Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Cyflwyniad
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r gronfa’n darparu £2.6 biliwn o arian newydd i’w fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Bydd pob ardal o’r DU yn derbyn dyraniad drwy gyfrwng fformiwla ariannu yn hytrach na chystadleuaeth.
Bydd y gronfa’n cymryd lle rhai agweddau ar Arian Strwythurol a Buddsoddiad Ewropeaidd. Bydd yn buddsoddi mewn blaenoriaethau lleol ac yn targedu arian ble mae tystiolaeth o angen gan gynnwys:
- Adeiladu balchder mewn lle
- Cefnogi hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel
- Cefnogi cyflogau, cyflogaeth a thwf mewn cynhyrchedd
- Cynyddu cyfleoedd bywyd
Cyllid sydd ar gael i Castell-nedd Port Talbot
Dyraniad Castell-nedd Port Talbot yw £27.3 dros dair blynedd, o Ebrill 2022 tan Fawrth 2025.
Mae’r gronfa’n gymysgedd o arian refeniw a chyfalaf, a chafodd ei ‘datgloi’ drwy gyfrwng Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol. Roedd y Cynllun Buddsoddi a’i gymeradwyo gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2022.
Yn ogystal â’r arian craidd UKSPF hwn, mae arian penodol ar gael i ‘luosi’ sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar rifedd oedolion.
Mae 3 Blaenoriaeth Fuddsoddi gan UKSPF:
- Cymunedau a lle
- Cryfhau ein deunydd cymunedol
- Isadeiledd cymunedol
- Llecynnau gwyrdd lleol
- Prosiectau a arweinir gan y gymuned
- Adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach
- Cefnogaeth i fusnesau lleol
- Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol;
- Hybu rhwydweithio a chydweithio
- Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n gwella twf
- Pobl a sgiliau
- Hybu sgiliau craidd a chefnogi oedolion i symud ymlaen mewn gwaith
- Lleihau lefelau o segurdod economaidd drwy fuddsoddi mewn cefnogaeth ddwy o ran bywyd a chyflogaeth
- Cefnogi pobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i oresgyn rhwystrau
- Cefnogi ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau lleol i gefnogi pobl i symud ymlaen mewn gwaith, ac ychwanegu at y ddarpariaeth sgiliau ymysg oedolion lleol
Mae nifer o ‘ymyriadau’ a rag-argymhellwyd sy’n gysylltiedig â phob un o’r tair blaenoriaeth a bydd angen i brosiectau gael eu datblygu’n unol â’r ymyriadau hyblyg hyn.
Lluosi yng Nghastell-nedd Port Talbot
Allbynnau a deilliannau
Mae allbynnau a deilliannau penodol y mae angen i brosiectau UKSPF eu cyflawni, a bydd yr allbynnau a deilliannau hyn yn cael eu monitro a’u riportio.
Sut fydd cyllid yn cael ei weithredu
I sicrhau dull a dargedir, ac a seilir ar dystiolaeth, i ddarparu’r UKSPF, mabwysiadir y dull gweithredu canlynol.
Bydd angen i bob prosiect a ariennir gan UKSPF fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a amlinellir yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol De Orllewin Cymru.
Bydd UKSPF yn cael ei gyflawni drwy:
Prosiectau Angor
Dyma brosiectau dan thema a reolir gan dimau angor sy’n mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd yn y Cynllun Buddsoddi, ac yn darparu rhannau helaeth o’r Cynllun Buddsoddi.
Y prosiectau angor a gymeradwywyd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yw:
Nod y prosiect angor Lle yw cryfhau deunydd cymdeithasol ein cymunedau a meithrin ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn drwy fuddsoddi yn y tri llinyn prosiect a amlygir isod.
- Ymgyrch farchnata cyrchfan fydd yn hybu CPT fel cyrchfan i ymwelwyr gydol y flwyddyn, ac yn ceisio newid canfyddiadau am Gastell-nedd Port fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
- Adeiladu 14 uned fusnes newydd mewn 3 lleoliad yn ein cymoedd.
