Swyddi Gwag i Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso – Castell-nedd Port Talbot
Ydych chi’n fyfyriwr trydedd flwyddyn Gwaith Cymdeithasol sy’n chwilio am swydd?
Gallwn gynnig amrywiaeth o swyddi Gweithiwr Cymdeithasol parhaol ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant a fydd yn eich galluogi i ddechrau ar ôl i chi gymhwyso. Gallech gael cyfle hefyd i ddechrau yn y swydd cyn cadarnhau eich cymhwyster ar raddfa gyflog is fel Gweithiwr Cefnogi hyd nes y derbynnir cadarnhad o’r cymhwyster a’r Cofrestriad Gofal Cymdeithasol.
Gwneud cais:
Cefnogaeth
Fel Gweithiwr Cymdeithasol newydd gymhwyso gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, byddwch chi’n derbyn cefnogaeth i gwblhau’r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer Gofal Cymdeithasol Yn ogystal, yn ystod eich blwyddyn gyntaf o ymarfer byddwch chi’n derbyn cefnogaeth sylweddol i gynorthwyo eich datblygiad gan gynnwys:
- cyfnod cynefino manwl
- bydd mentor addas yn cael ei glustnodi
- cynllun datblygu personol (PDP) llawn
- mynychu pob hyfforddiant gorfodol a pherthnasol
- goruchwylio rheolaidd a chefnogol (bob pythefnos yn ystod y 3 mis cyntaf)
- mynychu grŵp cefnogi ymarfer bob chwarter yn ystod y flwyddyn gyntaf
- gwahoddiad i fynychu grwpiau cefnogaeth cyfoedion
Manteision
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn hybu ac yn annog trefniadau gweithio hyblyg er mwyn gweld gweithwyr yn elwa o gael cydbwysedd gwaith a bywyd; cynorthwyir hyn ymhellach gyda chyflwyno Fframwaith Gweithio Hybrid a byddwn yn cefnogi staff i weithio gartref ac yn y swyddfa.
Gallwn gynnig cyflogaeth sicr i chi gyda chyflog cystadleuol a thelerau ac amodau hael gan gynnwys 24 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu i 21 dydd ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus), ynghyd â 2 ddiwrnod ychwanegol adeg y Nadolig, cynlluniau pensiwn a thâl salwch rhagorol, Mae gennym hefyd Grŵp Iechyd a Llesiant gyda loteri staff a gostyngiadau cysylltiedig, aelodaeth campfa ar bris gostyngedig, cynllun seiclo i’r gwaith a chynllun prynu gwyliau blynyddol ychwanegol, Mae gennym gynllun adleoli hefyd, os ydych chi’n ystyried adleoli.
Mwy o wybodaeth
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y rolau, cysylltwch â: