Ynglŷn â Threth y Cyngor
Beth yw treth y cyngor
Treth y cyngor yw'r ffurff bresennol ar drethu cartrefi lleol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i godi arian i dalu tua 23.5% o gost gwasanaethau lleol megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol a chasglu sbwriel.
Treth eiddo ag elfen eiddo a phersonol yw treth y cyngor. Mae'r elfen eiddo'n seiliedig ar fand prisio'r eiddo. Mae'r elfen bersonol yn ystyried nifer y bobl 18 oed a hŷn sy'n byw mewn eiddo, ac mae'n caniatáu rhoi gostyngiad dan rai amgylchiadau.
Pwy sy'n talu Treth y Cyngor
Rydym yn cyfrifo pwy sy'n gorfod talu Treth y Cyngor drwy ddarganfod pwy sy'n syrthio i'r uchaf o'r categorïau canlynol:
- rhydd-ddeiliad sy'n byw yn yr eiddo (ee.Perchennog-breswylydd);
- lesddeiliad sy'n byw yn yr eiddo (ee. Tenant pendant);
- tenant sy'n byw yn yr eiddo;
- person trwyddedig sy'n byw yn yr eiddo;
- rhywun sy'n byw yn yr eiddo (ee. sgwatiwr).
Os bydd dau berson neu fwy yn syrthio i'r categori a bennwyd, bydd cyfrifoldeb ar y cyd ganddynt am dalu Treth y Cyngor. Gelwir hyn yn "atebolrwydd ar y cyd ac ar wahân".
Bydd pâr priod, neu bâr sy'n byw gyda'i gilydd fel gw^r a gwraig, hefyd yn atebol ar y cyd, hyd yn oed petai un partner yn syrthio i gategori is.
Golyga atebolrwydd ar y cyd ac ar wahân bod y Cyngor yn gallu mynnu bod unrhyw un o'r bobl yn talu bil Treth y Cyngor.
Nid yw'n golygu bod pob person yn gyfrifol am ran o'r bil yn unig.
Os nad oes neb yn byw yn yr eiddo, y perchennog fydd y person sy'n gorfod talu Treth y Cyngor
Hefyd ceir rhai achosion arbennig lle mae'n rhaid i'r perchennog dalu Treth y Cyngor er bod pobl yn byw yn yr eiddo:
- Cartrefi Gofal Preswyl, Cartrefi Nyrsio a rhai Hostelau;
- Preswylfeydd Gweinidogion yr Efengyl;
- Preswylfeydd Cymunedau Crefyddol;
- Preswylfeydd Gweision Teuluol;
- Tai Aml-ddeiliadaeth;
- Tai y mae Ceiswyr Lloches Gwleidyddol yn byw ynddynt.
Ble mae fy Nhreth Gyngor yn mynd
Mae'r dreth gyngor yn cyfrannu at gyllideb y cyngor. Defnyddir yr arian a godir trwy dreth y cyngor ynghyd â grantiau gan y llywodraeth i dalu am amrywiaeth eang o wasanaethau lleol gan gynnwys y canlynol.