Polisiau Parcio ac Adroddiad Blynyddol
Polisi Parcio
Egwyddorion a Pholisi ar gyfer Gwasanaethau Parcio Castell-nedd Port Talbot
Mae'r egwyddorion canlynol yn sail i bolisïau parcio'r cyngor ar hyn o bryd: -
- Dylai polisi parcio gefnogi amcanion datblygu cynaliadwy a gwelliant amgylcheddol y cyngor drwy wella diogelwch ffyrdd, a lleihau traffig a thagfeydd ac annog y defnydd o feysydd parcio oddi ar y stryd yng nghanol trefi.
- Dylai polisi parcio danategu bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi drwy reoli parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd yn briodol.
- Dylid defnyddio dulliau rheoli parcio yn ddetholus i fynd i'r afael â gwrthdaro penodol, ond ni ddylid eu defnyddio'n ddiangen.
- Dylai'r cyfrif parcio gynnwys yr holl gostau ac incwm perthnasol a bod yn dryloyw.
- Dylai polisïau parcio ystyried materion cydraddoldeb ac anabledd.
Yn dilyn yr egwyddorion hyn, cynigir y datganiadau polisi parcio canlynol i'w mabwysiadu hefyd: -
- fewn canol trefi, rhoddir blaenoriaeth i barcio cyfnod byr cyfleus i ddiwallu angen lleol i gefnogi'r economi leol.
- Bydd mannau parcio am gyfnod hir yn defnyddio mannau agored llai cyfleus neu ar gyrion canolfannau.
- Diogelir gallu preswylwyr lleol i barcio'n agos at eu tai, yn enwedig drwy reoli parcio ar y stryd yng nghanol trefi ac yn agos iddynt, e.e. drwy gynlluniau parcio i breswylwyr a pharthau parcio wedi'u rheoli.
- Defnyddir taliadau parcio yng nghanol trefi ac mewn lleoliadau eraill lle mae galw mawr er mwyn rheoli parcio.
- Trefnir darpariaeth addas ar gyfer pobl anabl.
Polisi Parcio Preswylwyr a Trwyddedau
I gael trwydded:
- Rhaid i chi fod yn berchen ar gerbyd ac yn gallu gyrru.
- Rhaid i chi ddangos dogfen cofrestru cerbyd ddilys (V5) neu gytundeb symudedd dilys ynghyd â thrwydded yrru gyfredol. Nid yw tystysgrif MOT na dogfennau yswiriant yn dderbyniol fel prawf perchnogaeth.
- Rhaid i'r ddwy ddogfen hon gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad cywir, a rhaid i'r rheiny gyfateb i'r enw a'r cyfeiriad ar y ffurflen gais.
- Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, peidiwch ag anfon eich V5 a'ch trwydded yrru wreiddiol; copïau yn unig.
- Mae trwydded ond yn ddilys ar gyfer y cerbyd y cyflwynwyd hi ar ei chyfer ac ni ellir ei defnyddio ar unrhyw gerbyd arall.
- Rhaid dychwelyd trwydded pan fydd yn cael ei hadnewyddu neu wrth newid cerbyd.
- Os collir neu ddinistrir trwydded, neu os na thynnir hi o'r cerbyd wrth ei gwerthu, codir tâl o £5 i gyflwyno trwydded arall.
- Cyflwynir 2 drwydded yn unig pan na fydd parcio amgen oddi ar y stryd ar gael h.y. garej, dreif etc.
- Codir tâl gweinyddol o £25 am gyflwyno pob trwydded barcio.
- Cyflwynir 2 drwydded dros dro ar y mwyaf wrth aros i ddogfennau cofrestru'r cerbyd gael eu dychwelyd.
- Rhoddir trwyddedau ar gyfer cerbydau masnachol ond ni ddyylent bwyso mwy na 3.5 tunnell.
- Cyflwynir trwyddedau ar gyfer carafanetau a chartrefi symudol, ond ni ddylent fod yn fwy na 3.5 tunnell na'n hirach na 4.38 metr.
- Cyflwynir trwydded ymwelydd teuluol yn unig pan nad oes trwydded breswylydd ddilys wedi'i chyflwyno i'r eiddo, a rhaid i feddyg teulu ei llofnodi.
- Cyflwynir trwyddedau ymwelwyr gwyliau am gyfnod o bythefnos ar y mwyaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch y gwasanaethau parcio ar 01639 763939 neu e-bostiwch parking@npt.gov.uk
Adroddiadau Blynyddol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi paratoi'r arweiniad polisi canlynol o ran Gorfodi Parcio Sifil.
Mae'r cyngor yn aelod o'r Cydbwyllgor Dyfarnu Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain (PATROL).
Mae arweiniad hefyd ar gael o ran parcio i bobl anabl yn y canolfannau dinesig yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.