Gweithio mewn partneriaeth
Mae cydweithio’n allweddol i'n cynllunio a'n gweithredu ar gyfer DDaT.
Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol eraill, grwpiau cymunedol, grwpiau diddordeb arbennig, a sefydliadau mwy, gan gynnwys Llywodraeth Cymru; Llywodraeth y DU; Y Gymdeithas Arloesi, Technoleg a Moderneiddio; Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe; Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chyda'n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur.
Byddwn yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i gydweithio gyda llywodraeth ganolog, cyd-awdurdodau lleol a chyrff eraill y llywodraeth er mwyn darparu Gwasanaeth DDaTh sy'n gosteffeithiol ac yn gwella'n barhaus. Bydd hyn yn rhoi gwytnwch ac ystwythder i'r cyngor y bydd ei angen arno i ddarparu'r gwasanaethau gwerth gorau i'w randdeiliaid yn y tymor canolig i'r tymor hir.