Mesur ein Llwyddiant
O ystyried y newid sylweddol i DDaTh ar draws y sefydliad, mae angen i ni ddatblygu set gadarn o fesurau a metrigau newydd i sicrhau y gallwn olrhain cynnydd. Byddwn yn nodi dangosyddion perfformiad penodol yn y cynllun cyflawni yn erbyn pob llif gwaith, gan alinio fel y bo'n briodol i'r mesurau meintiol ac ansoddol canlynol:
Meintiol:
- Llai o alw oherwydd methiant gwasanaeth.
- Llai o gwynion wrth i wasanaethau gael eu hailgynllunio i fod yn haws i'w defnyddio.
- Llai o amser swyddogion yn cael ei dreulio ar brosesu swyddfa gefn, trwy well integreiddiad systemau ac awtomeiddio, ynghyd â llai o uwchgyfeirio cwynion.
- Llai o gostau gweithredu traddodiadol ar gyfer gwasanaethau (e.e. ynni, teithio, defnydd papur ac ati).
- Mwy o effeithlonrwydd wrth ddarparu technoleg a’r gallu i dyfu.
Ansoddol:
- Gwell boddhad cwsmeriaid.
- Mwy o foddhad staff, gwell profiad a defnydd o dechnoleg.
- Gwell enw da gyda'n rhanddeiliaid.
- Gwell cefnogaeth i gwsmeriaid hirdymor meysydd busnes mawr, fel gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.
- Aelodau hapusach gyda llai o gwynion gan ddinasyddion.