Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybedog Mannog

Mae'r Gwybedog Mannog yn fwy o faint na'r Gwybedog Brith. Mae'n aderyn llwydfrown â brest lwydwyn, gyda marciau llwyd tywyllach a thalcen brith.  Maent yn hoffi eistedd a chadw llygad am bryfed, hedfan allan i'w bachu'n gyflym cyn dychwelyd i'r glwyd.

Mae eu hymddygiad wrth ddal pryfed yn eu gwneud yn haws eu gweld. Mae'r adar hyn yn ffafrio ardaloedd agored ymysg coed, megis mynwentydd, parciau, ffiniau coetiroedd a llennyrch. Cadwch lygad amdanynt mewn ardaloedd o'r fath ar draws CNPT.

Y man gorau i'w gweld = Planhigfa Glanrhyd

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Gwybedog Mannog yr RSPB.

Gwybedog mannog