- Datblygu uwch-gynllun strategol ar gyfer ardal Glan Môr Aberafan, gan ddarparu sail y gellir gwneud penderfyniadau buddsoddi i’r dyfodol arno sy’n berthnasol i’r ased daearyddol allweddol hwn.
Mae prosiect angor Cymoedd a Phentrefi’n cynnwys cronfa a fydd yn mynd i’r afael â chyfleoedd ar gyfer twf yn ein hardaloedd lleol, mwy o alw am dai a gwasanaethau, ac yn pontio’r bwlch presennol mewn darpariaeth o ran cyllid grant ar gyfer prosiectau yn ein cymoedd a’n pentrefi ar draws y sir.
Bydd prosiect angor Cymunedau Cynaliadwy yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau sy’n ceisio gwella a harddu ein cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol, gan wella cydlyniant cymunedol a diogelwch, ymgysylltu â phobl ifanc, taclo tlodi a’r argyfwng costau byw, a chefnogi rhaglenni trydydd sector yn lleol.
Bydd y prosiect angor yn darparu gweithgarwch sy’n creu twf cynaliadwy yn ein cymunedau, ac ar yr un pryd yn amlygu ac yn mynd i’r afael â’r unigolion a’r teuluoedd hynny sydd fwyaf mewn angen drwy nifer o ymyriadau amrywiol.
Bydd prosiect angor Cyflogadwyedd yn darparu dull holistig o fynd i’r afael â chyflogadwyedd ar draws y sir, gan gyd-fynd â’r ddarpariaeth bresennol drwy ganolbwyntio ar bum llinyn gweithredu allweddol.
- Cyflogadwyedd a Llesiant a seilir mewn Ysgolion
- Gweithgarwch ymgysylltu cynnar.
- Paratoi ar gyfer Gwaith.
- Cyfleoedd i wneud Gwaith am Dâl
- Cefnogaeth a hyfforddiant ‘mewn gwaith’.
Cynlluniwyd y prosiect angor hwn i gynnig ‘un drws ffrynt’ i wella mynediad i’r gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr, a bydd yn mynd i’r afael â bylchau yn y ddarpariaeth bresennol, gan roi cefnogaeth a dargedir yn y meysydd hynny.
The EBSGI will provide a comprehensive programme of business support for Small and Medium-sized Enterprises (SMEs) across NPT. The project will be focused on five key areas:
- Supporting indigenous growth in key sectors
- The Foundational Economy
- Financial and specialist support
- Feasibility studies for strategic projects
- Developing and implementing Social Value policies to support the delivery of Community Benefits
Working with external support organisations, SMEs will benefit from a programme of support appropriate to the needs of business, cultivating a more dynamic, innovative, and greener economy, with a skilled and flexible workforce that can withstand the current and future challenges that face the local and global economy.
For more information please visit the Business in Neath Port Talbot website.
Bydd EBSGI yn darparu rhaglen gyflawn o gefnogaeth fusnes ar gyfer mentrau bach a chanolig ledled CPT. Bydd y prosiect yn cael ei ganolbwyntio ar bum maes allweddol:
- ACefnogi twf brodorol mewn sectorau allweddol.
- Yr Economi Seiliol.
- Cefnogaeth ariannol ac arbenigol
- Astudiaethau dichonolrwydd ar gyfer prosiectau strategol
Datblygu a gweithredu polisïau Gwerth Cymdeithasol i gefnogi darparu Manteision Cymunedol.
Gan weithio gyda sefydliadau allanol sy’n darparu cymorth, bydd SMEau yn elwa o raglen o gefnogaeth sy’n addas i anghenion y busnes, gan feithrin economi fwy deinamig, arloesol a gwyrdd, gyda gweithlu sgilgar a hyblyg all wrthsefyll yr heriau presennol a’r rhai i ddod sy’n wynebu’r economi leol a byd-eang.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cynlluniau Grant
Integreiddir Cynlluniau Grant i mewn i’r prosiectau angor i sicrhau fod darpariaeth yn cael ei unioni ac yn cyd-fynd â’r prosiectau angor a blaenoriaethau UKSPF, a byddant yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a amlygwyd yn y Cynllun Buddsoddi.
