Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Is-grŵp Lle ac Adfywio

Cymorth ac ymateb tymor canolig - tymor hir dros yr un i 10 mlynedd nesaf er mwyn:

  • Gweithio gyda phartneriaid lleol i fesur y sioc economaidd bosibl i’r ardal yn y tymor byr a’r tymor hir, gan gynnwys effeithiau’r gadwyn gyflenwi.
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu strategaeth economaidd gredadwy i gefnogi proses bontio Port Talbot dros y degawd nesaf.
  • Datblygu a bwrw ymlaen ag achosion busnes i gael gafael ar y cyllid gwerth £100 miliwn.
  • Ystyried dulliau cymorth ehangach, gan gynnwys mesurau datgarboneiddio ehangach Llywodraeth y DU a fydd yn hwyluso proses bontio’r ardal.
  • Ceisio sicrhau buddsoddiad amgen er mwyn o leiaf ddisodli gwerth economaidd y swyddi a gollir a chefnogi cyfleoedd busnes newydd.
  • Pennu sut gellir ail-bwrpasu daliadau tir ar ddiwedd y datgomisiynu i gefnogi’r gwaith o adfywio safle Tata.
  • Cysoni a chysylltu cynigion ag amcanion strategol ehangach Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru