Prosiectau a Gymeradwywyd Sgiliau Galwad Agored Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Lluosi R2
Sgiliau
Prifysgol Abertawe |
Technocamps: Llwybrau Sgiliau Digidol Bydd y prosiect hwn yn datblygu, yn meithrin ac yn cefnogi llwybrau sgiliau digidol trwy ddarparu ymyriadau atyniadol, galluogol a phryfoclyd i gynulleidfa eang. Drwy weithio gyda'r rheini mewn addysg uwchradd hwyr ac addysg bellach – yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o fod yn NEET a'r rheini sy'n chwilio am waith neu sy'n gwella'u sgiliau yn y sector digidol – byddwn yn datblygu eu hawydd a'u sgiliau, gan ddarparu ymyriadau ystyrlon sy'n arwain at dwf personol ac economaidd. Bydd gan ymyriadau sy'n ymwneud â sgiliau digidol hefyd thema sy'n seiliedig ar STEM, gan ddarparu profiad dilys i fuddiolwyr o'r defnydd o sgiliau digidol ar draws amrywiaeth eang o sectorau. Bydd y prosiect hwn yn ategu chwaer brosiect sydd wedi'i ariannu fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Abertawe, gan ddarparu ymyriadau pwrpasol sy'n diwallu anghenion cyfranogwyr lleol wrth elwa o fod yn rhan o raglen ehangach o ddarpariaeth. |
Computer Aid |
Sgiliau Digidol yn y Gweithle Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r angen am hyfforddiant sgiliau TG Uwch/Arbenigol ar gyfer pobl gyflogedig drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer cyrsiau "mewn union bryd" byr i'w helpu i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, aros yn y farchnad lafur neu newid swyddi. Bydd y prosiect yn cynnig hyfforddiant mewn meddalwedd cynhyrchiant swyddfa a sgiliau TG mwy arbenigol o amgylch codio, Dylunio Graffeg / Delweddu Data, Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a Marchnata Digidol. Bydd y cyrsiau'n rhai ymarferol sy'n cael eu harwain gan diwtor ar ffurf rithwir (ar-lein) i weddu i anghenion dysgwyr. Bydd gan bob cynrychiolydd yr opsiwn i ennill cymwysterau achrededig ac ardystiad heb ei achredu pwrpasol. |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot |
Datblygu Pobl at y Dyfodol Bydd y prosiect "Datblygu Pobl at y Dyfodol" yn darparu ymyriadau Pobl a Sgiliau i bobl sy'n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant trwy lwybr prentisiaeth yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot. Fel sefydliad, mae angen i ni allu dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau cywir i lenwi swyddi allweddol. Nod ein pecyn cymorth cynllunio olyniaeth yw nodi rolau sy'n hanfodol i fusnesau, camau gweithredu a chyfleoedd dysgu, hyfforddi a datblygu. O fewn y cyfnod hwn rydym yn bwriadu recriwtio 10 prentis a 2 brentisiaeth gradd mewn adrannau lle mae tystiolaeth a gasglwyd yn nodi prinder sgiliau a swyddi sy'n hanfodol ym myd busnes fel rhan o'n proses cynllunio olyniaeth. Byddwn hefyd yn recriwtio Swyddog Cymorth Busnes i gynorthwyo gyda gweinyddu a chefnogi'r prosiect. |
Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot |
Cynllun Ceidwaid Sgiliau Bydd y cynllun ‘Cynllun Ceidwaid Sgiliau' yn canolbwyntio ar greu a meithrin dinasyddion cyflogadwy, ymroddedig a moesegol, gyda'r nod allweddol o gysylltu datblygiad sgiliau â chyfleoedd gyrfa yn y Wildfox Resorts Group Ltd ("Wildfox"), a chyfleoedd cyflogaeth lleol ehangach. Dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, bydd tîm amlddisgyblaethol yn ymgysylltu â chymunedau Cwm Afan a'r rhai cyfagos, gan ddarparu digwyddiadau ymdrochol, gweithdai a modiwlau achrededig i godi gobaith ac uchelgais drwy greu llwybrau sylfaenol at hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn trawsnewid bywydau, gan gynorthwyo i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru am Gymru fel Cenedl Ail Gyfleoedd a Dysgu Gydol Oes. |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd |
Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN): Sgiliau TG Arbenigol Nod y prosiect yw datblygu sgiliau TG yn ardal Castell-nedd Port Talbot (CNPT). Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd (PMC), ar y cyd â chefnogaeth gan Raglen Technocamps (RhT), sydd â'i chanolfan ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno cyfres o weithdai sgiliau TG arbenigol a chyrsiau achrededig a heb eu hachredu. Mae'r gweithdai a'r cyrsiau hyn yn cynnwys:
