Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gŵyl y Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2024

 

Hydref - Tachwedd 2024

Bydd y digwyddiad eleni yn coffáu 80 mlynedd ers Glaniadau D-Day yn Normandi. 

Bwriad yr ŵyl yw talu teyrnged i'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot, y rhai a fu farw a chyn-filwyr o'r ddau Ryfel Byd a gwrthdaro byd-eang eraill. Mae hefyd yn anrhydeddu'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd am y cyfraniad parhaus y maent yn ei wneud gartref a thramor.

Ymunwch â ni i ddathlu a chofio cyfraniad y lluoedd arfog at ein cymunedau, ddoe a heddiw. 

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i prosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin

*

Cyngerdd Coffa Maer Castell-nedd Port Talbot 2024

Nos Wener 25 Hydref 2024 (7:00yh) 

Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot, SA13 1PJ 

Noson arbennig iawn i dalu teyrnged i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys coffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day.   

Dan arweiniad Mal Pope, bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan:

  • Band Pibau Dinas Abertawe
  • Band Cadetiaid Awyr Sgwadron 334 (Castell-nedd)
  • y Llu Awyr Brenhinol,
  • Band y Lleng Brydeinig Frenhinol Llanelli
  • Côr Valley Rock Voices.
  • Madlen Forwood -Unawdydd

Daw’r cyngerdd i ben gyda Gwasanaeth Coffa, tawelwch a miloedd o betalau pabi coch yn disgyn. 
 
Prisiau tocynnau

  • £10 Safonol (gan gynnwys ffi archebu) 
  •   £8 Consesiwn (gan gynnwys ffi archebu)

Grwpiau consesiynol

  • dan 16
  • dros 60
  • grwpiau o wyth neu fwy
  • chyn-filwyr y Lluoedd Arfog
  • Lluoedd Arfog Wrth Gefn
  • Cadetiaid y Lluoedd Arfog
  • staff presennol y Lluoedd Arfog 
*

Diwrnod Gŵyl y Lluoedd Arfog CNPT

Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024 (hyd at 4.00yp)

Canolfan Siopa Aberafan:

  • 10.45yb: Lansio Apêl Pabi RBL Port Talbot, cysegriad yr Ardd Goffa a'r seremoni codi baner
  • 11.15yb i 11.30yb: syrpreis cerddorol gan y Fyddin
  • 11.30yb: Cyflwyno gwobrau ar gyfer cystadlaethau celf i blant a noddir gan Beirianneg Precision Llanelec, Wall Colmonoy a'r Bathdy Brenhinol 

                     

  • 12yp: Llyfrgell Port Talbot - sgwrs am hanes a gwaith parhaus Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad
  • 12.15yp: Arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog - Canolfan Siopa Aberafan a Tai Tarian 
  • 1.15yp a 2.30yp:  Clwb Ukelele Abertawe 
  • 2yp: Ioan Osbourne, pibydd
  • gweithgareddau am ddim 
  • mwy na 25 stondin  

Sgwâr Dinesig, Port Talbot:

  • Arddangos cerbydau milwrol yn y gorffennol a'r presennol 
  • Cerbydau Gwasanaethau Brys 
  • dau lloches Anderson dilys  
*

Digwyddiadau Cysylltiedig

Dydd Sul 10 Tachwedd 2024

Gorymdeithiau traddodiadol Sul y Cofio yng nghanol trefi Castell-nedd a Phort Talbot, wedi’u trefnu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot

Apêl pabi gwau a chrosio

Bydd pedair baner a wnaed o rwyd scrim milwrol yn hongian o nenfwd y Ganolfan Siopa Aberafan o 22 Hydref i 12 Tachwedd 2024. 

Defnyddir rhwydi fel hyn yn draddodiadol i guddliwio milwyr ar gyrchoedd, ond fe’i addurnir ar gyfer yr ŵyl â thros 1,500 blodyn pabi a gafodd eu gweu, eu crosio a’u crefftio â ffelt gan ysgolion, grwpiau gwau ac unigolion o bob cwr o’r fwrdeistref sirol a’r cyffiniau.

Diolch i bawb a wnaeth helpu.

*

Newyddion yr Ŵyl

Oes gennych chi stori D-Day, yr Ail Ryfel Byd neu stori filwrol arall i'w hadrodd? 

Wrth i ni goffáu 80 mlynedd ers Glaniadau Normandi ar 28 Mehefin 2024, rydym yn chwilio am straeon lleol sy'n dathlu treftadaeth filwrol falch ein bwrdeistref sirol.

*