Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cynlluniau Grant Castell-nedd Port Talbot
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu ystod o gynlluniau grant i adeiladu ar ein heriau, ein cryfderau, ein hanghenion a'n cyfleoedd lleol i sicrhau y gall pob ardal o'n cymunedau ddefnyddio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i ymfalchïo mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd.
Datblygwyd y cynlluniau grant i ategu a chyd-fynd â phrosiectau angori strategol Castell-nedd Port Talbot a rhaglenni cyllido eraill e.e. Cronfa Codi'r Gwastad, y Fargen Ddinesig.
Mae meini prawf cymhwysedd penodol gan bob cynllun grant a dylai ymgeiswyr gyfeirio at ganllawiau penodol y cynllun grant cyn gwneud cais.
Cynlluniau grant Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot
Mae'r £2.8m o Grantiau Buddsoddi mewn Busnesau a Sefydlu Busnesau Newydd yn rhan o waith Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu ei ddyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Grant Buddsoddi mewn Busnesau
Y grant isaf sydd ar gael yw
£500
Y grant uchaf sydd ar gael yw
£50,000
Nod y gronfa
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ystyried buddsoddiad mewn sefydlu busnesau newydd, datblygu busnesau presennol a denu mewnfuddsoddwyr yn hanfodol i gefnogi cymunedau lleol a'r economi.
Mae buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir unrhyw fenter, drwy adeiladu cadernid, gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion cyfnewidiol yr economi ehangach. Yn ogystal, mae angen buddsoddiadau sy'n lleihau effaith busnesau ar yr amgylchedd.
Gyda buddsoddiad o'r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy deinamig, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, gyda gweithlu medrus a hyblyg sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau sy'n wynebu'r economi fyd-eang dros amser.
Mae grantiau o rhwng £500 a £50,000 ar gael, yn ôl disgresiwn, a chânt eu hystyried fesul achos
Grantiau Sefydlu Busnes
Y grant uchaf sydd ar gael yw
£5000
Nod y gronfa
Mae'r arian a ddarperir dan y rhaglen ar gael i gynorthwyo busnesau newydd i gael eu sefydlu a darparu cyflogaeth amser llawn neu ran-amser i'r ymgeisydd.
Gall ymgeiswyr hawlio hyd at £5,000 i helpu gyda chostau sefydlu - caiff 100% o arian cyfatebol ei ddarparu ar gyfer grantiau hyd at £2,000 a 50% ar gyfer grantiau rhwng £2,000 a £5,000
Rhoddir yr arian yn ôl disgresiwn a chaiff ceisiadau eu hystyried fesul achos ar ôl asesu meini prawf cymhwysedd y grant a buddion y grant i'r busnes
Gwybodaeth ymgeisio
Mae proses ymgeisio dau gam ar-lein i'w dilyn:
- Mynegiant o ddiddordeb
- 2. Cais
I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost i spfbusiness@npt.gov.uk
Dyddiadau Cau ar gyfer Ymgeisio
Rownd 1 yn lansio'n fuan.
Gwneud cais am gynlluniau grant
- Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw eu gweithgareddau arfaethedig yn dyblygu'r Prosiectau Angori neu brosiectau Annibynnol
- Bydd angen i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen cais am grant berthnasol gan ddefnyddio'r canllawiau cysylltiedig.
- Nodwch y cynllun grant rydych chi'n gwneud cais amdano yn llinell destun yr e-bost.
- Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau o dderbyn eich cais
- Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr am ragor o fanylion/eglurhad os oes angen.
- Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod am y penderfyniad ariannu drwy e-bost.
- Bydd Cytundebau Ariannu'n cael eu cyhoeddi gan gynnwys amodau dyfarnu'r grant.
Mae'r dogfennau canlynol ar gael i gefnogi'r broses ymgeisio: