Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhan B - Trwyddedau Mangre

Egwyddorion Cyffredinol

Bydd trwyddedau mangre yn amodol ar y gofynion a nodir yn Neddf Gamblo 2005 a'r rheoliadau, yn ogystal â'r amodau gorfodol a sylfaenol y manylir arnynt gan reoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae Awdurdodau Trwyddedu'n gallu eithrio amodau sylfaenol a gallant atodi rhai eraill lle credir bod hyn yn berthnasol.

Wrth benderfynu ynghylch trwyddedau mangre, mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol y dylai ganiatáu defnyddio mangre at ddiben gamblo ar yr amod y mae'n meddwl bod hynny:-

  • yn unol ag unrhyw gôd ymarfer perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo;
  • yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn;
  • Yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu; ac
  • Yn unol â datganiad o bolisi gamblo'r awdurdod

Gwerthfawrogir nad yw gwrthwynebiadau moesol i gamblo yn rheswm dilys dros wrthod ceisiadau am drwyddedau mangre (ac eithrio o ran 'penderfyniad dim casino' - gweler yr adran ar gasinos isod) a hefyd nid yw galw heb ei ateb yn faen prawf ar gyfer Awdurdod Trwyddedu.

Mae'r Amodau a Chôd Ymarfer Trwyddedu (LCCP) a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Gamblo sy'n cychwyn ym mis Mai 2015 yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar fangreoedd i gwblhau asesiad risg yn seiliedig ar Gôd 8 y côd cyfrifoldeb cymdeithasol. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried yr LCCP wrth ystyried ceisiadau.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu hwn hefyd yn nodi arweiniad y Comisiwn Gamblo ar sicrhau mai betio yw prif weithgaredd mangre drwyddedig. Efallai bydd peiriannau hapchwarae ar gael i'w defnyddio mewn mangreoedd betio trwyddedig dim ond ar adegau pan fydd cyfleusterau digonol ar gyfer betio hefyd ar Bydd angen i weithredwyr ddangos mai betio fydd prif weithgaredd y fangre wrth geisio amrywiadau i drwyddedau.

Mae'r Ddeddf yn diffinio mangre fel "unrhyw le”. Felly, ni all mwy nag un drwydded mangre fod yn gymwys i "unrhyw le" yn ôl Adran 152. Fodd bynnag, gellir rhoi mwy nag un drwydded mangre i un adeilad, ar yr amod eu bod ar gyfer gwahanol rannau o'r adeilad a gellir ystyried yn rhesymol fod gwahanol rannau o'r adeilad yn fangreoedd gwahanol. Mae hyn yn darparu ar gyfer mangre uned luosog fawr megis parc pleser, canolfan siopa etc. i gael trwyddedau mangreoedd ar wahân/penodol lle mae dulliau diogelu priodol ar waith. Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw arbennig os oes pryderon am israniadau adeilad neu lain sengl a bydd yn sicrhau y cydymffurfir ag amodau gorfodol ynghylch mynediad.

Mae'r Comisiwn Gamblo'n datgan yn ei Arweiniad i Awdurdodau Trwyddedu "yn y rhan fwyaf o achosion, y disgwyliad yw y bydd adeilad unigol yn destun cais am drwydded e.e. 32 Y Stryd Fawr. Ond nid yw hynny'n golygu na all 32 Y Stryd Fawr fod yn destun trwyddedau mangre ar wahân ar gyfer y llawr isaf a'r llawr Bydd yn dibynnu ar amgylchiadau a ellir ystyried bod gwahanol rannau o adeilad yn wahanol fangreoedd mewn gwirionedd. Bydd lleoliad y fangre'n amlwg yn ystyriaeth bwysig a bydd addasrwydd y rhaniad yn debygol o fod yn fater trafodaeth rhwng y gweithredwr a'r swyddog trwyddedu. Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn ystyried y gall mannau mewn adeilad sydd wedi'u rhannu mewn modd artiffisial neu dros dro gan raffau neu raniadau symudwy gael eu hystyried yn iawn fel mangreoedd gwahanol".

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw penodol i Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Lleol sy'n datgan y:

Dylai'r Awdurdod Trwyddedu roi sylw penodol wrth ystyried ceisiadau am drwyddedau lluosog ar gyfer adeilad a cheisiadau am ran benodol o adeilad a ddefnyddir at ddibenion eraill (nad ydynt yn ymwneud â gamblo). Yn benodol, dylent fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Nod y trydydd amcan trwyddedu yw atal gamblo rhag niweidio plant. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu nid yn unig eu hatal rhag cymryd rhan mewn gamblo, ond eu hatal rhag bod yn agos at weithgareddau gamblo hefyd. Dylai mangreoedd gael eu trefnu fel nad yw plant yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gamblo, nid ydynt yn cael mynediad damweiniol iddo na'r cyfle i'w weld yn agos lle cânt eu gwahardd rhag cymryd rhan.
  • Dylai fod gan rannau o adeilad sy'n destun un neu fwy o drwyddedau mangre fynedfeydd ac allanfeydd ar wahân sy'n hawdd eu nodi fel na fydd dim i amharu ar gadw'r mangreoedd gwahanol ar wahân ac ni fydd pobl yn gallu crwydro i fan gamblo heb sylweddoli. Yn y cyd-destun hwn, dylai fod modd cael mynediad i'r fangre fel arfer heb fynd drwy fangre drwyddedig arall neu drwy fangre â hawlen
  • Dylai cwsmeriaid allu cymryd rhan yn y gweithgaredd a enwir ar drwydded y fangre.

