Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ywen

Honnir mai coed ywen yw'r rhai sy'n byw hiraf yn Ewrop. Gallant fyw am rhwng 600 ac 800 o flynyddoedd, ac weithiau dros 1000 o flynyddoedd. Gelwir coed â chwmpas rhwng 4.9 a 7 metr yn 'goeden hynod', ac mae unrhyw beth mwy yn 'goeden hynafol'. Bellach, ceir y rhan fwyaf o goed hynod mewn mynwentydd.  Mae dwy o'r coed yw yng Nglyncorrwg wedi'u nodi fel rhai hynod sy'n golygu eu bod rhwng 500 a 1200 oed. Mae pob rhan o'r ywen yn wenwynig iawn ac eithrio'r aeronen goch o amgylch yr hedyn.

Y man gorau i'w gweld = Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Glyncorrwg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y Grŵp Yw Hynafol.

Ywen