnw.

Y gweithredwr gamblo fydd yn gyfrifol am nodi unrhyw newidiadau sylweddol i'r fangre. Er mwyn helpu gweithredwyr gamblo, mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi darparu'r rhestr ganlynol o enghreifftiau a allai gael eu hystyried fel newid sylweddol i'r fangre (efallai bydd rhai ohonynt yn gofyn am amrywio trwydded bresennol y fangre hefyd).

  • Unrhyw waith adeiladu neu addasu mangre lle mae cyfleusterau gamblo ar gael yn y fangre
  • Trosglwyddir y drwydded mangre i weithredwr newydd a fydd yn gweithredu o'r fangre gyda'i weithdrefnau a'i bolisïau ei hun sy'n wahanol i weithdrefnau neu bolisïau'r deiliad trwydded blaenorol
  • Unrhyw newidiadau i bolisïau mewnol y gweithredwr y mae angen newid mesurau rheoli presennol neu ychwanegu atynt o ganlyniad i'r newidiadau hyn; a/neu staff y bydd angen eu hailhyfforddi ar y newidiadau polisi hynny
  • Mae mynedfa neu fynedfeydd y fangre wedi newid, er enghraifft mae drws wedi newid o fod yn ddrws metel â gwydro i ddrws gwydr neu mae drws wedi newid o fod yn fynedfa i fod yn allanfa neu i'r gwrthwyneb
  • Mae cyfleusterau gamblo newydd nad oeddent ar gael yn flaenorol bellach ar gael ar y safle, er enghraifft betio yn ystod chwarae, dyfeisiau gemau llaw i gwsmeriaid, peiriannau betio hunanwasanaeth neu gategori gwahanol o beiriant hapchwarae
  • Mae gweithredwr y fangre'n cyflwyno cais am drwydded i ddarparu gweithgaredd dan drefn reoleiddio wahanol yn y fangre honno, er enghraifft gwerthu alcohol

Yn yr un modd â'r enghreifftiau o newidiadau sylweddol mewn amgylchiadau lleol, nid yw'r rhestr uchod yn rhestr gyflawn o newidiadau sylweddol i fangreoedd.

Fel arfer cyffredinol, ni fydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gofyn am gopi o'r asesiad risg a adolygwyd os gwnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r fangre drwyddedig, oni bai fod y newid yn un y bydd angen cais am amrywiad ar ei gyfer.

Amrywiadau

Nid oes angen gwneud unrhyw amrywiadau i drwyddedau mangreoedd heblaw am y rheiny sy'n ofynnol o dan Adran 187 y Ddeddf, ac nid oes angen cynnwys newidiadau mewn amgylchiadau megis newid i enw mangre neu newid i gyfeiriad y deiliad trwydded,

Mae Darpariaethau Codau Cyfrifoldeb Cymdeithasol LCCP y Comisiwn yn gofyn i weithredwyr gamblo gynnal adolygiad o'r asesiad risg lleol a'i ddiweddaru os oes angen gwneud hynny wrth baratoi cais i amrywio trwydded y Efallai bydd gweithredwyr sy'n cyflwyno cais am amrywiad i'r Awdurdod Trwyddedu'n ystyried cyflwyno copi o'r asesiad risg lleol a adolygwyd wrth gyflwyno'r cais. Bydd hyn wedyn yn nacáu'r angen i'r Awdurdod Trwyddedu ofyn i weld copi o'r asesiad risg hwn a gallai leihau'r tebygolrwydd o gyflwyno sylwadau am y cais.

Adolygiad cyson o asesiadau risg

Fel enghraifft o arfer gorau, mae'r Awdurdod Trwyddedu'n argymell bod gweithredwyr yn sefydlu trefn adolygu reolaidd mewn perthynas ag asesiadau risg lleol. Gellir cynnal y rhaglen adolygu hon ar y cyd ag adolygiadau eraill o asesiadau risg iechyd a diogelwch ar gyfer y fangre. Byddai'r rhaglen adolygu hon yn sicrhau y caiff yr asesiadau risg hyn eu hystyried yn gyson a'u diweddaru yn ôl yr angen, ni waeth a yw unrhyw un o'r digwyddiadau sbardun a nodwyd uchod wedi digwydd neu beidio.