Mae'r Arweiniad hefyd yn rhoi rhestr o ffactorau y dylai'r Awdurdod Trwyddedu fod yn ymwybodol ohonynt, a all gynnwys:

  • A yw'r fangre wedi'i chofrestru ar wahân ar gyfer trethi busnes
  • Ai'r un person sy'n berchen ar fangre gyfagos y fangre, neu berson arall?
  • A oes modd cael mynediad i'r holl fangreoedd o'r stryd neu o dramwyfa gyhoeddus?
  • Ai dim ond trwy fangre gamblo arall y gellir cael mynediad i'r fangre?

Amgylchedd Trwyddedau Priodol

Mae'r Arweiniad i Awdurdodau Lleol a'r Amodau a Chodau Ymarfer Trwyddedu (LCCP) yn amlinellu materion ychwanegol y dylai'r Awdurdod Trwyddedu roi sylw iddynt wrth ystyried ceisiadau am drwyddedau ar gyfer trwyddedau mangre.

Mae’r arweiniad yn pennu cyfyngiadau ar weithgareddau gamblo mewn mangre, y'i hadwaenid yn flaenorol yn brif weithgaredd gamblo. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried unrhyw gais cynnar yn seiliedig ar y darpariaethau yn y codau a'r arweiniad hwn.

Lle darperir cyfleusterau gamblo mewn mangre fel gweithgaredd ychwanegol at brif ddiben y fangre; e.e. ardaloedd gwasanaethau traffyrdd a chanolfannau siopa, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i'r ardal gamblo fod wedi'i diffinio'n glir i sicrhau bod cwsmeriaid yn llwyr ymwybodol eu bod yn gwneud dewis i fynd i mewn i'r fangre gamblo, a bod y fangre wedi'i goruchwylio'n briodol ar bob adeg.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried y rhain ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill wrth wneud ei benderfyniad, gan ddibynnu ar holl amgylchiadau'r achos.

Mangreoedd sy'n "barod ar gyfer gamblo"

Yn ôl yr Arweiniad, ni ddylid rhoi trwydded i ddefnyddio mangre at ddibenion gamblo oni bai bod yr Awdurdod Trwyddedu'n fodlon y bydd yn barod i gael ei defnyddio at ddiben gamblo yn y dyfodol gweddol agos, yn gyson â graddfa'r gwaith adeiladu neu addasu a fydd yn ofynnol cyn y gellir defnyddio'r fangre.

Os nad yw gwaith adeiladu'r fangre wedi'i gwblhau eto neu os oes angen gwaith addasu, neu os nad oes hawl gan yr ymgeisydd i feddiannu'r fangre, dylid ystyried cais am ddatganiad amodol.

Wrth benderfynu a ellir rhoi trwydded mangre i fangre lle mae gwaith adeiladu neu addasu'n parhau, bydd yr Awdurdod yn penderfynu ynghylch ceisiadau ar sail eu teilyngdod, gan ddilyn proses ystyried dau gam.

  • Yn gyntaf, a ddylid caniatáu i'r fangre gael ei defnyddio at ddiben gamblo
  • Yn ail, a oes modd pennu amodau priodol i ddarparu ar gyfer y ffaith nad yw'r fangre eto mewn cyflwr addas i gynnal gweithgareddau gamblo.

Dylai ymgeiswyr sylwi bod hawl gan yr awdurdod hwn i benderfynu ei bod yn briodol rhoi trwydded yn amodol ar amodau, ond nid yw'n gorfod cyflwyno trwydded o'r fath.

Mae enghreifftiau manylach o'r amgylchiadau lle gellir rhoi trwydded o'r fath ar gael yn yr Arweiniad.

Ystyriaethau Eraill

Lleoliad

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol na ellir ystyried materion galw o ran lleoliad mangre, ond y gellir rhoi sylw i ystyriaethau o ran amcanion trwyddedu. Bydd yr awdurdod yn rhoi sylw arbennig i amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan gamblo, yn ogystal â mater troseddu ac anrhefn. Os penderfynir ar unrhyw bolisi penodol o ran ardaloedd lle na ddylid lleoli mangreoedd gamblo, caiff y datganiad hwn ei ddiweddaru. Sylwer nad yw unrhyw bolisi o'r fath yn atal unrhyw gais rhag cael ei gyflwyno a chaiff pob cais ei ystyried ar ei deilyngdod ei hun, a'r ymgeisydd fydd yn gyfrifol am ddangos sut gellir goresgyn pryderon posib.

Cynllunio

Mae Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Trwyddedu'n datgan:

Wrth benderfynu ar geisiadau mae gan yr Awdurdod Trwyddedu ddyletswydd i ystyried yr holl faterion perthnasol ac ni fydd yn ystyried unrhyw faterion amherthnasol, h.y. y rhai nad ydynt yn ymwneud â gamblo a'r amcanion trwyddedu. Un enghraifft o fater amherthnasol fyddai'r tebygolrwydd o'r ymgeisydd yn cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer eu cynnig.

