Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ynglŷn â'n tîm cynllunio brys

Ein nod yw sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gallu cadw'r bobl yn yr ardal yn ddiogel yn ystod adegau o argyfwng.

Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys a sefydliadau eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot i:

  • asesu a chynllunio ar gyfer risgiau lleol
  • cysylltu â sefydliadau eraill sy'n ymateb
  • ymarfer a hyfforddi
  • rhybuddio a hysbysu'r cyhoedd (gan gynnwys darparu cyngor parhad i busnes)
  • ymateb i ddigwyddiadau

Fforymau Cydnerth Lleol De Cymru

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhan o Fforwm Gydnerth Lleol De Cymru (SWLRF). Mae’r fforwm yn cynnwys:

  • awdurdodau Lleol
  • gwasanaethau brys
  • ymatebwyr eraill

Mae'r Fforwm yn helpu i gydlynu'r trefniadau brys o fewn ardal De Cymru. 

Deddfwriaeth

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i weithio gyda phartneriaid i sefydlu a phrofi gweithdrefnau rhag ofn y bydd argyfwng.

Isod mae'r pedwar rheoliad statudol penodol sy'n disgrifio'r dyletswyddau y mae'n rhaid i ni eu dilyn: