Llinell gymorth ymgynghoriad ffôn ar gyfer rhieni a gofalwyr
Mae gwasanaeth cynhwysiant CNPT yn cynnig llinell gymorth ymgynghori dros y ffôn, a all helpu i'ch cefnogi chi a'ch plentyn.
Mae Gwasanaeth Cynhwysiant CNPT yn cynnwys nifer o asiantaethau sy'n cefnogi'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Dyma'r timau:
- Cefnogaeth ar gyfer Dysgu, (Timau Cynghori ar Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Lleferydd ac Iaith, Therapi Galwedigaethol, Nam Synhwyraidd a Dysgu)
- Gwasanaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
- Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion
- Tîm Lles ac Ymddygiad
- Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd
Bydd y llinell gymorth ymgynghori hon ar gael i rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc, pwy'n mynychu ysgol brif ffrwd neu ganolfan cymorth dysgu arbenigol neu ysgol arbennig.
Gallai meysydd pryder yr hoffech eu trafod gynnwys:
- Pryder ynghylch y sefyllfa bresennol a'i heffaith ar eich plant a'ch teulu
- Eich helpu i gefnogi anghenion emosiynol eich plant
- Pryderon am berthnasoedd teuluol
- Cyngor am gyfleoedd dysgu, strwythur dyddiol a gweithgareddau
Gall y pryderon fod yn gysylltiedig â bywyd yr ysgol neu'r teulu. Byddwch yn cael cynnig ymgynghoriad cychwynnol dros y ffôn, sef 30 munud, gyda'r aelod mwyaf priodol o'r gwasanaeth cynhwysiant, yn dibynnu arnoch chi ac anghenion eich plentyn, a dilyniant posibl o ymgynghoriad 30 munud pellach ar y ffôn yn nes ymlaen. Bydd y rhain o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau gwaith safonol.
Os hoffech gael mynediad i'r gwasanaeth, defnyddiwch y ffurflen isod. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn ddwyieithog, felly nodwch a oes angen yr ymgynghoriad arnoch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn ceisio dod yn ôl atoch o fewn 2 ddiwrnod gwaith i gadarnhau amser a dyddiad.
Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddatgelu i ni yn ystod yr alwad ffôn yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn unol â'n rhwymedigaethau o dan GDPR 2016. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Awdurdod Lleol.