Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Swyddi Gwag i Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso – Castell-nedd Port Talbot

Ydych chi’n fyfyriwr trydedd flwyddyn Gwaith Cymdeithasol sy’n chwilio am swydd?

Gallwn gynnig amrywiaeth o swyddi Gweithiwr Cymdeithasol parhaol ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant a fydd yn eich galluogi i ddechrau ar ôl i chi gymhwyso. Gallech gael cyfle hefyd i ddechrau yn y swydd cyn cadarnhau eich cymhwyster ar raddfa gyflog is fel Gweithiwr Cefnogi hyd nes y derbynnir cadarnhad o’r cymhwyster a’r Cofrestriad Gofal Cymdeithasol.

Gwneud cais:

Cefnogaeth

Fel Gweithiwr Cymdeithasol newydd gymhwyso gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, byddwch chi’n derbyn cefnogaeth i gwblhau’r Rhaglen Cydgrynhoi Ymarfer Gofal Cymdeithasol Yn ogystal, yn ystod eich blwyddyn gyntaf o ymarfer byddwch chi’n derbyn cefnogaeth sylweddol i gynorthwyo eich datblygiad gan gynnwys:

  • cyfnod cynefino manwl
  • bydd mentor addas yn cael ei glustnodi
  • cynllun datblygu personol (PDP) llawn
  • mynychu pob hyfforddiant gorfodol a pherthnasol
  • goruchwylio rheolaidd a chefnogol (bob pythefnos yn ystod y 3 mis cyntaf)
  • mynychu grŵp cefnogi ymarfer bob chwarter yn ystod y flwyddyn gyntaf
  • gwahoddiad i fynychu grwpiau cefnogaeth cyfoedion

Manteision

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn hybu ac yn annog trefniadau gweithio hyblyg er mwyn gweld gweithwyr yn elwa o gael cydbwysedd gwaith a bywyd; cynorthwyir hyn ymhellach gyda chyflwyno Fframwaith Gweithio Hybrid a byddwn yn cefnogi staff i weithio gartref ac yn y swyddfa.

Gallwn gynnig cyflogaeth sicr i chi gyda chyflog cystadleuol a thelerau ac amodau hael gan gynnwys 24 diwrnod o wyliau blynyddol (yn cynyddu i 21 dydd ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus), ynghyd â 2 ddiwrnod ychwanegol adeg y Nadolig, cynlluniau pensiwn a thâl salwch rhagorol, Mae gennym hefyd Grŵp Iechyd a Llesiant gyda loteri staff a gostyngiadau cysylltiedig, aelodaeth campfa ar bris gostyngedig, cynllun seiclo i’r gwaith a chynllun prynu gwyliau blynyddol ychwanegol, Mae gennym gynllun adleoli hefyd, os ydych chi’n ystyried adleoli.

Mwy o wybodaeth

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y rolau, cysylltwch â:

Sian Walker
Team Manager (Adult Services) pref
Maria Selby
Principal Officer (Children’s Services) pref