Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sut gallwch chi helpu

Arolwg busnes a gadwyn gyflenwi

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio ar gynlluniau i gefnogi gweithwyr a busnesau yn y gadwyn gyflenwi y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt, ac i ddiogelu a thyfu'r sylfaen economaidd leol er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o gyfleoedd cyflogaeth o ansawdd da yn y dyfodol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r Cyngor yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos a sefydliadau eraill er mwyn deall y galw ar hyn o bryd, a'r galw disgwyliedig yn y dyfodol, am wahanol fathau o rolau a sgiliau cyflogaeth ymhlith y gymuned fusnes bresennol.

Byddem yn ddiolchgar am eich barn ynghylch a allai fod cyfleoedd i’ch busnes elwa o’r cyflenwad ychwanegol o weithwyr a fydd yn ymuno â’r farchnad lafur. Hefyd mae angen gwybodaeth arnom ar ba fathau o swyddi a lefel sgiliau sydd eu hangen, gan gynnwys rolau proffesiynol a rheoli, technegol a llaw.

Cefnogi Bwrdd Pontio Tata – Digwyddiad Ymgysylltu â Busnes

Yn ddiweddar, rydym ni wedi cynnal digwyddiadau ymgysylltu â busnes gyda busnesau ledled Castell-nedd Port Talbot. Mae recordiadau o’r sesiynau hyn ar gael isod, a darperir rhestr o Gwestiynau Cyson (FAQ) cyn bo hir.