Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Glannau'r Harbwr

Mae Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu prif gynllun ar gyfer datblygiad tref Port Talbot a Glannau'r Harbwr. Mae gweledigaeth tymor hir yn ofyniad allweddol os yw'r prosiectau am lwyddo i greu newid  parhaus a bydd y prif gynllun yn gweithredu fel arweiniad ar gyfer datblygu'r rhan hon o'r sir.

Mae nifer o brosiectau eisoes ar waith ar Lannau'r Harbwr gan gwblhau Canolfan Cyfiawnder GLlEM yn gynharach eleni.

Glannau'r Harbwr Glannau'r Harbwr

Bydd Pentref Ymchwilio a Datblygu newydd ar Lannau'r Harbwr, Port Talbot bellach yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio diolch i grant gan Gronfa Datblygu Eiddo De-orllewin Cymru. 

Mae hwn yn hwb mawr i brif gynllun y cyngor ar gyfer yr ardal, a luniwyd er mwyn gwneud yn fawr o fanteision Ffordd yr Harbwr.

Daethpwyd o hyd i denantiaid ar gyfer rhan o'r datblygiad eisoes, ac maent yn cynnwys TWI a TATA Steel. Bydd lle ehangu ychwanegol yn caniatáu i fwy o gwmnïau symud i'r datblygiad.

Meddai David Stacey o'r datblygwyr Deryn Properties, "Mae'n bleser gennym fuddsoddi ym Mhort Talbot ac rydym yn teimlo'n gyffrous iawn am y cyfleoedd adfywio yng Nglannau'r Harbwr. Bydd y Pentref Ymchwil a Datblygu hwn yn sicrhau swyddi da i'r Fwrdeistref Sirol ac yn denu mwy o fuddsoddiad gan gwmnïau sy'n ymwneud â thechnolegau arloesol".

Ynghyd â ffordd gyswllt Ffordd yr Harbwr, cynigion ar gyfer datblygu'r dociau a'r gwelliannau i ganol tref Port Talbot, bydd yr ardal gyfan yn ddeniadol iawn i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau.

Gweler  safle busnes CNPT  am fwy o wybodaeth am gyfleoedd i ddatblygu.