Ni fydd yr awdurdod hwn yn ystyried materion amherthnasol, yn unol â'r arweiniad uchod. Mewn ychwanegiadau, mae'r awdurdod yn nodi'r dyfyniad hwn o'r Arweiniad:

Wrth ymdrin â chais am drwydded mangre ar gyfer adeiladau sydd wedi'u cwblhau, ni fydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried a oes rhaid i'r adeiladau hynny gydymffurfio ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu adeiladu angenrheidiol. Dylid ymdrin â'r materion hynny dan y rheolau cynllunio perthnasol a phwerau rheoliadau adeiladu, ac ni ddylent fod yn rhan o'r ystyriaeth ar gyfer y drwydded mangre. Mae adran 210 o Ddeddf 2005 yn atal awdurdodau trwyddedu rhag ystyried y tebygolrwydd y gallai cynnig yr ymgeisydd gael caniatâd cynllunio neu adeiladu wrth ystyried cais am drwydded mangre. Yn yr un modd, nid yw rhoi trwydded mangre gamblo yn niweidio neu'n atal unrhyw weithredu, a allai fod yn briodol yn ôl y gyfraith, sy'n ymwneud â chynllunio neu adeiladu.

Dyblygu gwaith cyfundrefnau rheoleiddio eraill:

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn ceisio osgoi dyblygu gwaith unrhyw systemau statudol/rheoleiddio eraill, lle bynnag y bo modd, gan gynnwys cynllunio. Ni fydd yr awdurdod hwn yn ystyried a yw cais am drwydded yn debygol o fod yn gymeradwyaeth caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu wrth iddo ei ystyried. Fodd bynnag, bydd yn gwrando'n ofalus ar unrhyw bryderon ynghylch amodau nad yw trwyddedai'n debygol o allu eu bodloni oherwydd cyfyngiadau cynllunio a bydd yn ystyried unrhyw bryderon o'r fath yn ofalus.

Wrth ymdrin â chais am drwydded mangre ar gyfer adeiladau sydd wedi'u cwblhau, ni fydd yr awdurdod hwn yn ystyried a oes rhaid i'r adeiladau hynny gydymffurfio ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu adeiladu angenrheidiol. Ni chaiff risgiau iechyd a diogelwch eu hystyried, oherwydd ymdrinnir â'r materion hyn dan reoliadau cynllunio, adeiladu ac eraill, ac ni ddylent fod yn rhan o'r ystyriaeth ar gyfer y drwydded mangre.

Amcanion trwyddedu

Wrth roi trwyddedau mangre, mae'n rhaid bod yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu. O ran yr amcanion hyn, mae'r Awdurdod Trwyddedu hwn wedi ystyried Arweiniad y Comisiwn Gamblo i Awdurdodau Lleol, a nodir rhai sylwadau isod.

Atal gamblo rhag achosi troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu.

 Mae'r Awdurdod Trwyddedu hwn yn ymwybodol bod gan y Comisiwn Gamblo rôl arweiniol wrth atal gamblo rhag achosi Rhagwelir fodd bynnag y dylai awdurdodau trwyddedu roi sylw i leoliad arfaethedig mangre gamblo mewn perthynas â'r amcan trwyddedu hwn. Felly, os yw'n hysbys bod gan ardal lefelau uchel o droseddau cyfundrefnol, bydd yr awdurdod hwn yn ystyried yn ofalus a yw'n addas lleoli mangre gamblo yno ac a fyddai amodau'n briodol megis darparu goruchwylwyr drws. Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol o'r angen i wahaniaethu rhwng anhrefn a niwsans. Bydd yn ystyried ffactorau megis a oedd angen cymorth yr heddlu a natur unrhyw ddigwyddiad er mwyn gwahaniaethu.

Sicrhau bod gamblo'n digwydd mewn modd teg ac agored:

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi nodi cyngor y Comisiwn Gamblo sef na fyddai fel arfer yn disgwyl i awdurdodau trwyddedu ymwneud â sicrhau bod gamblo'n cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored, oherwydd eir i'r afael â hyn drwy drwyddedau gweithredu a phersonol.

Diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo:

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n nodi arweiniad y Comisiwn Gamblo mai ystyr yr amcan hwn yw atal plant rhag cymryd rhan mewn gamblo (yn ogystal â chyfyngu ar hysbysebu fel nad yw cynnyrch gamblo yn cael ei anelu at blant nac yn arbennig o ddeniadol iddynt). Bydd yr Awdurdod Trwyddedu felly'n ystyried a oes angen mesurau penodol mewn mangreoedd penodol o ran yr amcan trwyddedu hwn. Gall mesurau priodol gynnwys goruchwylio mynedfeydd/peiriannau, gwahanu ardaloedd etc.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu hwn hefyd yn ymwybodol o Godau Ymarfer y Comisiwn Gamblo mewn perthynas â'r amcan trwyddedu hwn, o ran mangreoedd penodol.

O ran y term "pobl ddiamddiffyn" nodir nad yw'r Comisiwn Gamblo'n ceisio cynnig diffiniad ond mae'n nodi "y bydd yn tybio, at ddibenion rheoleiddio, fod y grŵp hwn yn cynnwys pobl sy'n gamblo mwy nag yr hoffent; pobl sy'n gamblo mwy nag y gallant ei fforddio; a phobl nad ydynt efallai'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus neu gytbwys ynghylch gamblo oherwydd nam ar y meddwl, alcohol neu gyffuriau”. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ymdrin â'r amcan trwyddedu hwn fesul achos.

Mae'r Mae'r Amodau a Chodau Ymarfer Trwyddedu (LCCP) yn nodi sut y mae'n rhaid i weithredwyr atal plant rhag cyflawni  gweithgareddau gamblo neu hapchwarae sy'n gyfyngedig i oed, yn enwedig lle ceir peiriannau hapchwarae trwyddedig.