Bydd y cynlluniau grantiau ar gael i grwpiau gwirfoddol a chymunedol (ynghyd â chynghorau tref a chymuned) a busnesau.
Bydd y VVPG yn mynd i’r afael â chyfleoedd ar gyfer twf yn ein hardaloedd gwledig, mwy o alw am dai a gwasanaethau, ac yn pontio’r bwlch presennol mewn darpariaeth o ran cyllid grant ar gyfer prosiectau yn ein cymoedd a’n pentrefi ledled y sir. Bydd y VVPG yn ariannu prosiectau sy’n creu twf cynaliadwy yn ein cymunedau gwledig ac yn harddu ein cymoedd a’n pentrefi fel mannau i fyw, ymweld â nhw a gweithio ynddynt.
Bydd yn darparu arian grant ar gyfer prosiectau fel: prosiectau Eiddo Masnachol, Unedau Masnachol (Trawsnewid), gweithgareddau Isadeiledd Gwyrdd a Bioamrywiaeth, y parth cyhoeddus, Cynlluniau Blaenau Siopau, mentrau Teithio Llesol, a chyfleusterau Hamdden ac Amser Sbâr lleol.
Mae’r CTDT yn grant a fwriedir ar gyfer cael ei ddefnyddio gan bartneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, er mwyn darparu’r prosiectau a’r mentrau treftadaeth, diwylliant a thwristiaeth sy’n flaenoriaeth ledled y sir.
Yn ogystal, cydnabyddir y bydd gan ddigwyddiadau mawr a bach rôl allweddol i’w chwarae wrth alluogi preswylwyr ac ymwelwyr i ddod i gyswllt â diwylliant a threftadaeth nodweddiadol CPT.
Bydd y gronfa hefyd yn hygyrch i drefnwyr digwyddiadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar gyfer digwyddiadau sy’n unol â brand lle Castell-nedd Port Talbot ac sy’n ystyried ymyriadau UKSPF, angen lleol a chynlluniau a blaenoriaethau lleol a rhanbarthol.
Cronfa grant i gynyddu’r gefnogaeth a gynigir yng nghymunedau Castell-nedd Port Talbot, gan daclo meysydd angen, a chanolbwyntio ar brosiectau ble mae Tlodi a Chydraddoldeb yn themâu canolog. Bydd y gronfa’n hybu gweithgarwch lleol er budd twf cadarnhaol o fewn ein cymunedau ac yn blaenoriaethu’r prosiectau hynny a fydd yn darparu’r argraff a’r gwerth am arian mwyaf.
Bydd grantiau SCGF yn agored i geisiadau oddi wrth fusnesau preifat, grwpiau cymunedol a sefydliadau, cynghorau tref a chymuned, ac ardaloedd busnes, a'r trydydd sector (er yn achos sefydliadau trydydd sector yn y lle cyntaf, cânt eu cyfeirio at y Gronfa Twf Trydydd Sector).
Bydd grantiau o rhwng £500 a £50,000 ar gael ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf a refeniw fel ei gilydd, ar gyfer busnesau newydd sy’n dechrau, busnesau sy’n bodoli eisoes a buddsoddwyr am i mewn.
Prosiectau Annibynnol
Gwahoddir y rhain drwy gylchoedd o geisio cystadleuol i lenwi bylchau o ran darparu’r Cynllun Buddsoddi ac ateb angen yn lleol, unioni â phrosiectau angor, ac nad ydynt yn cael eu cyflenwi gan y prosiectau angor a’r cynlluniau grant.
Sut i ymgeisio
Gwybodaeth ar sut i wneud cais am ein cynlluniau grant UKSPF.
Gellir gweld gwybodaeth bellach isod.
- Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Prosbectws – trosolwg llawn o’r gronfa
- Gwelwch holl ddogfennaeth sy’n ymwneud â’r Gronfa a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
- Y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De Orllewin Cymru
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os dymunwch gofrestru i gael diweddariadau, anfonwch e-bost at SPFNPT@NPT.GOV.UK