Diogelwch Personol - sicrhau bod pobl a chymunedau yn ddiogel, yn cael eu parchu ac yn rhydd o drais a cham-drin
Blaenoriaeth 3.1 Pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi
Cam gweithredu
Byddwn yn cynyddu adroddiadau am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol yng Nghastell-nedd Port Talbot, drwy godi ymwybyddiaeth a herio agweddau
Cynnydd 2020-2021
Trwy gydol y pandemig parhaodd yr Is-grŵp Cyfathrebu ac Ymgysylltu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i hyrwyddo'r holl wasanaethau cymorth a llinellau cymorth, trwy bostiadau cyfryngau cymdeithasol, baneri mewn ardaloedd prysur a thaflenni mewn lleoliadau allweddol ar draws y fwrdeistref.
Cynyddodd adroddiadau o VAWDASV 40% trwy'r pandemig.
Bydd digwyddiadau ymgysylltu â Diogelwch Cymunedol, na allent fynd ymlaen yn ystod y cyfnod hwn, yn ailddechrau yn ystod 2021-2022 cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau'n caniatáu.
Cafodd y 'Strategaeth Perthnsoedd Iach i greu Cymunedau Cryfach' diwygiedig - ymateb ar y cyd y cyngor a’r bwrdd iechyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Mehefin 2020.
Cam gweithredu
Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a bod ymddygiad camdriniol bob amser yn anghywir
Cynnydd 2020-2021
Ailddechreuodd cyflwyno gwersi perthnasoedd iach sy'n briodol i oed mewn ysgolion yn ystod y cyfnod, yn dilyn saib oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Yr Is-grŵp Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu a gweithredu'r wers hon. Mae'r grŵp hwn yn cael ei gydlynu gan y Tîm Diogelwch Cymunedol a'i gadeirio gan yr Uwch Swyddog Ieuenctid a Chymuned yng Ngwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot. Mae gan bobl ifanc sy'n cyrchu'r Gwasanaethau Ieuenctid gyfle hefyd i dderbyn gwybodaeth a chyngor ar bob math o gam-drin yn y cartref.
Nid yw digwyddiadau Criw Croch 2020 a 2021, sy'n cynnwys gweithdy Perthnasoedd Iach, ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 wedi digwydd oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, mae ffilm rithwir Criw Croch wedi'i datblygu a'i llwytho ar rwydwaith Hwb i'w defnyddio gan ysgolion.
Rydym yn obeithiol y gellir cynnal y digwyddiad wyneb yn wyneb yn ystod 2022.
Cam gweithredu
Rhoi i bob dioddefwr fynediad cyfartal i wasanaethau o ansawdd uchel â'r adnoddau priodol, wedi'u harwain gan anghenion, sy'n seiliedig ar gryfder, ac sy'n ymateb i'r rhywiau ledled Castell-nedd Port Talbot
Cynnydd 2020-2021
Mae gwaith yn parhau ar adolygiad comisiynu o'r holl wasanaethau cymorth arbenigol ledled y fwrdeistref, er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl ac yn gallu cynnig amrywiaeth eang o lety â chymorth, llety brys a chymorth yn y gymuned, i bawb sydd ei angen. Mae gwaith hefyd yn parhau i sicrhau bod gennym wasanaeth priodol hygyrch ar gyfer grwpiau ymylol yn ein cymunedau.
Mae gwasanaethau presennol yn cael eu hyrwyddo a'u hadolygu'n rheolaidd.
Blaenoriaeth 3.2 Pobl yn teimlo'n ddiogel yn y gymuned
Cam gweithredu
Byddwn yn gweithio gydag aelodau grwpiau cydraddoldeb lleol, partneriaid a'n cymunedau i annog adrodd am ddigwyddiadau casineb/trosedd a sicrhau bod pobl yn cael cefnogaeth sy'n addas at y diben.
Cynnydd 2020-2021
Mae Diogelwch Cymunedol yn cyflogi Swyddog Cydlyniant Cymunedol, sy'n gweithio fel rhan o dîm rhanbarthol ehangach ar draws Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae deiliad y swydd hefyd yn darparu dau ddiwrnod o gefnogaeth i'n Cymdeithas Gymunedol BME leol. Mae'r ddwy agwedd y rôl yn gweithio'n dda i sicrhau ein bod yn hyrwyddo gwasanaethau priodol yn rheolaidd, ac yn annog adrodd am ddigwyddiadau neu faterion sy'n peri pryder i'r sianeli cywir. Defnyddir gwybodaeth anecdotaidd o ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau hefyd i lywio ymgyrchoedd a mentrau yn y dyfodol.
Cam gweithredu
Byddwn yn cefnogi'r defnydd o Gerdyn Mynediad Cymdeithas Gymunedol BME (i helpu i chwalu rhwystrau iaith wrth gyrchu'r gwasanaeth)
Cynnydd 2020-2021
Ataliwyd y cynnydd gyda dechrau'r pandemig ond rhagwelir y bydd hyn yn cael ei symud ymlaen yn hydref 2021.
Cam gweithredu
Byddwn yn cefnogi'r Gymdeithas Gymunedol BME i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yn yr ymarfer Proffilio Cymunedol yn ogystal ag ehangu ei gwmpas
Cynnydd 2020-2021
Gohiriwyd y gwaith i ystyried mecanweithiau priodol i symud y cam gweithredu hwn ymlaen yn ystod 2020-2021. Fodd bynnag, bydd y gwaith hwn yn ailddechrau yn ystod 2021-2022.
Cam gweithredu
Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu mewn ymateb i'r adborth o'r Arolwg Cydlyniant Cymunedol
Cynnydd 2020-2021
Er bod peth o'r adborth o'r Arolwg Brexit (wedi'i gamddyfynnu yn y cam gweithredu) yn parhau i fod yn ddilys mae'r amgylchedd y gwnaed hynny ynddo wedi newid yn ddramatig gyda dyfodiad y pandemig, y mudiad BLM a digwyddiadau eraill dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae canfyddiadau'r arolwg Dewch i sgwrsio, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn nodi'r hyn sy'n bwysig i bobl ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ac mae'n debygol y bydd angen newid/adolygu llawer o'r camau gweithredu i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb, ac yn benodol y cam gweithredu hwn.
Cam gweithredu
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Gymunedol BME i ddeall ymhellach brofiadau byw aelodau o'n cymunedau BAME, yn enwedig mewn perthynas â'u profiadau o ddigwyddiadau/troseddau casineb
Cynnydd 2020-2021
Cofnododd Cymdeithas Gymunedol BME fel rhan o'r gweithgarwch ymgysylltu a wnaed i helpu i lywio REAP Llywodraeth Cymru fewnwelediad i brofiadau byw aelodau o'n cymunedau BME. Gyda chefnogaeth a chymorth ein Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed a'n Swyddog Cydlyniant Cymunedol a'n Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol, mae'r Gymdeithas wedi gallu helpu i nodi materion mewn partneriaeth yr ydym/y gallwn fynd i'r afael â hwy.
Bydd y gwaith hwn hefyd yn llywio ein cynllunio adferiad sydd i fod i ddechrau yn hydref 2021.