Cynllun cymeradwyo masnachwyr cenedlaethol Prynu Gyda Hyder
Cynllun cymeradwyo masnachwyr a gydnabyddir yn genedlaethol yw Prynu gyda Hyder, a'i nod yw rhoi sicrwydd i gwsmeriaid a busnesau pan fyddant yn prynu nwyddau a gwasanaethau.
Fe'i sefydlwyd oddeutu 20 mlynedd yn ôl mewn ymateb i bryderon ynghylch 'masnachwyr twyllodrus' a dymuniad cyffredinol i wella'r safonau ar draws sectorau masnachu penodol.
Gwybodaeth i fasnachwyr
Trwy gofrestru ar gyfer y cynllun 'Prynu gyda Hyder', gallwch ddweud bod eich busnes wedi'i gymeradwyo gan Safonau Masnach. Mae'r manteision yn cynnwys:
- defnyddio'r logo sy'n dangos eich bod wedi'ch cymeradwyo gan Safonau Masnach
- mynediad uniongyrchol at gyngor gan weithwyr proffesiynol Safonau Masnach a gyflogir gan yr awdurdod lleol
- cael eich ychwanegu at y cyfeirlyfr busnesau 'Buy with Confidence'
- dod yn rhan o gynllun i helpu i amddiffyn eich cymuned rhag masnachwyr twyllodrus
- derbyn gwybodaeth yn rheolaidd am newidiadau i'r gyfraith a allai effeithio ar eich busnes
- cynllun nid er elw a gynhelir gan awdurdodau lleol, felly mae'n holl ffioedd yn cael eu hailfuddsoddi i gynnal a hyrwyddo'r cynllun
Mae'r cynllun ar gael i'r rhan fwyaf o fusnesau sy’n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid.
Caiff busnesau eu cynnwys pan fyddant wedi cwblhau cyfres o wiriadau manwl yn unig, gan gynnwys ymweliad gan weithiwr proffesiynol cymwys Safonau Masnach.
Costau
Codir ffi gofrestru i ymuno â'r cynllun, yn ogystal â ffi flynyddol.
Gwybodaeth i breswylwyr
Mae pob busnes a restrir yn y cyfeirlyfr busnesau 'Prynu Gyda Hyder' wedi'i gymeradwyo a'i archwilio a bydd Safonau Masnach yn parhau i'w archwilio i sicrhau ei fod yn gweithredu mewn ffordd gyfreithiol a gonest.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am y cynllun 'Prynu gyda Hyder' defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol: