Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Llinell gymorth ymgynghoriad ffôn ar gyfer rhieni a gofalwyr

Mae gwasanaeth cynhwysiant CNPT yn cynnig llinell gymorth ymgynghori dros y ffôn, a all helpu i'ch cefnogi chi a'ch plentyn.

Mae Gwasanaeth Cynhwysiant CNPT yn cynnwys nifer o asiantaethau sy'n cefnogi'r Awdurdod Lleol i fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dyma'r timau:

  • Cefnogaeth ar gyfer Dysgu, (Timau Cynghori ar Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, Lleferydd ac Iaith, Therapi Galwedigaethol, Nam Synhwyraidd a Dysgu)
  • Gwasanaeth Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
  • Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion
  • Tîm Lles ac Ymddygiad
  • Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd

Bydd y llinell gymorth ymgynghori hon ar gael i rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc, pwy'n mynychu ysgol brif ffrwd neu ganolfan cymorth dysgu arbenigol neu ysgol arbennig.

Gallai meysydd pryder yr hoffech eu trafod gynnwys:

  • Pryder ynghylch y sefyllfa bresennol a'i heffaith ar eich plant a'ch teulu
  • Eich helpu i gefnogi anghenion emosiynol eich plant
  • Pryderon am berthnasoedd teuluol
  • Cyngor am gyfleoedd dysgu, strwythur dyddiol a gweithgareddau

Gall y pryderon fod yn gysylltiedig â bywyd yr ysgol neu'r teulu. Byddwch yn cael cynnig ymgynghoriad cychwynnol dros y ffôn, sef 30 munud, gyda'r aelod mwyaf priodol o'r gwasanaeth cynhwysiant, yn dibynnu arnoch chi ac anghenion eich plentyn, a dilyniant posibl o ymgynghoriad 30 munud pellach  ar y ffôn yn nes ymlaen. Bydd y rhain o ddydd Llun i ddydd Gwener o fewn oriau gwaith safonol.

Os hoffech gael mynediad i'r gwasanaeth, defnyddiwch y ffurflen isod. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn ddwyieithog, felly nodwch a oes angen yr ymgynghoriad arnoch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn ceisio dod yn ôl atoch o fewn 2 ddiwrnod gwaith i gadarnhau amser a dyddiad.

Bydd unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddatgelu i ni yn ystod yr alwad ffôn yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn unol â'n rhwymedigaethau o dan GDPR 2016. Gweler Hysbysiad Preifatrwydd yr Awdurdod Lleol.

⠀⠀

Mae'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn ddwyieithog, felly nodwch a oes angen yr ymgynghoriad arnoch yn Gymraeg.

Byddwn yn ceisio cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith i gadarnhau amser a dyddiad.

Bydd galwadau’n aros yn gyfrinachol oni bai ei bod yn ofynnol i ni dorri cyfrinachedd yn ôl y gyfraith yn unol â’n rhwymedigaethau o dan GDPR 2016.

Cyfeiriwch at Hysbysiad Preifatrwydd yr Awdurdod Lleol.