Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Sgiliau a hyfforddiant gyrfaol

Dysgwch pa gefnogaeth a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu i uwchsgilio neu ddod o hyd i swydd.

Hwb cefnogaeth Picio i Mewn Port Talbot

Sefydlwyd hybiau cefnogaeth picio-i-mewn ar gyfer pawb a effeithiwyd gan drawsnewidiad Tata Steel.

Pryd?

  • Bob Dydd Iau 11am - 2pm

Lle?

Cyfarwyddiadau i SA13 2NF
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Tata
Abbots Close,
Margam SA13 2NF pref

Addysg i Oedolion yn Gymuned CNPT

Gall Addysg i Oedolion yn Gymuned CNPT ddarparu cyrsiau hyfforddi yn rhad ac am ddim, fel ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld a chodi hyder i’ch helpu i baratoi am waith a dod o hyd iddo.

Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd ailhyfforddi ac uwchsgilio gyda chyrsiau o lefel mynediad hyd at Lefel 3.

Cyfrifon Dysgu Personol

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu hyblyg a ariennir yn llawn i unigolion sy'n edrych i wella eu sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth Gall Cyfrif Dysgu Personol helpu unigolion, yn enwedig y rhai sy'n wynebu diswyddiad, i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth newydd mewn sectorau allweddol. 

Cyflogadwyedd CPT

Mynnwch help gyda phethau fel chwilio am swydd, llunio CV a thechnegau cael cyfweliad

Dod o hyd i’ch Canolfan Waith leol

Gall eich Canolfan Byd Gwaith ddarparu cefnogaeth i’ch helpu i baratoi ar gyfer gwaith, dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith.

Grŵp Colegau NPTC

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi creu ystod o gyfleoedd hyfforddi i gefnogi gweithwyr Tata a’r gadwyn gyflenwi. Bydd y rhain yn eich helpu os ydych chi’n penderfynu newid gyrfa, uwchsgilio neu fynnu sgiliau newydd.

Cychwyn eich busnes eich hun

Cymorth i unigolion

Busnes Cymru yw gwasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru, sy'n helpu microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid o bob oedran i gael gafael ar yr wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddechrau eu busnesau a’u datblygu.

Gall Busnes Cymru ddarparu cymorth os ydych yn ystyried hunangyflogaeth neu ddechrau eu busnes eu hunain. Gall ein tîm cynghori Busnes ddarparu ystod o wybodaeth busnes a chyngor busnes drwy weithdai a chyfarfodydd un-i-un, i'ch helpu i adolygu eich syniadau a pharatoi cynlluniau busnes, yn ogystal â chael mynediad at gyllid busnes. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: selfemployment@businesswales.org neu ffoniwch dîm lleol Busnes Cymru ar: 01656 868500

Hyfforddiant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru (Blaenau’r Cymoedd)

Dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae cyrsiau rhad ac am ddim ar gael yn Hyfforddiant Blaenau’r Cymoedd.

Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim yn cynnwys hyfforddiant i yrwyr HGV/LGV, hyfforddiant gyrru bws, hyfforddiant Nwyddau Peryglus ADR, hyfforddiant Llwytho Lorïau HIAB a sawl cwrs hyfforddi wagenni fforch godi a pheiriannau eraill.

Sgiliau digidol Computeraid yn y gwaith

Cwrs sgiliau digidol lefel uwch newydd wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer pobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot i uwchsgilio, ailhyfforddi ac ennill cymwysterau.

ReAct +

Mae rhaglen ReAct + yn gallu darparu grant hyd at £1,500 ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyd at £200 i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant Mae hefyd cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer costau gofal a gofal plant.

Cwrs Dysgu Peirianyddol

Nod y cwrs hwn yw helpu dysgwyr i ennill sgiliau mewn Dadansoddi Data Archwiliadol (EDA) a datblygu modelau dysgu peirianyddol heb fod angen gwybodaeth codio helaeth.

Meini prawf

Rhaid i chi

  • bod yn 16 oed neu'n hŷn
  • yn byw neu gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â ni yn dtlsn.info@cardiffmet.ac.uk

Prosiect Switch on Skills

Mae'r prosiect Switch on Skills yn darparu cyrsiau hyfforddi ar-lein ac achrededig am ddim sydd â'r nod o gyflawni Sero-Net.

Gyda chyllid gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU, mae'r prosiect, mewn cydweithrediad â diwydiant a'r byd academaidd, yn darparu model hyblyg sy'n defnyddio datblygiadau mewn dysgu dan arweiniad ar-lein, addysgu personol a sesiynau ymarferol.

Gall cyfranogwyr gael mynediad at gyrsiau byr a defnyddio'r rhain i adeiladu cymwysterau neu ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu rôl, fel bod y gweithlu a'r busnesau presennol yn parhau i fod yn gystadleuol a bod cyflenwad o dalent yn dod drwodd gan ysgolion, Addysg Bellach (AB), a sefydliadau Addysg Uwch (AU).