Cronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau erbyn: 31 Rhagfyr 2024.
Gwybodaeth am y gronfa
Hoffai Cyngor Castell-nedd Port Talbot wahodd ceisiadau am gyllid ar gyfer ei Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol.
Mae'r cyllid cyfalaf a refeniw hwn, sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ar gyfer y canlynol:
- perchnogion busnes
- perchnogion eiddo masnachol
Themâu'r gronfa
- Eiddo
- Twf
- Arloesedd
- Meithrin gallu a chymhwysedd
Nod y Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol yw cefnogi prosiectau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol ar unwaith. Mae'r gronfa yn ceisio cefnogi prosiectau sy'n creu twf cynaliadwy yn ein heconomi leol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gweld buddsoddiad yn ein busnesau lleol yn hanfodol i gefnogi cymunedau lleol a'r economi ranbarthol.
Mae buddsoddi mewn datblygu busnesau lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir unrhyw fenter, drwy feithrin gallu, cynyddu cynhyrchiant, gwella sgiliau a datblygu eu hyblygrwydd i ymateb i anghenion cyfnewidiol yr economi ehangach.
Gyda buddsoddiad o'r fath, mae Castell-nedd Port Talbot yn meithrin economi fwy cadarn, arloesol, gwyrddach ac amlbwrpas, sydd â gweithlu medrus a hyblyg sy'n gallu gwrthsefyll yr heriau sy'n wynebu'r economi fyd-eang dros amser.
Cyllid sydd ar gael:
Y grant lleiaf sydd ar gael: Hyd at 70% o'r costau, heb fod yn is na £50,001.
Y grant mwyaf sydd ar gael: Hyd at 70% o'r costau, heb fod yn fwy na £250,000.
Rhaid i unrhyw weithgaredd a ariennir gan y Gronfa Blaenoriaeth i Fusnesau Lleol gael ei gynnal yn amlwg yn CBSCNPT.
Mae'r holl ddyfarniadau grant yn ddewisol, a chânt eu hystyried fesul achos.
Gweithgareddau Cymwys
Eiddo
- Gwella, adnewyddu neu ddodrefnu eiddo masnachol sy'n eiddo i berchen-feddianwyr neu lesddaliad
Twf
- Grantiau refeniw a chyfalaf ar gyfer twf busnes lle gellir dangos bod gan y busnes sy'n cyflwyno cais gynllun twf clir a chanfyddadwy
- Cyllid lle gall yr ymgeisydd ddangos y bydd swyddi'n cael eu creu neu eu diogelu o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad
Arloesedd
- Cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a refeniw mewn busnesau sy'n ymwneud â'r sector Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
- Cyllid ar gyfer prosiectau sy'n arddangos enghreifftiau o arloesedd, h.y. arloesedd newydd mewn prosesau/cynhyrchion/gwasanaethau/technoleg
Meithrin gallu /cymhwysedd
- Cyllid ar gyfer arallgyfeirio'r economi leol – busnesau o fewn sectorau busnes allweddol sy'n mynd i mewn i farchnadoedd/ddiwydiannau newydd/busnes newydd sy'n ehangu'r hyn sydd gan y sector i'w gynnig
- Cyllid ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi datblygiad y gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau rhanbarthol allweddol a/neu gyfrannu at gapasiti sectorau allweddol sy'n tyfu neu'n dod i'r amlwg fel FLOW, TGCh/Meddalwedd, Gweithgynhyrchu, Peirianneg ac Ynni Adnewyddadwy neu weithgareddau Carbon Isel
Gwybodaeth am yr ymgeisydd
I drafod eich prosiect arfaethedig, eich cais a'ch ffurflen gais, e-bostiwch: LBPF@npt.gov.uk