Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ysgyfarnog

Gwelir yr ysgyfarnog yn llawer llai aml na'r gwningen a gyflwynwyd i'r wlad hon, ond gellir cael cip arni yn CNPT o hyd. Mae ysgyfarnogod yn fwy llyfn na chwningod, gyda chlustiau a choesau ôl llawer hirach. Mae blaenau du ar eu clustiau bob amser. Mae ysgyfarnogod yn byw mewn caeau agored ag ambell loches. Gall fod yn anodd iawn cael cip arnynt; yn y dydd maent yn tueddu i guddio mewn pant bach yn y ddaear a elwir yn 'wâl'. Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch ysgyfarnogod yn paffio - gwryw a benyw fydd y rhain fel arfer.

Yn CNPT, gwelir ysgyfarnogod yn bennaf ar dir amaeth yr iseldir a thir comin ac agored yr ucheldir.

Y man gorau i'w gweld = Tir agored ym Margam

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Ysgyfarnog y Gymdeithas Famaliaid.

Ysgyfarnog