Cydraddoldeb
Ein nod yw gweithio tuag at greu cymdeithas decach, gwella gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau รข gwreiddiau dwfn er mwyn gwella bywydau pobl.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu amddiffyniad cyfreithiol mewn cymdeithas a'r gweithle os ydych chi'n profi gwahaniaethu oherwydd unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig canlynol:
- oedran
- ailbennu rhywedd
- rhyw
- hil
- anabledd
- beichiogrwydd a mamolaeth
- tueddfryd rhywiol
- crefydd a chred
- priodas a phartneriaeth sifil (o ran yr angen i ddileu gwahaniaethu'n unig)
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), sydd wedi'i chynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn dweud bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus anelu at:
- gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini a chanddynt nodwedd warchodedig a'r rheini hebddynt.
- meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r bobl nad ydynt yn ei rhannu