Yn benodol, mae'n rhaid i weithredwyr sicrhau bod:

  • yr holl staff wedi'u hyfforddi,
  • yr holl gwsmeriaid yn cael eu goruchwylio pan fyddant yn y fangre gamblo
  • Rhaid bod ganddynt weithdrefnau ar gyfer nodi cwsmeriaid sydd mewn perygl o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo a hefyd i gyfeirio pobl at gefnogaeth.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl bod gan yr holl weithredwyr bolisïau a gweithdrefnau ar waith fel sy'n ofynnol gan godau LCCP ar gyfrifoldeb cymdeithasol i gynnwys holl agweddau ar y côd, yn arbennig cofnodion hyfforddiant staff a chofnodion gwahardd o wirfodd.

Mae darpariaethau ychwanegol o ran gwahardd o wirfodd a marchnata yn gynwysedig yn y côd cyfrifoldeb cymdeithasol. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried yr holl amodau a chodau wrth ystyried ceisiadau neu gynnal gweithgareddau gorfodi.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n rhoi ystyriaeth i adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru er mwyn cefnogi’r amcan trwyddedu o amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo.

Byddai’r Awdurdod Trwyddedu’n disgwyl i ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau gynnal y gwiriadau angenrheidiol ar bob aelod perthnasol o staff i sicrhau eu bod yn addas i’w cyflogi, yn benodol mewn perthynas â mangreoedd y mae gan blant a phobl ddiamddiffyn fynediad iddynt.

Amodau

Bydd unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwyddedau gan yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn gymesur a byddant yn:

  • berthnasol i'r angen i sicrhau bod yr adeilad arfaethedig yn addas fel cyfleuster gamblo;
  • ymwneud yn uniongyrchol â'r fangre a'r fath o drwydded y gwnaed cais amdani;
  • teg ac yn berthnasol o fewn rheswm i'r math o fangre a'i maint; ac
  • yn rhesymol ym mhob ffordd arall

Gwneir penderfyniadau ar amodau unigol fesul achos, er y bydd yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn ystyried defnyddio sawl mesur os ystyrir bod angen gwneud hynny, megis defnyddio goruchwylwyr, arwyddion priodol ar gyfer ardaloedd oedolion yn unig etc. Rhoddir ystyriaeth benodol i’r asesiadau risg lleol ar gyfer pob mangre wrth wneud penderfyniadau o’r fath. Ceir sylwadau penodol yn hyn o beth dan rai o'r mathau o drwyddedau isod. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn disgwyl i'r sawl sy'n cyflwyno cais am drwydded gynnig eiawgrymiadau ei hun ar y ffyrdd y gellir bodloni'r amcanion trwyddedu'n effeithiol, ynghyd ag amodau gorfodol a nodwyd yn Rheoliadau Deddf Gamblo 2005 (Amodau Gorfodol a Diofyn)(Cymru a Lloegr) 2007.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn ystyried mesurau penodol a all fod yn ofynnol ar gyfer adeiladau sy'n destun trwyddedau mangre lluosog. Gall mesurau o'r fath gynnwys goruchwylio mynedfeydd; gwahanu mannau gamblo o'r mannau lle na cheir gamblo y mae plant yn mynd iddynt; a goruchwylio peiriannau hapchwarae mewn mangreoedd gamblo nad ydynt yn benodol i oedolion, er mwyn dilyn yr amcanion trwyddedu. Mae'r materion hyn yn unol ag Arweiniad y Comisiwn Gamblo a Chodau Ymarfer.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hefyd yn sicrhau, lle bydd peiriannau Categori C neu uwch ar gael mewn mangre lle derbynnir plant:

  • y lleolir yr holl beiriannau o'r fath mewn man sydd wedi'i wahanu o weddill y fangre gan rwystr ffisegol sy'n atal mynediad yn effeithiol heblaw drwy fynedfa ddynodedig;
  • mai oedolion yn unig gaiff fynediad i'r man lle mae'r peiriannau;
  • y goruchwylir y fynedfa i'r man lle lleolir y peiriannau;
  • bod y man lle cedwir y peiriannau wedi'i drefnu fel y gall staff y gweithredwr neu ddaliwr y drwydded arsylwi arno; a
  • ger mynedfa unrhyw fan o'r fath a'r tu mewn iddo, yr arddangosir hysbysiadau mewn man amlwg sy'n nodi bod mynediad i'r man wedi'i wahardd i bobl dan 18 oed.

Bydd yr ystyriaethau hyn yn gymwys i fangreoedd gan gynnwys adeiladau lle mae trwyddedau mangreoedd lluosog yn gymwys.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol y gall fod un neu fwy o drwyddedau mangre gan draciau, ar yr amod bod pob trwydded yn ymwneud â rhan benodol o'r trac. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried yr effaith ar y trydydd amcan trwyddedu a'r angen i sicrhau bod mynedfeydd i bob math o fangre'n amlwg a bod plant yn cael eu gwahardd o ardaloedd gamblo lle na chaniateir iddynt fynd i mewn iddynt.

  • Sylwer bod amodau na all yr Awdurdod Trwyddedu eu hatodi i drwyddedau mangre sef:
  • unrhyw amod ar y drwydded mangre sy'n ei gwneud hi'n amhosib cydymffurfio ag amod trwydded weithredu;
  • amodau sy'n ymwneud â chategorïau, niferoedd neu ddull gweithredu peiriannau hapchwarae;
  • amodau lle bo aelodaeth clwb neu gorff yn ofynnol (mae Deddf Gamblo 2005 yn dileu'r gofyniad am aelodaeth ar gyfer casinos a chlybiau bingo'n benodol ac mae'r ddarpariaeth hon yn ei atal rhag cael ei adfer); ac
  • amodau sy'n ymwneud ag arian betio, ffioedd, ennill gwobrau.

Goruchwylwyr Drysau:

Mae'r Comisiwn Gamblo yn ei Arweiniad i Awdurdodau Trwyddedu yn hysbysu os yw Awdurdod Trwyddedu'n pryderu y gallai mangre ddenu anhrefn neu fod yn destun ymdrechion i gael mynediad heb ganiatâd (er enghraifft gan blant a phobl ifanc), yna efallai bydd yn ofynnol i oruchwylydd drws reoli mynedfeydd i'r fangre, ac mae hawl ganddo osod amodau ar y drwydded mangre i'r perwyl hwn.

Lle penderfynir y bydd goruchwylio mynedfeydd/peiriannau'n briodol ar gyfer achosion arbennig, bydd angen penderfynu a ddylai'r rhain gael eu trwyddedu gan Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ai peidio. Ni thybir yn awtomatig y bydd angen iddynt gael eu trwyddedu gan fod y gofynion statudol ar gyfer gwahanol fathau o fangreoedd yn amrywio.

Canolfannau Hapchwarae Oedolion

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw priodol i'r angen am amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo a bydd yn disgwyl i'r ymgeisydd fodloni'r awdurdod y bydd mesurau digonol ar waith i sicrhau na chaiff pobl dan 18 oed fynediad i'r mannau i oedolion yn unig.

Lle darperir cyfleusterau gamblo mewn mangre fel gweithgaredd ychwanegol at brif ddiben y fangre; e.e. ardaloedd gwasanaethau traffyrdd a chanolfannau siopa. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i'r ardal gamblo gael ei diffinio'n glir i sicrhau bod cwsmeriaid yn llwyr ymwybodol eu bod yn gwneud dewis i fynd i mewn i'r fangre gamblo a bod y fangre wedi'i goruchwylio'n briodol ar bob adeg.

Gall yr Awdurdod Trwyddedu ystyried mesurau megis:

  • Cynlluniau prawf oedran
  • Teledu cylch cyfyng
  • Goruchwylio mynedfeydd/mannau lle ceir peiriannau
  • Rhwystrau ffisegol i wahanu mannau
  • Lleoliad y fynedfa
  • Hysbysiadau/arwyddion
  • Oriau agor penodol
  • Cynlluniau gwahardd o wirfodd
  • Darparu taflenni gwybodaeth/rhifau llinellau cymorth ar gyfer sefydliadau megis GamCare

Nid yw'r rhestr hon yn orfodol, nac yn gynhwysfawr, a'i nod yw cynnig enghreifftiau o fesurau posib.

Canolfannau Adloniant Teulu (Trwyddedig)

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw priodol i'r angen am amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo a bydd yn disgwyl i'r ymgeisydd fodloni'r awdurdod y bydd mesurau digonol ar waith i sicrhau na chaiff pobl dan 18 oed fynediad i'r mannau i oedolion yn unig, er enghraifft.

Disgwylir i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos y gwnaed gwiriad cofnod troseddol addas gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod o staff yn ei gyflogaeth.

Caniateir i blant a phobl ifanc gael mynediad i ganolfan adloniant teulu trwyddedig ond ni chaniateir iddynt ddefnyddio peiriannau hapchwarae Categori C. Mae’r Awdurdod Trwyddedu’n disgwyl i’r ymgeisydd sicrhau y bydd mesurau digonol ar waith i atal pobl ifanc dan 18 oed rhag cael mynediad i’r ardaloedd peiriannau hapchwarae sydd i oedolion yn unig. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n disgwyl i ymgeiswyr fodloni’r amcanion trwyddedu a chydymffurfio â phob amod gorfodol a phob Côd Ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo.

Mae’n ofynnol bod gwahaniad amlwg rhwng y mathau o beiriannau er mwyn sicrhau nad oes gan blant mynediad at beiriannau Categori C. Mae’n rhaid gosod yr holl beiriannau Categori C mewn ardal o’r fangre sydd ar wahân i weddill y fangre trwy osod rhwystr ffisegol a fydd yn atal mynediad, oni bai am drwy fynedfa dynodedig. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n ceisio sicrhau:

  • mai oedolion yn unig sy’n cael mynd i’r ardal lle cedwir y peiriannau hapchwarae;
  • bod mynediad i’r ardal lle cedwir y peiriannau dan oruchwyliaeth;
  • bod yr ardal lle cedwir y peiriannau wedi’i threfnu fel y gall staff y gweithredwr neu ddeiliad y drwydded ei goruchwylio; a
  • bod hysbysiadau amlwg ger mynedfa ardaloedd o’r fath, ac yn yr ardaloedd hyn hefyd, sy’n nodi bod mynediad i’r ardal yn waharddedig i bobl dan 18 oed.

Gall yr Awdurdod Trwyddedu ystyried mesurau i fodloni'r amcanion trwyddedu, megis:

  • Teledu cylch cyfyng
  • Goruchwylio mynedfeydd/mannau lle ceir peiriannau
  • Rhwystrau ffisegol i wahanu mannau
  • Lleoliad y fynedfa
  • Hysbysiadau/arwyddion
  • Oriau agor penodol
  • Cynlluniau gwahardd o wirfodd
  • Darparu taflenni gwybodaeth/rhifau llinellau cymorth ar gyfer sefydliadau megis GamCare
  • Mesurau/hyfforddiant i staff ar sut i ddelio â phlant ysgol sy'n triwanta yn y fangre

Nid yw'r rhestr hon yn orfodol, nac yn gynhwysfawr, a'i nod yw cynnig enghreifftiau o fesurau posib.

Casinos

Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi pasio penderfyniad 'dim casinos' o dan Adran 166 Deddf Gamblo 2005. Daeth y penderfyniad i rym ar 22 Tachwedd 2022.

Dylai darpar ymgeiswyr trwydded sylwi bod penderfyniad 'dim casinos' wedi'i basio gan yr awdurdod hwn, ac ni chaiff unrhyw geisiadau am fangreoedd casino eu hystyried. Caiff unrhyw geisiadau a dderbynnir eu dychwelyd gyda hysbysiad bod penderfyniad 'dim casinos' ar waith.

Mangreoedd Bingo

  • Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n nodi bod Arweiniad y Comisiwn Gamblo'n datgan; 

y bydd angen i Awdurdodau Trwyddedu fodloni eu hunain bod bingo'n gallu cael ei chwarae mewn unrhyw fangre bingo y gallant roi trwydded mangre iddo. Bydd hwn yn ystyriaeth berthnasol lle bydd gweithredwr mangre bingo sydd eisoes yn bod yn gwneud cais i amrywio ei drwydded i hepgor ardal o'r fangre sydd eisoes yn bod o'i chwmpasiad, ac yna'n gwneud cais am drwydded mangre newydd, neu drwyddedau lluosog, ar gyfer yr ardal honno neu'r ardaloedd hynny a hepgorwyd.

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol y gall daliwr trwydded mangre bingo ddarparu nifer o beiriannau hapchwarae categori B i'w defnyddio, nad ydynt yn fwy nag 20% o gyfanswm nifer y peiriannau hapchwarae sydd ar gael i'w defnyddio yn y fangre.

Caniateir i blant a phobl ifanc fynd i mewn i fangre bingo; fodd bynnag, ni chaniateir iddynt gymryd rhan yn y bingo ac os bydd peiriannau categori B neu C ar gael i'w defnyddio, mae'n rhaid i'r rhain fod mewn lle ar wahân i'r mannau lle caniateir plant a phobl ifanc.

Os oes peiriannau Categori C neu uwch ar gael yn y fangre bingo y gall plant gael mynediad iddi, bydd yr Awdurdod Trwyddedu’n ceisio sicrhau:

  • bod unrhyw beiriannau o’r fath wedi’u lleoli mewn ardal o’r fangre sydd wedi’i gwahanu oddi wrth weddill y fangre â rhwystr ffisegol er mwyn atal mynediad heblaw am drwy fynedfa ddynodedig;
  • mai oedolion yn unig sy’n cael mynd i’r ardal lle cedwir y peiriannau dan oruchwyliaeth;
  • bod mynediad dan oruchwyliaeth i’r ardal lle cedwir y peiriannau;
  • bod yr ardal lle cedwir y peiriannau wedi’i threfnu fel y gall staff neu ddeiliad y drwydded ei goruchwylio; a
  • bod hysbysiadau amlwg ger mynedfa ardaloedd o’r fath, ac yn yr ardaloedd hyn hefyd, sy’n nodi bod mynediad i’r ardal yn waharddedig i bobl dan 18 oed

Mangreoedd Betio

Yn unol ag Arweiniad y Comisiwn Gamblo, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried maint y fangre, nifer y lleoedd cownter sydd ar gael ar gyfer trafodion person i berson a gallu'r staff i fonitro'r defnydd o'r peiriannau gan blant a phobl ifanc (mae'n drosedd i'r rhai dan 18 oed fetio) neu gan bobl ddiamddiffyn, wrth ystyried nifer/natur/amgylchiadau'r peiriannau betio y mae gweithredwr am eu cynnig.

Mae’r Awdurdod Trwyddedu’n cydnabod bod gan gwmnïau betio penodol nifer o fangreoedd yn yr ardal. Er mwyn sicrhau bod unrhyw faterion cydymffurfio’n cael eu nodi a’u datrys ar y cam cynharaf posib, gofynnir i weithredwyr roi pwynt cyswllt unigol a ddylai fod yn unigolyn mewn swydd uwch y gall yr Awdurdod Lleol gysylltu ag ef yn gyntaf os ceir unrhyw ymholiadau neu broblemau o ran cydymffurfio.

Ffeiriau Teithiol

Lle darperir peiriannau categori D a/neu beiriannau hapchwarae cyfle cyfartal neu am wobr heb hawlen i'w defnyddio mewn ffeiriau teithiol, cyfrifoldeb yr Awdurdod Trwyddedu yw penderfynu a yw'r gofyniad statudol sef nad yw cyfleusterau ar gyfer gamblo fwy na difyrrwch atodol, yn cael ei fodloni.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n ystyried hefyd a yw'r ymgeisydd yn cydymffurfio â diffiniad statudol ffair deithiol.

Nodir bod yr uchafswm statudol o 27 o ddiwrnodau ar gyfer defnyddio tir at ddiben cynnal ffair yn seiliedig ar flwyddyn galendr ac mae'n berthnasol i ddarn o dir lle cynhelir ffeiriau, ni waeth a yw'r tir yn cael ei ddefnyddio gan yr un ffair deithiol neu ffeiriau gwahanol. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n gweithio gyda'i awdurdodau cyfagos i sicrhau bod unrhyw dir sy'n croesi ein ffiniau yn cael ei fonitro fel nad yw'r terfynau statudol yn cael eu torri.

