Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Mannau Parcio i'r Anabl

Rydym yn darparu lleoedd parcio unigol i bobl anabl ar gyfer preswylwyr â phroblemau symudedd parhaol a sylweddol y mae angen iddynt barcio y tu allan i'w heiddo.

Gwneir eithriadau o ran y rhai nad oes ganddynt broblemau symudedd sylweddol, ac ystyrir pob un ar sail ei rinweddau ei hun.

Ni ddarperir lleoedd parcio unigol i bobl anabl dan yr amgylchiadau canlynol:

  • ar gyfer ymwelwyr â'r teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol neu ofalwyr nad ydynt yn byw gyda'r ymgeisydd anabl.
  • os oes lle parcio addas ar gael yn yr eiddo h.y. garej neu ddreif hygyrch.

Dylai'r ymgeisydd ddarllen y ddogfen bolisi o rhan yr adran ar Gymhwyster Darpariaeth IDPP

Amserlenni

Sylwer, oherwydd y galw mawr am y gwasanaeth hwn a hyn a hyn o arian sydd ar gael, mae'r rhestr aros i ystyried ceisiadau yn 18 mis.

Y broses ymgeisio

Asesiad gallu cerdded

Cyfwelir â'r person yn bersonol yn ogystal â darparu tystiolaeth gefnogol o'i gyflwr meddygol parhaol a dwys. Rhaid i'r dystiolaeth gadarnhau nad yw'n gallu cerdded neu fod ganddo anhawster sylweddol wrth gerdded. Gwneir eithriadau i'r rhai nad oes ganddynt broblemau symudedd sylweddol.

Arolwg Safle Traffig

Byddwn yn arolygu cyfeiriad cais y sawl sy'n gymwys dan yr asesiad gallu cerdded.

Rydym yn asesu pob cais ar ei deilyngdod unigol, gan ystyried:

  • trefniadau parcio
  • cyfyngiadau presennol
  • argaeledd ar y stryd.

Y broses gyfreithiol

Unwaith y bodlonir yr  holl feini prawf, byddwn yn ceisio Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Mae hyn yn cynnwys hysbysebu'r cynnig yn y wasg i hysbysu cymdogion agos fod ganddynt y cyfle i wrthwynebu i'r cynnig.

Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau, caiff y Gorchymyn Traffig ei selio. Yna gwneir trefniadau i farcio'r cilfan ar arwyneb y ffordd, caiff arwydd ei godi ar y droedffordd a chyflwynir trwydded barcio.

Os byddwn yn derbyn gwrthwynebiadau dilys, bydd Bwrdd Amgylchedd a Phriffyrdd y Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol.

Gwneud cais

Dylech wneud ymholiadau cychwynnol yn ein Canolfan Gyswllt:

Ffôn: 01639 686868