Ffordd Fabian
Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd Prifysgol Abertawe
Mae Campws y Bae, Prifysgol Abertawe wedi'i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot ar safle 65 erw, sef safle BP Transit gynt, ar y ddynesfa ddwyreiniol i Abertawe ac mae ganddo'r anrhydedd o fod yn un o ychydig brifysgolion yn y byd â mynediad uniongyrchol i draeth a phromenâd glan y môr. Mae'r Campws yn darparu ardaloedd academaidd ac ymchwil ynghyd â llety myfyrwyr gyda'r ardaloedd ymchwil wedi'u cadarnhau mewn cyfres o gytundebau gyda chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol.
Er bydd gwaith datblygu'n parhau tan 2020 mae'r mwyafrif o'r gwaith wedi'i gwblhau eisoes, yn ystod rhan gyntaf y gwaith adeiladu, ac agorwyd y campws ym mis Medi 2015.
Mae'r colegau yng Nghampws y Bae yn cynnwys y Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Canolfan Gwybodaeth y Tŵr sy'n gartref i'r gwasanaethau cefnogi canolog ar gyfer myfyrwyr, Llyfrgell y Bae (o'r radd flaenaf), Undeb y Myfyrwyr, cyfleusterau, ystafelloedd cyfarfod a Neuadd Fawr arbennig a fydd yn cynnwys awditoriwm i 700 o bobl, theatrau darlithio a chaffi yn cynnig golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe hyd at Gŵyr a Bae Baglan. Mae yna ddarpariaeth arlwyo sylweddol ar draws y campws cyfan, gan gynnwys caffis, barrau a bwyty. Mae unedau manwerthu'n cynnwys farchnad fach, golchdy a pheiriannau arian parod. Mae hyn i gyd yn ychwanegol i'r cyfleusterau chwaraeon a'r traeth y caiff pawb eu mwynhau.
Ariennir y prosiect aml-bartner cyhoeddus/preifat hwn gan y Brifysgol, Llywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, Yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, Banc Buddsoddi Ewropeaidd a M&G Investments gyda St Modwen. Y contractwyr ar y safle yw Vinci Construction, Bouygues UK a Galliford Try.
Mae'r datblygiad yn addo bod yn un o'r mentrau gwybodaeth economaidd mwyaf yn Ewrop a fydd yn cefnogi adfywiad economaidd sylweddol yn Ne-Orllewin Cymru.