Gostyngiad ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
Gallech fod yn gymwys am ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden os yw eich busnes yn cael ei ddefnyddio fel:
- siop
- bwyty, caffi, bar neu dafarn
- sinema neu leoliad cerddoriaeth
- busnes lletygarwch neu hamdden - er enghraifft, campfa, sba neu westy
Nod y cynllun yw helpu busnesau i ddod dros yr heriau economaidd sydd wedi effeithio arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Beth gewch chi
Os ydych yn gymwys, gallech gael 40% oddi ar eich biliau ardrethi busnes.
Y mwyaf y gallwch ei gael mewn rhyddhad bob blwyddyn bilio yw £110,000 ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei feddiannu gan yr un busnes ledled Cymru..
Ymgeisiwch
Ffoniwch 01639 686843 i wneud cais.
Mwy o wybodaeth
Mae manylion llawn y cynllun hwn ar gael ar Busnes Cymru