Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun corfforaethol 2024-2027

Mae Cynllun Corfforaethol 2024/2027: ‘Gweithio tuag at CnPT sy’n fwy llewyrchus, mwy teg a mwy gwyrdd adolygiad o ‘Adfer, Ailosod, Adfywio’ a gymeradwywyd ar gyfer 2022/2027.

Ers 2022 mae cymaint wedi newid - yn dilyn ymlaen o nifer o ddigwyddiadau lleol, cenedlaethol a byd-eang roedd angen ailosod y Cynllun Corfforaethol i gael dull mwy penodol ar gyfer y tair blynedd sy'n weddill o'r tymor llywodraeth leol hwn.

Mae Cynllun Corfforaethol 2024/2027, a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 26 Gorffennaf 2024, yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer teithio ac yn nodi 9 rhaglen drawsnewid ar draws y pedwar amcan llesiant i’w cyflawni erbyn 2027 ac yn ystyried barn pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y sir.

Ein pedwar amcan llesiant yw:

  • pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
  • pob cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy
  • ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol yn cael ei fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol
  • mae pobl leol yn sgilgar ac yn gallu cael mynediad i swyddi gwyrdd o ansawdd uchel

Lawrlwythiadau

  • Cynllun corfforaethol 2024-2027 (PDF 5.74 MB)