Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gostyngiad ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Gallech fod yn gymwys am ryddhad manwerthu, lletygarwch a hamdden os yw eich busnes yn cael ei ddefnyddio fel:

  • siop
  • bwyty, caffi, bar neu dafarn
  • sinema neu leoliad cerddoriaeth
  • busnes lletygarwch neu hamdden - er enghraifft, campfa, sba neu westy

Nod y cynllun yw helpu busnesau i ddod dros yr heriau economaidd sydd wedi effeithio arnynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Beth gewch chi

Os ydych yn gymwys, gallech gael 40% oddi ar eich biliau ardrethi busnes.

Y mwyaf y gallwch ei gael mewn rhyddhad bob blwyddyn bilio yw £110,000 ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei feddiannu gan yr un busnes ledled Cymru..

Ymgeisiwch

Ffoniwch 01639 686843 i wneud cais.

Mwy o wybodaeth

Mae manylion llawn y cynllun hwn ar gael ar  Busnes Cymru