Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Llamhidydd

Mae'r llamhidydd yn forfil cyffredin yn ein dyfroedd. Maent yn teithio o gwmpas mewn heigiau bach gan fwydo ar bysgod ger yr arfordir. Maent yn llawer llai na'r rhywogaeth frodorol o ddolffiniaid ac felly mae'n anoddach cael cip arnynt. Fodd bynnag, gydag amynedd gallwch ddysgu sut i ddod o hyd iddynt yn y dŵr a'u gweld yn rheolaidd ar hyd yr arfordir. Nid ydynt yn gadael y dŵr yn aml fel dolffiniaid, ond byddant yn 'llamu' gyda'u cefnau mewn bwa llyfn. Mae gan lamhidyddion big byr iawn sy'n gwneud i'w pennau edrych yn ddi-fin o'u cymharu â phen dolffin.

Mae Bae Abertawe yn ardal arbennig o bwysig i lamhidyddion, a gwelir mamau â'u cywion yn aml.

Y man gorau i'w gweld = Unrhyw le â golygfa o'r môr

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Llamhidydd yr Harbwr ORCA.

Llamhidydd