Cynhelir y rhain ar draws rhanbarth CNPT mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol dros gyfnod o 12 mis. Er enghraifft, mewn busnesau lleol, llyfrgelloedd a chanolfannau hyfforddi o amgylch rhanbarth CNPT. |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot |
Prosiect Llwybrau at Gynnydd Bydd y prosiect "Prosiect Llwybrau at Gynnydd" yn darparu ymyriadau Pobl a Sgiliau i'n pobl ifanc sy'n chwilio am lwybr cwricwlwm amgen drwy opsiwn i ddewis cymhwyster galwedigaethol (CG) yn ein system addysg uwchradd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Nod Cwricwlwm Amgen yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a phrofiadau nad ydynt efallai ar gael nac yn gyraeddadwy mewn addysg brif ffrwd. Mae'r cwricwlwm yn caniatáu'r cwmpas a'r hyblygrwydd i dderbyn disgyblion drwy gydol y flwyddyn academaidd, o fewn cwmpas dyddiadau dechrau a gorffen y prosiect, sydd mewn perygl o adael addysg heb fawr ddim neu ddim cymwysterau ffurfiol. Bydd Sgiliau a Hyfforddiant o fewn CNPT yn datblygu ystod o gyrsiau achrededig dwys byr a/neu gymwysterau galwedigaethol gan sefydliad dyfarnu cymeradwy cydnabyddedig (e.e. City and Guilds). |
Prifysgol Abertawe |
Bŵtcamps Sgiliau Digidol Mae'r prosiect hwn yn bwriadu cyflwyno sesiynau dwys sgiliau digidol ar ffurf cyrsiau micro-gymwysterau, gweithdai i ysgolion/ar lefel addysg bellach a sesiynau allgymorth cymunedol. Y prif nod yw datblygu sgiliau digidol pobl o bob oed a gallu. Cyflwynir y sesiynau dwys yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr a chyflogwyr drwy gydol y prosiect hwn. Bydd y rhwydwaith sefydledig o Technocamps a'i fraich fusnes, 'The Institute of Coding' yng Nghymru, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y cyrsiau a'r gweithdai a ddarperir yn addas ar gyfer diwydiant ac yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr allgymorth cymunedol yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol hanfodol. |
JES Group Ltd |
Yr Academi Sgiliau Sefydlwyd J.E.S. Group Ltd ym 1982 ac roedd yn arbenigo mewn saernïo a gosod pibellau ac fe'i hymgorfforwyd ym mis Mai 2015. Mae'n cyflogi 114 o staff ar hyn o bryd, mae bellach yn gwmni peirianneg mecanyddol amlddisgyblaethol sy'n ymwneud â gwaith contract mawr. Mae angen cyllid grant ar y cwmni ar gyfer academi sgiliau o'r radd flaenaf i ddatblygu sgiliau Saernïo a Weldio sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Sero Net, yr Economi Gylchol a'r Porthladd Rhydd Celtaidd. Bydd y prosiect yn defnyddio'r technolegau digidol, rhyngweithiol diweddaraf ochr yn ochr â hyfforddiant wyneb yn wyneb arbenigol, i fanteisio ar y gronfa fawr o sgiliau a gronnwyd gan y gweithlu presennol. |
Enw'r cwmni | Sgiliau: Teitl y Prosiect ac Amlinelliad o'r Prosiect |
---|
Lluosi
Inspire Training |
Sgiliau allweddol yn y gweithle Rydym yn awyddus i adfywio a dyblygu ein rhaglen 'Sgiliau allweddol yn y gweithle’ a gyflwynwyd gennym fel ACT Enhance yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys y 3 maes rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol i'r rheini sy'n 19+ oed nad ydynt wedi cael TGAU yn y meysydd pwnc hyn yn flaenorol. Roedd y rhaglen yn llwyddiannus ac yn boblogaidd gyda'n darpariaeth sy'n cwmpasu Casnewydd, Caerdydd, Y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd/Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Cyflwynom i gyflogwyr mawr ag enw da fel Admiral Insurance, GIG Bro Morgannwg, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Tata Steel, Tesco a llawer o fusnesau bach a chanolig. Cafodd sgiliau eu gwreiddio drwy gyfrifoldebau swydd pob gweithiwr gan eu gwneud yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon yn eu rolau swyddi. Nododd cyflogwyr gyfradd cadw staff uwch a set sgiliau uwch ymhlith staff ac unigolion sy'n ymgeisio am swyddi uwch a phrentisiaethau astudio. Ein canran cyrhaeddiad ar gyfer y rheini a gychwynnodd yr hyfforddiant ac a enillodd y cymwysterau a gynigiwyd oedd 94%. |
Enw'r cwmni | Lluosi: Teitl y Prosiect ac Amlinelliad o'r Prosiect |
---|