Cwestiynau Cyson Treth y Cyngor a’r Gyllideb
Ydy hi’n wir ein bod ni yng Nghastell-nedd Port Talbot yn talu mwy o dreth y cyngor nag unrhyw le arall yng Nghymru?
Nac ydy. Mae treth y cyngor cyfartalog Castell-nedd Port Talbot yn is na chyfartaledd Cymru mewn gwirionedd.
Mae’r dryswch yn codi o’r ffaith bod yn rhaid i dreth y cyngor gael ei osod, yn gyfreithiol, ar lefel band D. Cyfrifir pob band arall fel cyfradd o fand D, felly er enghraifft bydd eiddo ym mand A yn talu 6/9fed o werth band D. Er mai cyfradd band D o dreth y cyngor yw’r trydydd uchaf yng Nghymru, mewn gwirionedd mae treth y cyngor ar gyfartaeldd yn is am fod 80% o eiddo Castell-nedd Port Talbot ym mandiau A-C.
Hefyd, o blith cyfanswm o 66,000 o aelwydydd yng Nghastell-nedd. Port Talbot, mae 15,500 yn derbyn cymorth gyda threth y cyngor – dyw rhyw 12,500 ddim yn talu treth y cyngor o gwbl, a’r gweddill ond yn talu cyfran ohono. Mae cymorth gyda threth y cyngor yn cael ei benderfynu yn ôl prawf modd, sy’n golygu fod y rhai sydd mewn mwyaf o angen yn derbyn y gostyngiad mwyaf.
Pam ydyn ni’n talu mwy yng Nghastell-nedd Port Talbot na phobl yn rhai o rannau mwyaf cyfoethog Llundain?
Yn Lloegr, mae’r band y bydd eiddo’n disgyn iddo’n seiliedig ar werthoedd 1991, a bydd y band uchaf, H, yn Lloegr yn dechrau gyda gwerth o £320,000. Felly bydd rhywun sy’n byw mewn fflat stiwdio Band A yn Marylebone ynghanol Llundain, oedd wedi’i brisio’n £40,000 yn 1991, ond sydd bellach yn werth tua £950,000, yn talu ychydig dros £520 y flwyddyn.
Yng Nghymru, cyflwynwyd gwerthoedd eiddo diwygiedig yn 2003.
Bu’n broblem barhaus ers rhai blynyddoedd, ac mae Aelodau etholedig wedi parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn. Rydyn ni’n falch o weld fod diwygio treth y cyngor wedi’i gynnwys yn y ‘Cytundeb Cydweithredu’; er mwyn diwygio un o’r dulliau mwyaf anflaengar o godi treth, sy’n effeithio’n anghydradd ar ardaloedd tlotaf Cymru.
Sut fydd fy nhreth cyngor yn cael ei fandio?
Codir treth y cyngor ar y cartref. Mae’n cael ei seilio ar werth yr eiddo, ac nid ar enillion y cartref. Felly, mae faint o dreth y cyngor fyddwch chi’n ei dalu’n dibynnu ar ba fand eiddo mae eich cartref ynddo. Gwirio eich band treth cyngor
Am beth fydd fy nhreth cyngor yn talu?
Nid yw treth y cyngor y byddwch chi’n ei thalu’n cael ei chyfrifo ar sail pa wasanaethau fyddwch chi’n eu defnyddio neu’n derbyn eich hun, ond mae’n cyfrannu at y gyllideb gyfan sydd ei hangen ar y cyngor i ddarparu cannoedd o wasanaethau gwahanol i breswylwyr y fwrdeistref sirol. Bydd eich treth cyngor yn cyfrannu tua 25% at gyfanswm cyllideb y cyngor. Dysgwch ragor am y pethau sy’n cael eu talu dan gyllideb y cyngor.
Mae rhai o’r gwasanaethau hyn yn hynod weladwy, fel casglu sbwriel, cynnal a chadw heolydd, llyfrgelloedd ac ysgolion. Bydd gwasanaethau eraill yn aml yn anweledig, fel darparu gofal maeth i blant, gofalu am bobl hŷn a bregus, gwneud archwiliadau hylendid bwyd, cyfrannu at Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru, a darparu addysg i blant ag anghenion arbennig.
Gallwch weld i ble bydd eich treth cyngor yn mynd
Pwy sy’n penderfynu sut fydd fy nhreth cyngor yn cael ei wario?
Mae penderfyniadau am gyllideb y cyngor yn cael eu cytuno’n flynyddol gan Gabinet y cyngor. Dysgwch fwy am y Cabinet.
Alla i ddylanwadu ar sut fydd fy nhreth cyngor yn cael ei wario?
Bob blwyddyn cynhelir ymgynghoriad ar gynigion cyllideb y cyngor cyn i’r gyllideb derfynol gael ei gosod. Gofynnir i bobl sy’n byw a gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot ddangos a ydyn nhw’n cytuno neu’n anghytuno â set o gynigion cyllideb ddrafft, a chânt eu gwahodd i roi’u barn ar unrhyw beth arall y dylai’r cyngor ei ystyried.
Wedyn, bydd yr adborth o’r ymgynghoriad blynyddol hwn am y gyllideb yn cael ei ystyried gan swyddogion ac aelodau etholedig, ac efallai y gwneir newidiadau i’r cynigion yn y gyllideb derfynol i adlewyrchu’r adborth hwnnw.
A yw fy nhreth cyngor yn effeithio’n uniongyrchol ar fy ardal leol? A yw’n talu am gynghorau cymuned a’u gweithgareddau?
Bydd y cyngor yn casglu arian ar ran eich cyngor cymuned leol (os oes gennych un) fel rhan o’r bil treth cyngor blynyddol.
A ddefnyddir treth y cyngor i dalu am gostau cynnal a chadw’r cyngor, neu a yw’r cyfan yn mynd i gynnal gwasanaethau rheng flaen?
Mae treth y cyngor yn talu am ychydig o dan 25% o holl gostau rhedeg y cyngor, ac mae rhywfaint o’r gost hon yn ymwneud â gweinyddu, ond mae’r rhan fwyaf o gryn dipyn yn cael ei wario ar wasanaethau rheng flaen. Mwy o wybodaeth: I ble fydd treth y cyngor yn mynd
Pam ydw i’n talu mwy na rhywun sy’n byw filltir i lawr yr heol?
Codir treth y cyngor ar y cartref, yn seiliedig ar werth yr eiddo, ac nid ar enillion y cartref. Felly, mae faint o dreth y cyngor fyddwch chi’n ei dalu’n dibynnu ar ba fand eiddo mae eich cartref ynddo. Gwiriwch eich band treth cyngor
Ydy treth y cyngor yn cyd-fynd â chwyddiant?
Dyw treth y cyngor ddim yn codi’n unol â chwyddiant er bod chwyddiant yn effeithio ar gostau’r cyngor bob blwyddyn.
Sut alla i gymryd rhan gyda’r cyngor?
Mae sawl ffordd y gallwch chi chwarae rhan fwy gweithredol ym musnes y cyngor. Dyma rai:
- Cofrestru i bleidleisio a defnyddio eich pleidlais mewn etholiadau. Mae pleidleisio’n ffordd bwysig iawn o adael i bobl leol godi’u llais a dylanwadu ar y blaenoriaethau a’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.
- Dod yn gynghorydd – gallwch weld gwybodaeth allweddol os oes gennych ddiddordeb mewn sefyll i gael eich ethol
- Cymryd rhan mewn ymgynghoriadau – mae’r cyngor yn gwerthfawrogi barn pawb yn y fwrdeistref sirol ac mae eich adborth chi’n cyfri. Byddwn ni’n gwneud ymgyrchoedd ymgysylltu ac ymgynghoriadau rheolaidd i holi am eich adborth ar gynigon, cynlluniau a pholisïau. Mae dwy ffordd dda o gymryd rhan:
- Chwiliwch am ymgynghoriadau ar ein tudalen we
- Ymunwch â’n Panel Dinasyddion – gallwch ymuno â’r Panel Dinasyddion os ydych chi dros 16 oed ac yn byw ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fel aelod o’r Panel Dinasyddion byddwch chi’n derbyn negeseuon e-bost i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolygon ar lein.
- Mynychu cyfarfodydd y cyngor fel rhan o’n horiel gyhoeddus rithiol – gallwch weld cyfarfodydd y gorffennol neu wylio cyfarfodydd i ddod drwy gyfrwng Microsoft Teams drwy gofrestru ymlaen llaw i fod yn rhan o’r oriel gyhoeddus rithiol.
Mae costau ar gyfer yr Heddlu ar fy mil. Beth ydyn nhw?
Yn ogystal â chasglu treth y cyngor sydd ei angen i gynnal gwasanaethau’r cyngor, bydd y bil fyddwch chi’n ei dderbyn hefyd yn cynnwys elfen i dalu am waith yr Heddlu a’ch cyngor cymuned lleol (os oes gennych un). Bydd y Cyngor yn gweithredu fel asiant i gasglu’r arian ar gyfer yr heddlu, ac nid oes ganddo ddim rheolaeth dros faint a godir.
Dwi ar incwm isel / budd-daliadau. Alla i gael cymorth i dalu treth y cyngor?
Os ydych chi ar incwm isel neu os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, efallai y bydd hawl gennych i gael Cefnogaeth Treth Cyngor. Rhoddir Cefnogaeth Treth Cyngor ar eich cyfrif treth cyngor, a bydd yn lleihau eich bil. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am help i leihau eich bil.
Mae dolenni i ffynonellau eraill o gymorth a gwybodaeth ar Cyngor Dyled ac Poeni am arian? Mae cefnogaeth ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot
Sut mae’r cyngor yn cael ei ariannu?
Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, bydd y cyngor yn gosod cyllideb ar gyfer gwariant beunyddiol – y gyllideb refeniw.
Bydd rhyw 76.5% o’r arian yn dod o Lywodraeth Cymru, a bydd y balans sy’n weddill yn cael ei ariannu gan breswylwyr drwy gyfrwng treth y cyngor.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r cyngor osod cyllideb gytbwys, sy’n golygu na all y gwariant fod yn fwy nag incwm y cyngor. Gallwch ddarllen mwy am gyllideb refeniw’r cyngor a sut y bydd yn cael ei gwario.
Gwariant cyfalaf
Bydd y cyngor yn rhoi pwys mawr ar bwysigrwydd buddsoddi cyfalaf fel dull o adfywio ein cymunedau. Nid yn unig bydd hyn yn arwain at well cyfleusterau a gwasanaethau ond mae hefyd yn creu swyddi a manteision economaidd i bobl leol.
Daw’r arian ar gyfer buddsoddi cyfalaf o raglen ariannu cyfalaf Llywodraeth Cymru, o dderbyniadau cyfalaf a benthyca darbodus.
Bydd y cyngor hefyd yn gwneud ceisiadau am ffynonellau eraill o arian allanol.. Fel arfer, gellir defnyddio’r math hwn o arian i bwrpasau penodol yn unig. Dyma arian, er enghraifft, i’n helpu ni i gyflawni ein huchelgais adfywio ar draws y fwrdeistref sirol, ac arian ar gyfer prosiectau i well ein cymunedau na fydden nhw’n digwydd fel arall.
Enghraifft o’r math hwn o arian yw rhaglen Band B Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif, ble bydd Llywodraeth Cymru’n ariannu 65% o gost unrhyw fuddsoddiad gyda’r 35% sy’n weddill yn cael ei dalu gan y cyngor. Gallwch ddarllen mwy am Raglen Gyfalaf y cyngor.
Faint o incwm fydd y cyngor yn ei gynhyrchu o’i asedau / gweithgareddau masnachol ei hun, a pha ganran o’r gyllideb gyffredinol yw hynny?
Bydd y cyngor yn cynhyrchu tua £50m o incwm o sawl ffynhonnell, sef tua 15% o’r gyllideb gyfan.
Pa mor aml fyddwch chi’n adolygu cyllidebau adrannau?
Bydd cyllidebau adrannau’n cael eu hadolygu fel rhan o’r broses o osod y gyllideb flynyddol.