Talu Hysbysiad Tâl Cosb
Talu am
Gallwch dalu am hysbysiad tâl cosb (tocyn parcio) ar-lein.
Bydd angen:
- rhif yr hysbysiad tâl cosb - gallwch ddod o hyd i hwn ar y tocyn
- rhif cofrestru'r cerbyd
- cerdyn debyd neu gredyd
Apelio
Mae’n bosibl y gallwch herio’ch tocyn os credwch ei fod yn anghywir. Mae gennych 28 diwrnod i herio hysbysiad tâl cosb.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- rhif hysbysiad y tâl cosb - gallwch ddod o hyd i hwn ar y tocyn
- rhif cofrestru'r cerbyd