Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Rydym yn cydnabod bod y byd wedi newid ers cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020-2024 ac rydym yn hynod ymwybodol bod angen i'n CCS adlewyrchu hyn. I'r perwyl hwn, rydym wedi drafftio CCS diwygiedig ar gyfer 2024-2028 a ddatblygwyd drwy ymgysylltu â grwpiau cydraddoldeb a swyddogion y Cyngor i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae ein cymunedau’n eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydym wedi ystyried cyhoeddiadau diweddar ac ymchwil ac adborth perthnasol gan breswylwyr, yn ogystal â’n hymrwymiadau statudol eraill.
Fodd bynnag, oherwydd ein hamserlen adrodd ni allwn gyhoeddi'r CCS diwygiedig tan fis Mehefin 2024. Yn y cyfamser, bydd ein CCS 2020-2024 yn parhau ar waith; yn benodol oherwydd mae ein gweithgareddau ymgysylltu wedi dangos bod ein hamcanion cydraddoldeb yn cael eu hystyried yn berthnasol ac yn briodol o hyd.
Yng ngoleuni'r amgylchiadau newidiol, datblygwyd camau gweithredu newydd neu ddiwygiedig i fodloni'r amcanion hyn ac mewn rhai amgylchiadau, maent eisoes yn gwneud cynnydd.
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024
Ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig, datblygedig yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010, yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon sy'n diwallu anghenion a dyheadau holl ddinasyddion Castell-nedd Port Talbot.
Wrth lunio'r CCS, rydym wedi ystyried data a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau, o ymchwil genedlaethol i arolygon lleol a gwybodaeth am wasanaethau i weithgareddau cynnwys y cyhoedd. Rydym hefyd wedi adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i ddatblygu'r agenda gydraddoldeb yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Nid diwedd y broses yw cyhoeddi'r CCS, ond y dechrau yn unig! Rydym yn croesawu barn a sylwadau pobl drwy gydol oes y CCS a byddwn yn eu hystyried, ynghyd â'r rhai a dderbynnir drwy weithgareddau ymgysylltu eraill, wrth adolygu'r ein amcanion cydraddoldeb ac camau gweithredu mewn cysylltiad.
Os oes angen copi caled arnoch neu os hoffech dderbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol mewn fformat arall, ffoniwch y Tîm Polisi Gorfforaethol ar 01639 763010 neu e-bostiwch policy@npt.gov.uk
Llawrlwytho
-
Cynllyn Cydraddoldeb Strategol - Adroddiad Blynyddol 2022-2023 (PDF 19.30 MB)
i.Id: 5042
i.ContentType.Alias: nptFile
mTitle: Cynllyn Cydraddoldeb Strategol - Adroddiad Blynyddol 2022-2023
mSize: 19.30 MB
mType: pdf
i.Url: /media/piefkkd3/cynllyn-cydraddoldeb-strategol-adroddiad-blynyddol-2022-2023.pdf
Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiadau Blynyddol blaenorol
Llawrlwythio
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - Adroddiad Blynyddol 2021-2022 (DOCX 100 KB)
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 (PDF 620 KB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2015-2016 (PDF 568 KB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2016-2017 (PDF 491 KB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2017-2018 (PDF 538 KB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2018-2019 (PDF 1.10 MB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2019-2020 (PDF 920 KB)
- CCS - Adroddiad Blynyddol 2020-21