Traciau

Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n ymwybodol y gall fod un neu fwy o drwyddedau mangre gan draciau, ar yr amod bod pob trwydded yn ymwneud â rhan benodol o'r trac. Yn unol â'r arweiniad, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n rhoi sylw arbennig i'r effaith ar y trydydd amcan trwyddedu (h.y. amddiffyn plant a phobl ddiamddiffyn rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio drwy gamblo) a'r angen i sicrhau bod y mynedfeydd i bob math o fangre ar wahân a bod plant yn cael eu gwahardd o'r mannau gamblo na chaniateir iddynt gael mynediad iddynt.

Felly, bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i'r ymgeisydd ddangos mesurau addas i sicrhau nad yw plant yn cael mynediad i gyfleusterau hapchwarae i oedolion yn unig. Nodir y caniateir i blant a phobl ifanc fynd i mewn i fannau trac lle darperir cyfleusterau betio ar ddiwrnodau pan gynhelir rasys cŵn a/neu geffylau ond, serch hyn, cânt eu gwahardd rhag mynd i fannau lle darperir peiriannau hapchwarae (ac eithrio peiriannau categori D).

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n disgwyl i ymgeiswyr gynnig eu mesurau eu hunain i fodloni'r amcanion trwyddedu, fodd bynnag, gall mesurau/amodau trwyddedu priodol gynnwys materion megis:

  • Cynlluniau prawf oedran
  • Teledu cylch cyfyng
  • Goruchwylio mynedfeydd/mannau lle ceir peiriannau
  • Rhwystrau ffisegol i wahanu mannau
  • Lleoliad y fynedfa
  • Hysbysiadau/arwyddion
  • Oriau agor penodol
  • Cynlluniau gwahardd o wirfodd
  • Darparu taflenni gwybodaeth/rhifau llinellau cymorth ar gyfer sefydliadau megis Gam Care.

Nid yw'r rhestr hon yn orfodol, nac yn gynhwysfawr, a'i nod yw cynnig enghreifftiau o fesurau posib.

Peiriannau Hapchwarae - lle bo gan yr ymgeisydd drwydded gweithredu betio pŵl ac mae'n bwriadu defnyddio ei hawliad i bedwar peiriant hapchwarae, dylai'r peiriannau hyn (ac eithrio peiriannau Categori D) fod mewn mannau lle na chaniateir mynediad i blant.

Peiriannau Betio - Bydd yr Awdurdod Trwyddedu hwn, yn unol â Rhan 6 Arweiniad y Comisiwn Gamblo, yn ystyried maint y fangre a gallu'r staff i fonitro'r defnydd o'r peiriannau gan blant a phobl ifanc (mae'n drosedd i'r rhai dan 18 oed fetio) neu gan bobl ddiamddiffyn, wrth ystyried nifer/natur/amgylchiadau'r peiriannau betio y mae gweithredwr yn bwriadu eu cynnig.

Ceisiadau a chynlluniau - yn ôl y Ddeddf Gamblo (a51), mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno cynlluniau'r fangre gyda'u ceisiadau er mwyn sicrhau bod gan yr Awdurdod Trwyddedu yr wybodaeth angenrheidiol i benderfynu a yw'r fangre'n addas at ddiben Caiff y cynllun ei ddefnyddio hefyd er mwyn i'r Awdurdod Trwyddedu gynllunio archwiliadau o fangreoedd yn y dyfodol.

Nid oes angen i gynlluniau traciau fod yn seiliedig ar raddfa benodol ond dylent fod wedi'u llunio ar raddfa a dylent fod yn ddigon manwl i gynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y rheoliadau.

Efallai bydd rhai traciau ar dir amaethyddol lle nad yw'r terfyn allanol wedi'i ddiffinio gan wal neu ffens allanol, megis traciau rasio o fan i fan. Mewn achosion o'r fath, lle codir ffi fynediad, gall deiliaid trwydded mangre trac godi adeileddau dros dro i gyfyngu ar fynediad i fangre.

Mewn achosion prin lle nad oes modd diffinio'r terfyn allanol, mae'n debygol na fydd y trac dan sylw wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon neu rasys yn aml. Mewn achosion o'r fath, efallai y bydd modd darparu cyfleusterau betio'n well drwy hysbysiadau o ddefnydd achlysurol lle nad oes angen diffinio ffin y fangre.

Mae'r awdurdod yn gwerthfawrogi ei fod weithiau'n anodd diffinio union leoliad ardaloedd betio ar draciau. Nid oes angen dangos yr union leoliad lle y darperir cyfleusterau betio ar gynlluniau'r trac, yn rhinwedd y ffaith fod betio'n cael ei ganiatáu yn unrhyw le yn y fangre ac oherwydd yr anawsterau sy'n gysylltiedig â dangos union leoliadau rhai mathau o draciau. Dylai ymgeiswyr ddarparu digon o wybodaeth fel y gall yr awdurdod hwn fodloni ei hun fod y cynllun yn dangos y prif ardaloedd lle gallai betio ddigwydd. Ar gyfer caeau ras yn arbennig, mae'n rhaid dangos unrhyw ardaloedd betio sy'n destun y "rheol pum gwaith" (y'i gelwir yn gyffredin yn gylchoedd betio) ar y cynllun.

