Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gostyngiad ardrethi busnesau bach

Mae busnesau bach â gwerthoedd ardrethol isel yn gymwys i gael gostyngiadau ar ardrethi busnes. 

Beth gewch chi

Mae eiddo busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn derbyn gostyngiad o 100%.

Bydd y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael gostyngiad canrannol fel y dangosir isod.

Gwerth ardrethol

% Gostyngiad

£0 - £6000 

  100 

£7000 

  83.4 

£8000 

  66.6 

£9000 

  50 

£10,000 

  33.3 

£11,000 

  16.6 

£12,000 

0

Darparwyr gofal plant

Mae darparwyr gofal plant sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £100,000 yn cael gostyngias ardrethi o 100%.

Swyddfeydd post

Mae swyddfeydd post sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £9,000 yn cael gostyngiad ardrethi o 100%.

Bydd swyddfeydd post sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael gostyngiad ardrethi o 50%.

Cyfyngiad amlfeddiannaeth

Mae nifer yr eiddo sy'n gymwys wedi'i gyfyngu i ddau eiddo fesul busnes ym mhob awdurdod lleol.

Mae'n rhaid i'r trethdalwr dweud wrthym os yw'n credu bod y cyfyngiad hwn yn berthnasol i'w eiddo.

Ni fydd y cyfyngiad hwn yn effeithio ar eiddo sy'n bodloni amodau gofal plant neu swyddfa'r post.

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni