Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhedynen gyfrdwy

Mae'r Rhedynen Gyfrdwy yn un o'r rhedyn Ewropeaidd mwyaf. Gall ei dail dyfu i hyd at 300cm. Nid yw'r planhigyn hwn wedi amrywio rhyw lawer ers 180 miliwn o flynyddoedd. Mae ei niferoedd wedi lleihau o ganlyniad i golli cynefinoedd a'r ffaith y câi ei chasglu gan bobl Oes Victoria fel planhigyn gardd boblogaidd ac y defnyddid ei gwreiddiau fel ffeibr osmunda, deunydd i dyfu tegeirianau ynddo.

Bydd y rhywogaeth hon yn tyfu mewn pridd niwtral neu asidig mewn ardaloedd gwlyb, megis ffeniau, coetiroedd, corsydd a glannau afonydd. Fe'i gwelir mewn cynefinoedd addas ar draws CNPT.

Y man gorau i'w weld = Pwll Sgwâr/Camlas Nedd

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen Rhedynen Gyfrdwy Atlas Planhigion Prydain ac Iwerddon Ar-lein.

Rhedynen gyfrdwy