Datganiadau Amodol

.Efallai bydd datblygwyr yn dymuno gwneud cais i'r awdurdod hwn am ddatganiadau amodol cyn ymrwymo i gontract i brynu neu brydlesu eiddo neu dir i farnu a yw'n werth bwrw ymlaen â datblygiad o ystyried yr angen am gael trwydded mangre. Nid oes angen i'r ymgeisydd feddu ar drwydded gweithredu er mwyn gwneud cais am ddatganiad amodol.

Mae adran 204 y Ddeddf Gamblo'n galluogi person i gyflwyno cais i'r Awdurdod Trwyddedu am ddatganiad amodol o ran y fangre y mae e'n:

  • disgwyl y caiff ei adeiladu;
  • disgwyl y caiff ei newid; neu'n
  • disgwyl y caiff yr hawl i'w feddiannu

Yr un yw'r broses ar gyfer ystyried cais am ddatganiad amodol ag sydd ar gyfer cais am drwydded Mae'r ymgeisydd yn gorfod hysbysebu ei gais yn yr un ffordd â chyflwyno cais am sylwadau mangre a cheir hawliau apêl.

Mewn gwrthgyferbyniad i'r cais am drwydded mangre, nid oes rhaid i'r ymgeisydd feddu ar drwydded weithredu gan y Comisiwn Gamblo neu fod wedi gwneud cais am hyn (ac eithrio yn achos trac) ac nid oes rhaid iddo feddu ar hawl i feddiannu'r fangre y cyflwynwyd cais amodol mewn perthynas â hi.

Gall dalwyr datganiad amodol gyflwyno cais wedyn am drwydded mangre unwaith bydd y fangre wedi'i hadeiladu, ei newid neu wedi dod i'w feddiant.

Cyfyngir yr Awdurdod Trwyddedu o ran y materion y gall eu hystyried wrth benderfynu ar gais am drwydded mangre. O ran cyflwyno sylwadau ynghylch ceisiadau am drwyddedau mangre, pan fydd datganiad amodol wedi'i roi, ni ellir ystyried unrhyw sylwadau eraill gan awdurdodau perthnasol neu bartïon sydd â buddiant oni bai eu bod yn ymwneud â materion nad oedd modd ymdrin â hwy ar adeg rhoi'r datganiad amodol neu eu bod yn adlewyrchu newid yn amgylchiadau'r ymgeisydd.

Yn ogystal â hyn, ni all yr awdurdod wrthod rhoi'r drwydded mangre (neu ei rhoi ar delerau gwahanol i'r rhai a atodwyd i'r datganiad amodol) ac eithrio drwy gyfeirio at faterion:

  • nad oedd modd i wrthwynebwyr eu codi ar gam y drwydded dros dro; neu'n
  • faterion sydd, ym marn yr awdurdod, yn adlewyrchu newid yn amgylchiadau'r gweithredwr; neu
  • lle nad yw'r fangre wedi'i hadeiladu yn unol â'r cynllun a gyflwynwyd gyda'r cais. Mae'n rhaid i hyn fod yn newid sylweddol i'r cynllun ac mae'r Awdurdod Trwyddedu'n nodi y gall drafod unrhyw bryderon sydd ganddo ynghylch yr ymgeisydd cyn gwneud penderfyniad.

Adolygiadau

Gall partïon sydd â buddiant neu awdurdodau cyfrifol wneud ceisiadau am drwydded mangre. Fodd bynnag, yr Awdurdod Trwyddedu fydd yn penderfynu a ddylid cynnal yr adolygiad. Bydd hyn ar y sail a yw'r cais am yr adolygiad yn berthnasol i'r materion a restrir isod:

  • yn unol ag unrhyw gôd ymarfer perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn Gamblo;
  • yn unol ag unrhyw arweiniad perthnasol a gyhoeddir gan y Comisiwn;
  • yn rhesymol gyson â'r amcanion trwyddedu; ac
  • yn unol â datganiad o bolisi gamblo'r awdurdod

Bydd yr awdurdod hefyd yn ystyried a yw'r cais yn ddisylwedd, yn flinderus; ni fydd yn achosi'r awdurdod i ddiwygio/dirymu/atal y drwydded, neu a yw yr un peth i raddau helaeth â sylwadau neu geisiadau blaenorol am adolygiad.

Diben yr adolygiad fydd penderfynu a ddylai'r Awdurdod Trwyddedu gymryd unrhyw gamau'n gysylltiedig â'r Os oes cyfiawnhad dros gymryd camau, yr opsiynau sydd ar gael i'r Awdurdod Trwyddedu yw:-

  • ychwanegu, dileu neu ddiwygio amod trwydded a roddwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu;
  • eithrio amod sylfaenol a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol (e.e. oriau agor) neu ddileu neu ddiwygio amod o'r fath;
  • atal y drwydded mangre am gyfnod heb fod yn fwy na thri mis; a
  • diddymu'r drwydded mangre.

Wrth benderfynu pa gamau, os o gwbl, y dylid eu cymryd ar ôl adolygiad, mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu ystyried yr egwyddorion a bennir yn Adran 153 y Ddeddf, yn ogystal ag unrhyw sylwadau perthnasol.

Yn benodol, gall yr Awdurdod Trwyddedu gychwyn adolygiad o drwydded mangre ar sail nad yw daliwr trwydded mangre wedi darparu cyfleusterau gamblo ar y fangre. Diben hyn yw atal pobl rhag gwneud cais am drwydded mewn modd hapfasnachol heb fwriadu ei defnyddio.