Mae cael y pecyn cywir yn hanfodol mewn argyfwng.
Dyma beth i'w gael yn barod yn eich cartref, wrth symud ac yn eich car.
Pecyn cartref brys
Pethau i'w cadw gartref os bydd argyfwng:
- rhestr o rifau cyswllt brys
- fflachlamp (batri neu weindio)
- radio (batri neu weindio)
- batris sbâr
- meddygaeth hanfodol
- dŵr potel a bwyd parod i'w fwyta na fydd yn mynd yn ddrwg
- dogfennau pwysig, megis polisïau yswiriant a thystysgrifau geni
- pensil, papur, cyllell poced a chwiban
- allweddi sbâr i'ch cartref a'ch car
- sbectol sbâr neu lensys cyffwrdd
- cyflenwadau babi ac anifeiliaid anwes
Pecyn brys wrth symud
Os oes rhaid i chi adael eich cartref, meddyliwch am gymryd:
- dillad addas
- bwyd parod i'w fwyta, diod gynnes mewn fflasg a dŵr potel
- Ffôn symudol a gwefrydd
- Meddygaeth hanfodol
- sbectol sbâr neu lensys cyffwrdd
- arian parod a chardiau credyd
- rhestr o rifau cyswllt brys
- cyflenwadau i fabanod ac anifeiliaid anwes
Pecyn brys i'r car
Beth i'w gadw yn eich car os bydd argyfwng:
- crafwr iâ a dadrew
- rhaw eira
- map
- blanced a dillad cynnes
- pecyn cymorth cyntaf
- fflachlamp (batri neu weindio)
- radio (batri neu weindio)
- ceblau atgyfnerthu