Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Plu'r gweunydd

Er gwaethaf yr enw, hesg yw'r rhywogaeth hon mewn gwirionedd. Mae'r blodau dinod yn troi'n bennau hadau blewog tebyg i gotwm ym mis Mehefin/Gorffennaf gan greu effaith hardd ar draws glaswelltir gwlyb â llawer o bennau blewog yn chwifio. Mae'r papws hwn, fel dant y llew, yn ddefnyddiol i'r gwynt wasgaru'r hadau.

Gall y planhigyn hwn ddygymod â phridd asidig iawn a llifogydd, a dyma sut y gall oroesi mor dda ym mawndiroedd CNPT.

Y man gorau i'w weld = Comin Rhos

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Plu'r Gweunydd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Plu'r gweunydd