Y gweithredwr gamblo fydd yn penderfynu pa mor aml i gynnal yr adolygiadau hyn ond argymhellir na ddylai cyfnod o 3 blynedd neu fwy fynd heibio cyn adolygu'r asesiadau hyn. Efallai bydd gweithredwyr yn dymuno cydamseru eu hadolygiadau o'r asesiadau risg lleol â'r broses o gyhoeddi Polisi Gamblo'r Awdurdod Byddai hyn yn caniatáu i weithredwyr gamblo ystyried y Proffil Ardal Leol a amlinellwyd ym mharagraff 3.0.

Risgiau lleol a mesurau rheoli

Mae dwy ran benodol i'r broses asesu risgiau:

  • asesu'r risgiau lleol
  • pennu mesurau lliniaru addas i leihau'r risgiau hynny

Mae'r risgiau y mae'n rhaid i weithredwyr eu nodi'n ymwneud â'r effaith bosib y gall mangre gamblo a'i gweithrediad ei chael ar yr amcanion trwyddedu. Dylai'r gweithredwr gamblo nodi a rhestru'r holl risgiau lleol a nodwyd ganddo yn yr asesiad. Gall lefelau risgiau o'r fath amrywio o fod yn isel i uchel iawn gan ddibynnu ar yr effaith bosib ar yr amcanion trwyddedu, fel a aseswyd gan y gweithredwr Bydd lefel unrhyw risg benodol yn effeithio'n uniongyrchol ar fath a graddau'r mesurau rheoli y mae'r gweithredwr gamblo wedi eu nodi fel mesurau sy'n angenrheidiol i liniaru risg o'r fath.

Bydd gweithredwyr eisoes yn asesu lleoliadau wrth chwilio am safleoedd newydd neu wrth adolygu perfformiad eu mangreoedd. Caiff dyluniad mangreoedd ei asesu hefyd i sicrhau y diwellir anghenion y gweithrediad gamblo, y diogelir staff a chwsmeriaid ac y cynigir cyfleusterau sy’n cofnodi Bydd gweithredwyr hefyd wedi rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith o ran cynnal mangre yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol eraill a osodwyd arnynt gan y Comisiwn ac asiantaethau eraill.

Bydd gweithredwyr eisoes yn gyfarwydd â nodi risgiau mewn perthynas â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a hylendid bwyd. Caiff asesiadau risg eu defnyddio at ddibenion diogelwch a throseddu hefyd, er enghraifft gwyngalchu arian ac fel rhan o arfer gorau gymdeithas fasnach, megis y Safe Bet Alliance

Mae'r broses asesu risgiau lleol hon, er yn debyg, yn gofyn am amrywiaeth ehangach o lawer o ystyriaethau wrth nodi risgiau Yn ôl Darpariaethau Codau Cyfrifoldeb Cymdeithasol LCCP y Comisiwn, mae angen i weithredwyr gamblo ystyried yr ardal leol lle mae'r fangre wedi'i lleoli, a'r effaith y gall y fangre honno ei chael ar yr amcanion trwyddedu.

Mwy o Wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am Ddeddf Gamblo 2005, y Datganiad o Bolisi Trwyddedu hwn neu'r broses ymgeisio ar gael o'r:

Gwasanaethau Rheoleiddio Cyfreithiol
Canolfan Ddinesig Port Talbot
SA13 1PJ

Ffôn: 01639 763050 (Gwasanaeth ffonio’n ôl)
E-bost: LRS@npt.gov.uk

Mae gwybodaeth hefyd ar gael gan: The Gambling Commission

Victoria Square House Birmingham
B2 4BP
Ffôn: 0121 230 6666
Gwefan: www.gamblingcommission.gov.uk

The Department for Culture, Media and Sport 100 Parliament Square
London SW1A 2BQ
Ffôn: 020 7211 2210
Gwefan:    www.culture.gov.uk